Pontydd Barddoniaeth: Llenorion Gwadd Luke Kennard: Poetry and Fiction
I ddathlu 200 mlynedd ers adeiladu Pont y Borth, mae Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau) yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng nghwmni llenorion gwadd i ddathlu barddoniaeth fel ffordd o bontio, gan gysylltu syniadau, lleoedd a phobl. Digwyddiadau cyhoeddus yw鈥檙 rhain sy鈥檔 rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. C芒nt eu cefnogi gan Llenyddiaeth Cymru a thrwy haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.
Bardd a nofelydd yw Luke Kennard sy'n byw yn Birmingham. Enillodd Wobr Eric Gregory yn 2005 am ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, ac enillodd wobr y Forward Prize yng nghategori鈥檙 Casgliad Gorau yn 2021 am ei chweched cyfrol, Notes on the Sonnets. Mae ei gasgliad diweddaraf, The Book of Jonah yn ailddychmygu stori'r proffwyd cyndyn yn y Beibl. Eleni bydd yn cyhoeddi ei drydydd nofel, Black Bag, gyda gwasg Hachette. Hanfod y stori yw arbrawf seicoleg gymdeithasol lle mae popeth yn mynd o chwith yn y modd mwyaf trychinebus. Athro llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Birmingham ydyw wrth ei waith.