³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Legacy Giving at Bangor: Making a Lasting Impact

Cefnogi Bangor

O'ch herwydd chi, gall myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor gael mynediad at gyfleoedd sy'n ffurfio eu dyfodol…

A hithau wedi'i gwreiddio yn nhirweddau, iaith a chymunedau gogledd Cymru, mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o gael ei chefnogi drwy haelioni pobl sy'n credu ym mhŵer addysg a darganfod.

Ers ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor hanes balch o ddyngarwch. O'r dechrau un, pan fu ffermwyr a chwarelwyr lleol yn rhoi cyfraniadau gwirfoddol o'u cyflogau wythnosol, mae rhoddgarwch wedi bod wrth wraidd stori'r brifysgol.

Heddiw, mae eich cefnogaeth chi yn newid bywydau. Mae'n grymuso ein myfyrwyr i ffynnu drwy agor y drysau at gyfleoedd, cyfoethogi eu profiad, a'u helpu i gyflawni eu potensial. Mae eich cefnogaeth hefyd yn sbarduno ymchwil arloesol ac iddo gyrhaeddiad byd-eang, sydd wedi'i seilio ar gryfderau a threftadaeth unigryw Cymru.

Diolch am eich cefnogaeth!

 

Mae pob rhodd a wnewch, o unrhyw faint, yn helpu i greu cyfleoedd, ysbrydoli darganfyddiadau, ac adeiladu dyfodol mwy disglair.

Os hoffech drafod eich rhodd neu archwilio sut allwch chi wneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Cysylltwch â'n Swyddog Datblygu, Persida Chung.

Eich Effaith: Straeon a Diweddariadau!

Mae eich haelioni yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud y mentrau hyn yn bosibl. O'ch herwydd chi, mae unigolion o bob cefndir yn gallu cael mynediad at gyfleoedd sy'n newid bywydau – gan gefnogi eu hastudiaethau, gwella eu llesiant, a'u galluogi i gyflawni eu llawn botensial. 

Prifysgol Bangor: Y Tu Hwnt i Ddarganfod. Gwneud Gwahaniaeth ers 1884.

Person mewn labordy yn gwisgo menyg a sbectol ac yn gafael mewn gwrthrych.
Trawsgrifiad fideo: Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

[0:00] Mae Prifysgol Bangor, 

[0:03] yn bwerdy ymchwil 

[0:06] sy'n ysgogi newid. 

[0:08] Mae ein darganfyddiadau yn llunio'r byd heddiw gyda ffocws ar 

[0:11] gynaliadwyedd, 

[0:13] diogelu'r amgylchedd, 

[0:15] a hyrwyddo bywiogrwydd economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol. 

[0:20] Mae ein hymchwil yn chwilio am atebion i rai o broblemau mwyaf heriol y byd 

[0:24] O wella iechyd a lles, 

[0:27] i ddatblygu'er economi 5G byd-eang. 

[0:30] a chanfod atebion ynni i'r dyfodol. 

[0:33] Gweithio mewn partneriaeth â llunwyr polisi, diwydiant, busnesau a chymunedau 

[0:37] Cefnogi'r sector Gwyddorau Bywyd 

[0:41] ac ymchwil perfformiad dynol mewn Gwyddorau Chwaraeon 

[0:45] Mae Bangor yn datblygu technolegau a gwytnwch ym maes ynni niwclear a meddygaeth, 

[0:48] trwy ein Sefydliad Dyfodol Niwclear blaenllaw. 

[0:52] Mynd i'r afael â newid Hinsawdd 

[0:55] gydag ymchwil i ynni carbon isel. 

[0:58] Ymdrin ag un o faterion amylcheddol mwyaf y blaned 

[1:01] gwastraff plastig a gorddefnyddio plastigau untro 

[1:04] a gwarchod yr amrywiaeth o rywogaethau ac ecosystemau 

[1:08] trwy ymchwil cadwraeth bioamrywiaeth. 

[1:12] Mae ein hymchwil ar Gymru, y Gymraeg a sgiliau ieithyddol 

[1:16] yn ysbrydoli cenedl ddwyieithog fywiog. 

[1:21] Mae ein darganfyddiadau yn llywio addysgu 

[1:24] gan alluogi myfyrwyr i ddysgu am ymchwil mewn amser real 

[1:28] Mae ein hymchwilwyr yn rhannu ethos sy'n croesawu 

[1:31] dewrder 

[1:32] uniondeb 

[1:33] cydweithio 

[1:34] hyder 

[1:35] ac ymddiriedaeth 

[1:36] gydag agwedd fyd-eang 

[1:38] sy'n ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. 

[1:42] Ymchwil 

[1:43] wrth wraidd ein gwaith 

[1:45] Ers 1884

Drwy eich cefnogaeth, mae ymchwil arloesol yn parhau i ffynnu, gan fynd i'r afael â heriau byd-eang a chael effaith ystyrlon ar gymunedau yng Nghymru a thu hwnt.