Dod o hyd i gwrs yn y Gyfraith
Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, arwain a newid bywydau gyda'n gilydd
Trawsgrifiad fideo: Astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn eistedd wrth fwrdd yng Nghaffi Cegin yn dal beiro gyda phapur ar y bwrdd yn chwerthin ac yn sgwrsio 芒 darlithydd a myfyriwr arall. Dau fyfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland yn sgwrsio ac yn gwenu ar ei gilydd gyda llyfrau a gliniaduron ar y ddesg tra bod myfyriwr arall yn brysur yn ysgrifennu ar ddesg yn y cefndir.
[TROSLAIS] 鈥榙a ni鈥檔 gymuned sy鈥檔 llywio cyfiawnder hefo鈥檔 gilydd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithydd yn siarad 芒'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Dr Hayley Roberts, Darllenydd mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol.
[TROSLAIS] Ein maint ydi un o鈥檔 cryfderau. Felly mi gewch chi鈥檙 profiad prifysgol mawr ond mewn lleoliad sy鈥檔 teimlo鈥檔 gefnogol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r camera'n symud ar draws Ystafell y Ffug Llus o'r gynulleidfa gyda myfyrwyr yn eistedd yn gwylio dau fyfyriwr arall yn ymarfer ar gyfer dadl yn y llys.
[TROSLAIS] Mae gennym ni gymaint o gyfleoedd anhygoel fel ffug lys, clinig y gyfraith ac opsiynau i astudio dramor.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad 芒 chamera o flaen cefndir coch mae testun yn ymddangos yn y gornel chwith isaf yn darllen Holly Jones, Myfyriwr Israddedig LLB y Gyfraith.
[TROSLAIS] Mae鈥檙 gymuned yma ym Mangor yn wych - tu fewn a thu allan i鈥檙 Gymdeithas Gyfreithiol.
[TROSLAIS] Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cynnig digwyddiadau cyffrous yn aml ac mae鈥檙 s卯n chwaraeon yma鈥檔 wych hefyd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tudalennau mewn llyfryn yn cael ei droi ar y bwrdd. Myfyrwyr yn sefyll yn gwenu gyda llyfrau yn y cefndir gyda myfyrwyr arall yn eistedd ar y bwrdd yn darllen.
[TROSLAIS] Mae鈥檙 cysylltiad rhwng y myfyrwyr a鈥檙 athrawon yn wych yma ac mae鈥檙 gefnogaeth maent yn eu gynnig yn wych hefyd.
[TROSLAIS] Mae鈥檙 grwpiau tiwtorialau Cymraeg yn dda iawn ar gyfer dal i fyny hefo myfyrwyr Cymraeg arall ac hefyd i ddefnyddio鈥檙 iaith wrth astudio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad 芒'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel gwaelod ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.
[TROSLAIS] Ym Mangor, mi gewch chi gyfle i roi鈥檙 pethau 鈥榙a 鈥榗hi鈥檔 dysgu yn y dosbarth ar waith.
[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn unigryw oherwydd ei leoliad gwych.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy Stryd Fawr Bangor gydag amryw o siopau a chaffis yn y cefndir.
[TROSLAIS] Wedi鈥檌 lleoli yng nghanol Stryd Fawr Bangor, mae ein myfyrwyr yn gweld amryw o gleientiaid ac achosion wahanol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.
[TROSLAIS] Mae bod yn rhan o glinig y gyfraith wedi bod yn brofiad anhygoel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn eistedd yn siarad 芒'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Ruth Roberts, myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.
[TROSLAIS] Dwi wedi gwella fy sgiliau drwy weithio hefo cleientiaid sy鈥檔 aml o dan straen.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Mae rhai o鈥檙 sgiliau dwi wedi dysgu, fyswn i byth wedi eu dysgu yn y dosbarth yn unig.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch. Myfyrwyr a darlithwyr yn y clinig cyfreithiol yn gwneud nodiadau ar gyfrifiaduron.
[TROSLAIS] Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd, felly 鈥榙a chi鈥檔 gwybod fe gewch chi eich dysgu gan unigolion lle mae'u hymchwil yn llywio polisi'r llywodraeth, ac yn cael effaith go iawn ar bobl cyffredin, ac yn gwneud gwahaniaeth ledled y byd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn siarad 芒'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Owain Evans, Myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.
[TROSLAIS] Diolch i'w dysgu nhw a'u cysylltiadau efo'r diwydiant, dwi wedi cael cip gwirioneddol ar fyd y gyfraith - ac wedi cael sawl cyfle gwych o ganlyniad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Holly Jones yn siarad 芒'r camera tu blaen i gefndir coch.
[TROSLAIS] O holi cwestiynau mewn Cystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid i fod yn hawliwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth Ffug.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn ymarfer yn y ffug llus. Mae'r camera yn symud o'r dde i'r chwith gydag un myfyriwr yn edrych ar y camera yn dal ffolderi yn gwisgo gwisg gyfreithiol. Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Mae astudio鈥檙 gyfraith ym Mangor yn agor drysau i gymaint o opsiynau gyrfa.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Fideo stoc o swyddfa fawr yn y ddinas. Llyfrau cyfreithiol ar y bwrdd.
[TROSLAIS] O gyfreithwyr lleol, i gwmn茂au dinas a siambrau bargyfreithwyr, i rolau cyfiawnder cymdeithasol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cyflogwyr mewn ffair yrfa gyda baneri yn y cefndir tra bod myfyrwyr yn siarad gyda'r cyflogwyr.
[TROSLAIS] Mae ein cysylltiadau cryf yn rhoi mynediad i chi i interniaethau, lleoliadau, siaradwyr gwadd a ffair gyrfaoedd fywiog.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch. Olygfa o Brif Adeilad y Brifysgol. Fflag Cymru yn hedfan yn y gwynt.
[TROSLAIS] Mae gennym ni gysylltiadau cryf gyda chwmn茂au yn yr ardal hefyd a鈥檙 opsiwn i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg .
[TROSLAIS] Mae hyn yn fantais enfawr i fyfyrwyr sy鈥檔 dymuno dilyn eu gyrfa yn lleol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Fel rhan o fy ngradd, dwi wedi bod ar leoliad gwaith mewn sefydliad 'not for profit'.
[TROSLAIS] Mae wedi rhoi cysylltiadau gwerthfawr i mi o fewn y gymuned leol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Ym Mangor, nid addysgu鈥檙 gyfraith yn unig yda ni -'da ni鈥檔 creu cyfleoedd, yn adeiladu'r dyfodol ac yn siapio arweinwyr cyfreithiol yfory.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad 芒'r camera o flaen cefndir coch.
[TROSLAIS] Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, Arwain a Newid Bywydau, Gyda'n Gilydd.
Ffug lys ym Mhrifysgol Bangor
Ffug lys yw llys barn ffug lle mae dwy ochr yn dadlau pwynt cyfreithiol o flaen rhywun sy鈥檔 gweithredu fel barnwr. Mae'n ffordd wych i helpu datblygu sgiliau cyfreithiol, sgiliau dadansoddi a sgiliau dehongli yn ogystal 芒 sgiliau eiriolaeth, ymchwil cyfreithiol, meddwl yn feirniadol a siarad yn gyhoeddus.
Fel ysgol lai, gallwn gynnig mwy o gyfleoedd ffug lys i fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr y gyfraith ym Mangor yn cael cyfle i ddadlau achosion cyfreithiol ffug, ymateb i gwestiynau ac adeiladu'r hyder sydd ei angen ar gyfer swyddi yn y byd cyfreithiol a thu hwnt.
Oni wedi clywed llawer o bethau da am y cwrs. Y rhan gora ydi'r ffaith bod 'na myfyrwyr Cymraeg eraill a da ni gyd yn gallu trafod am beth da ni wedi ddysgu yn y darlithoedd yn y Gymraeg.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?
Cwestiynau Cyffredin am Y Gyfraith
Mae LLB (Baglor yn y Gyfraith) yn radd israddedig yn y gyfraith sy'n dy helpu i ddeall sut mae'r gyfraith yn gweithio a sut mae'n llunio cymdeithas. Byddi鈥檔 archwilio meysydd allweddol o'r gyfraith wrth ddatblygu sgiliau gwerthfawr mewn ymchwil, meddwl beirniadol, datrys problemau a chyfathrebu.
Galli. Gall pob un o raddau LLB Bangor dy helpu i baratoi ar gyfer y camau nesaf i hyfforddi i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Ochr yn ochr ag astudio meysydd craidd y gyfraith, fe gei di鈥檙 cyfle i astudio pynciau sy'n berthnasol i'r Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (SQE), gan roi sylfaen gref i ti ar gyfer gyrfa gyfreithiol.
Yr Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr yw'r asesiad y mae'n rhaid ei gwblhau i gymhwyso i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae graddau鈥檙 Gyfraith ym Mangor yn cynnig cyfleoedd i astudio llawer o鈥檙 pynciau sy鈥檔 rhan o鈥檙 llwybr yma.
Galli. Mae graddau LLB Bangor yn darparu sylfaen gref i fyfyrwyr sydd eisiau bod yn fargyfreithwyr. Fe alli di astudio'r saith maes sylfaenol o wybodaeth gyfreithiol sy'n ofynnol ar gyfer y cam academaidd o hyfforddiant bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod dy radd, fe gei di gyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer gyrfa fel bargyfreithiwr trwy weithgareddau fel ymryson llys, gan gynnwys eiriolaeth, ymchwil gyfreithiol a siarad yn gyhoeddus.
Ar 么l graddio, bydd angen i ti gwblhau hyfforddiant proffesiynol pellach a bodloni'r gofynion a osodwyd gan Fwrdd Safonau'r Bar cyn cymhwyso fel bargyfreithiwr.
Mae gradd yn y Gyfraith yn agor y drws i ystod eang o yrfaoedd. Mae rhai graddedigion yn mynd ymlaen i fod yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr, tra bod eraill yn dilyn gyrfaoedd ym myd busnes, llywodraeth, polisi cyhoeddus, cyllid, plismona, addysg neu'r cyfryngau.
Mae'r wybodaeth a'r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygir drwy astudio'r Gyfraith yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn sawl sector.
Galli. Mae Bangor yn cynnig bob modiwl gorfodol yn y Gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag amrywiaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg dewisol. Mae鈥檙 modiwlau sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs a ddewisi di, felly edrycha ar dudalennau cyrsiau unigol am fanylion.
Byddi鈥檔 ennill sylfaen gref mewn gwybodaeth gyfreithiol ac yn datblygu sgiliau dwyieithog proffesiynol a all wella dy gyfleoedd gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol ac ystod eang o sectorau eraill.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.