Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu Polisi Iaith Gymraeg cynhwysfawr. Mae'r polisi'n amlinellu 10 Egwyddor ymwneud y brifysgol â'r iaith Gymraeg.
Mae Canllaw Cyflym i'r polisi hefyd ar gael.
Mae'r polisi yn disgrifio sut mae'r brifysgol yn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ganolog i'w strategaeth a'i gweithrediad o ran:
- darpariaeth academaidd,
- gwasanaethau,
- defnyddio'r Gymraeg gan staff,
- datblygu polisïau a phrojectau a chadw cofnodion.
Mae Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor yn ogystal â'r Cod Ymarfer ar Benodi Staff yn unol â'r Safonau Iaith Gymraeg yn galluogi'r brifysgol i gyflawni ei hamcan strategol o fod yn sefydliad dwyieithog sy'n cyfrannu'n flaengar i ddatblygu'r iaith Gymraeg ac agenda dwyieithog yn y brifysgol, yr ardal gyfagos, ac yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae'r polisi'n galluogi'r brifysgol hefyd i weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg sydd wedi'u gosod arnom gan .
Mae Safonau'r Iaith Gymraeg a Pholisi Iaith Gymraeg y brifysgol yn disodli ein Cynllun Iaith Gymraeg
Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw Sylwadau neu Gwynion yn ymwneud â Pholisi Iaith Gymraeg y brifysgol neu'r ffordd rydym yn gweithredu Safonau'r Iaith Gymraeg.
I bwy y mae'r Polisi Iaith Gymraeg yn berthnasol?
Mae'r Polisi Iaith Gymraeg yn cyfeirio at waith y brifysgol gyda myfyrwyr, staff, unigolion a sefydliadau y tu allan i'r brifysgol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'r polisi'n berthnasol i holl ganolfannau adnoddau / cost ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag i unrhyw is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r brifysgol, ac unrhyw gwmni trydydd parti sy'n darparu gwasanaeth ar ran y brifysgol yng nghyd-destun y gwasanaeth hwnnw.
Trosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol Bangor
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion