Pontydd Barddoniaeth: Llenorion Gwadd Hanan Issa: Bridging Cultures
I ddathlu 200 mlynedd ers adeiladu Pont y Borth, mae Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau) yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng nghwmni llenorion gwadd i ddathlu barddoniaeth fel ffordd o bontio, gan gysylltu syniadau, lleoedd a phobl. Digwyddiadau cyhoeddus yw鈥檙 rhain sy鈥檔 rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. C芒nt eu cefnogi gan Llenyddiaeth Cymru a thrwy haelioni cyn-fyfyrwyr trwy Gronfa Bangor.
Bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptwraig ac artist Iraci-Gymreig yw Hanan Issa a hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd - y Mwslim cyntaf i gael ei hanrhydeddu 芒鈥檙 teitl. Mae鈥檔 ymhyfrydu yn nhraddodiad canu ar y gynghanedd yn Gymraeg a鈥檌 nod yw ehangu ymgysylltiad pobl 芒 barddoniaeth. Mae ei gwaith yn ymdrin 芒 them芒u hunaniaeth, perthyn a natur. Mae鈥檔 llenor amryddawn. Hi ysgrifennodd a chyfarwyddo The Golden Apple (2022) a chyfrannodd at y rhaglen We Are Lady Parts ar Channel 4. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos mewn blodeugerddi o bwys, gan gynnwys Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales a Just So You Know: Essays of Experience, sy鈥檔 gyfrol yr oedd yn gyd-olygodd arni. Dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor yn 2025.