Beth yw Diwrnod i Ymgeiswyr?
Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.
Diwrnodau i Ymgeiswyr 2026
Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.ukos oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld - gobeithio y byddem yn gallu eich helpu i wneud eich penderfyniad terfynol.
PAM DEWIS PRIFYSGOL BANGOR?
Yn ogystal 芒鈥檙 addysgu rhagorol a鈥檙 adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy鈥檔 cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal 芒 hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to 成人VR视频 Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?