Nannau ar restr o 10 Adeilad Hanesyddol sydd mewn Perygl
Bob blwyddyn ers 2022, mae'r sefydliad cadwraeth, , wedi llunio rhestr o ddeg adeilad a thirwedd o'r ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd mewn perygl yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhestr yn tynnu sylw at adeiladau a thirweddau sydd wedi'u hesgeuluso ond 'gall a ddylai gael dyfodol disglair'. , gyda'r slogan 'stop the rot', ac mae'n cynnwys plasty Neo-glasurol Nannau yn Llanfachreth, Gwynedd. Roedd yst芒d Nannau yn gartref i deuluoedd pwerus Nanney a Vaughan am ganrifoedd ac yn ganolfan foneddigaidd flaenllaw yn hen sir Feirionnydd. Adlewyrchir hyn yn statws rhestredig Gradd II* y plasty, sy'n cael ei ddisgrifio fel 't欧 rhanbarthol pwysig iawn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif'. Fodd bynnag, mae'r plasty wedi newid dwylo sawl gwaith ers canol yr ugeinfed ganrif, ac mae wedi bod mewn cyflwr o ddirywiad sylweddol ers 2020. Ar 么l ymddangos ar restr gyntaf The Georgian Group o adeiladau mewn perygl yn 2022, mae ei ddychweliad i'r rhestr yn 2025 yn atgof clir bod y plasty yn parhau i ddirywio ac mewn perygl go iawn o gael ei golli'n gyfan gwbl oni bai bod camau gweithredol yn cael eu cymryd ar unwaith.
Mae Plas Nannau wedi'i leoli ger pentref Llanfachreth; rhyw dair milltir i'r gogledd o Ddolgellau, tref y mae'n gysylltiedig yn agos 芒 hi. Yn 么l y s么n, Cadwgan mab Bleddyn ap Cynfyn, Tywysog Powys, a adeiladodd y t欧 cyntaf ar y safle, a gofnodwyd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, pan ddaeth yn Arglwydd cyntaf Nannau. Parhaodd llinach wrywaidd teulu Nanney yn ddi-dor tan ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ond trosglwyddwyd yr yst芒d i deulu Vaughan o Hengwrt trwy briodas etifeddes Nanney, Janet, 芒 Robert Vaughan.
Cafodd eu mab Syr Robert Hywel Vaughan (1723鈥1792) ei greu鈥檔 Farwnig 1af ac ef a adeiladodd y Plas Nannau presennol 鈥 y pumed t欧 i sefyll ar y safle. Credir bod Syr Robert wedi addasu鈥檙 dyluniad ar gyfer ei blasty o lyfr o ddyluniadau tai gan y pensaer P. F. Robinson, gan ychwanegu elfennau Tuduraidd. Ar 么l marwolaeth Syr Robert ym 1792, disgynnodd y dasg o adeiladu鈥檙 plasty i鈥檞 fab a鈥檌 olynydd Syr Robert Williames Vaughan, 2il Farwnig (1768鈥1843), a chyflogodd y pensaer proffesiynol Joseph Bromfield i ddylunio adenydd y pafiliwn a鈥檙 addurniadau mewnol. Cwblhawyd y plasty ym 1805, ac mae ganddo olwg Neoglasurol gymedrol gyda chynllun sgw芒r. Er i adenydd y pafiliwn gael eu dymchwel yn y 1960au, mae Plas Nannau wedi'i restru'n Radd II*. Yn ogystal, hwn yw un o'r plastai uchaf ym Mhrydain Fawr, wedi'i leoli 700 troedfedd uwchben lefel y m么r.
Yn hanesyddol, yn bensaern茂ol ac yn olygfaol, mae Nannau o bwys mawr.
Disgrifiwyd y cyfnod Sioraidd fel 鈥榦es aur Nannau鈥. Nid yn unig y cafodd y t欧 ei ailadeiladu, ond ehangwyd yr yst芒d i 10,164 erw a chodwyd ffyrdd cerbydau newydd, bw芒u, ffermydd a lletyau. Rydym yn argymell ymweliad 芒 , sy'n archwilio hanes y bobl, yr adeiladau a'r tirweddau sy'n gysylltiedig 芒'r yst芒d, gan gynnwys deunydd archifol megis ffotograffau, catalogau arwerthiant a mapiau.
Ar 么l dros 900 mlynedd o feddiannaeth barhaus, gwerthodd y teulu y plasty ym 1965 a'r yst芒d ffermio ym 1975. Ym 1975, gweithredodd y plasty fel gwesty am gyfnod byr, ond mae wedi newid dwylo sawl gwaith ers hynny ac mae ei gyflwr wedi dirywio'n raddol; credir bod y perchennog presennol wedi bod ym meddiant Plas Nannau ers 2001, ac erbyn hynny dim ond cragen o adeilad ydoedd. Fodd bynnag, mae dirywiad y plasty wedi gwaethygu ers 2020, pan gafodd plwm ei ddwyn o'r to, gan arwain at ddifrod sylweddol gan dd诺r. Yn ogystal 芒 bod ar restr 'Top 10 Heritage Buildings at Risk' The Georgian Group yn 2022 a 2025, Plas Nannau oedd ; fe'i hychwanegwyd at gofrestr 'Buildings at Risk' SAVE Britain's Heritage yn 2023; ac roedd hefyd yn . Mae 3,784 erw o dir yst芒d hanesyddol Nannau, sydd bellach wedi'i wahanu oddi wrth y plasty, .
Tynnwyd sylw at arwyddoc芒d hanesyddol yst芒d Nannau yn y cyhoeddiad , a lansiwyd yng Nghorsygedol ar y cyd ag Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn 么l yn 2016. Dywedodd yr awdur Philip Nannau Williams, disgynnydd i deulu Nanney, wrthym fod: 鈥測 ffaith bod hanes Nannau mor gysylltiedig 芒 digwyddiadau mawr yn hanes a diwylliant Cymru, wedi arwain y diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a oedd yn uchel ei barch, i ddatgan bod y cyhoeddiad yn 鈥楲lyfr pwysig i鈥檙 Genedl Gymreig'. Mae'n debyg mai'r plasty Sioraidd presennol yw'r pumed i gael ei hadeiladu ar y safle, gyda'r strwythur cynharaf y gwyddys amdano wedi'i godi yn yr unfed ganrif ar ddeg gan ddisgynyddion Cadwgan ap Bleddyn, Tywysog Powys. Mae bellach yn sefyll yn anghof, sy'n ffawd drist i d欧 mor fonheddig, ond nid yw wedi'i anghofio gan fod pryder dwys am ei gyflwr yn amlwg, yn genedlaethol a thu hwnt.'
Mae Thomas Lloyd, aelod o Fwrdd Ymgynghorol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac awdur The Lost Houses of Wales: a survey of country houses in Wales demolished since c.1900, a gyhoeddwyd gan SAVE Britain鈥檚 Heritage ym 1986, yn ychwanegu bod 鈥測 posibilrwydd y bydd y plasty arbennig hwn yn cael ei ychwanegu at y catalog o dai coll yn erchyll. Mae鈥檔 warthus pan ystyrir y gwarchodaethau statudol ar gyfer adeiladau rhestredig sydd mewn lle, ac yn nwylo鈥檙 awdurdodau perthnasol. Pam nad oes dim wedi鈥檌 wneud? Yn hanesyddol, yn bensaern茂ol ac yn olygfaol, mae Nannau wir yn bwysig.鈥
Yn wir, mae angen gwaith atgyweirio brys i atal mwy o dd诺r rhag ddod i mewn a dirywiad pellach; mae ymdeimlad cryf bod amser yn rhedeg allan i Blas Nannau.
Meddai Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, fod 鈥測 posibilrwydd o golli Nannau 鈥 t欧 ac yst芒d sydd mor gysylltiedig 芒 hanes, diwylliant a thirwedd ei ardal a Chymru 鈥 yn warthus. Rhaid inni weithio i greu dyfodol i鈥檙 lle arbennig hwn a bod yn barod i weithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a鈥檙 gymuned leol fel rhan o鈥檙 ymdrech hon鈥.
(Gan Dr Bethan Scorey)