Mae ein rhaglenni yn y categori hwn yn cynnwys Peirianneg Electronig, Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol a Rheolaeth ac Offeryniaeth. Rydym hefyd yn addysgu gradd-brentisiaeth mewn Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol
Mae鈥檙 llwyddiant eithriadol hwn yn adlewyrchu ymroddiad ein staff, ein myfyrwyr a鈥檔 graddedigion, ac mae鈥檔 gydnabyddiaeth o ansawdd uchel yr addysgu, y gefnogaeth a'r profiad dysgu sy'n diffinio Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mangor.
Rydym yn angerddol am helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a meithrin yr hyder a'r profiad ymarferol sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn diwydiant cyffrous sy'n symud yn gyflym. Drwy gyfrwng dysgu ymarferol, cyfleusterau arbenigol ac addysgu sy'n cael ei lywio gan ymchwil, rydym yn paratoi graddedigion i fynd i'r afael 芒 heriau a gwneud gwahaniaeth i鈥檙 technolegau sy'n llunio ein bywydau beunyddiol.
Mae bod yn rhif 1 trwy鈥檙 Deyrnas Unedig yn garreg filltir arwyddocaol. Mae hynny'n gydnabyddiaeth o waith caled pawb sy'n rhan o'n cymuned ac mae鈥檔 atgyfnerthu ein henw da fel lle y gall myfyrwyr ffynnu'n academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Dywedodd yr Athro William Heath, sef Pennaeth yr Ysgol:
"Rydyn ni鈥檔 hynod falch o fod yn rhif 1 trwy鈥檙 Deyrnas Unedig." Mae hynny鈥檔 dipyn o gamp ac yn adlewyrchiad o ymrwymiad ein staff, o dalent a brwdfrydedd ein myfyrwyr, ac o'r amgylchedd dysgu cefnogol yr ydyn ni wedi'i adeiladu gyda'n gilydd.
Mae'n werth chweil cael cydnabyddiaeth o鈥檙 fath ar adeg pan fo sgiliau peirianneg yn bwysicach nag erioed. Rydym yn parhau鈥檔 ymrwymedig i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr a sicrhau bod ein graddedigion wedi'u harfogi i lwyddo ym meysydd diwydiant, ymchwil a thu hwnt."
Mae鈥檙 maes Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn un ag iddo hanes y gallwn ni ymfalch茂o ynddo. Mae ein rhaglenni'n rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio meysydd gan gynnwys dylunio electronig, systemau mewnosodedig, technolegau cyfathrebu a thechnolegau digidol newydd. Drwy gydol eu hastudiaethau, bydd ein myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol gwerthfawr ac yn datblygu'r sgiliau datrys problemau sy鈥檔 hynod ddeniadol i gyflogwyr.
Rydyn ni鈥檔 falch o'r gydnabyddiaeth hon, ond yn fwy balch byth o'r bobl sy鈥檔 gyfrifol am hynny. Hoffem ddiolch i'n myfyrwyr, i鈥檔 staff, i gyn-fyfyrwyr ac i bartneriaid mewn diwydiant am wneud y fath lwyddiant yn bosibl.
Wrth i ni ddathlu mai ni sy鈥檔 rhif 1 trwy鈥檙 Deyrnas Unedig, rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at barhau i ysbrydoli a chefnogi鈥檙 genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
Rhif 1 trwy鈥檙 Deyrnas Unedig ym maes Peirianneg Drydanol ac Electronig
Mae Prifysgol Bangor yn rhif 1 trwy鈥檙 Deyrnas Unedig ym maes Peirianneg Drydanol ac Electronig yn y Guardian University Guide 2027.