Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno egwyddorion ac arferion cyd-gynhyrchu, gan gynnig canllawiau ymarferol ar ddatblygu ymchwil neu wasanaethau gyda phobl sydd 芒 phrofiad o fyw gyda dementia. Mae鈥檔 addas i aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth eang o gefndiroedd, cyflwynir y cwrs trwy dri modiwl byr gan ddefnyddio sgyrsiau wedi eu recordio, cyfweliadau ac adnoddau ar-lein.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn cynnig tua 5 awr o ddeunydd addysgu ar-lein. Anogir cyfranogwyr i ganiat谩u 5 awr ychwanegol o amser astudio annibynnol er mwyn cael y budd mwyaf o'r cwrs.
Mae'r cwrs ar-lein ac yn hunan-gyfeiriedig, sy鈥檔 caniat谩u ichi astudio ar eich cyflymder eich hun.
Pam Astudio'r cwrs hwn?
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y rhai sy'n gwneud y cwrs wedi:
- Datblygu dealltwriaeth fanwl o gyd-gynhyrchu ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gyda phwyslais penodol ar weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia
- Ystyried amrywiaeth o ddulliau cyd-gynhyrchu a ddefnyddir mewn ymchwil sy'n gysylltiedig 芒 dementia a heneiddio
- Adyfyrio'n feirniadol ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig 芒 chymhwyso cyd-gynhyrchu yn eu cyd-destun proffesiynol neu glinigol eu hunain
- Cael cipolwg ar effeithiau cadarnhaol cyd-gynhyrchu ar unigolion, gwasanaethau a chanlyniadau ymchwil
- Teimlo'n fwy parod i ddylunio a chymhwyso egwyddorion cyd-gynhyrchu o fewn eu gwaith proffesiynol neu ymarferol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn addas i amrywiaeth eang o ddysgwyr, gan gynnwys:
- Pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau cyhoeddus neu breifat, yn y Deyrnas Unedig neu'n rhyngwladol (i gyfranogwyr sy'n siarad Saesneg), yn enwedig ym maes gofal iechyd a chymdeithasol
- Gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a chymdeithasol
- Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag elusennau, gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi oedolion h欧n, pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-d芒l ac aelodau o'r teulu
- Ymchwilwyr ac academyddion, gan gynnwys myfyrwyr doethurol, sy'n gweithio ym maes iechyd, gwyddorau cymdeithas neu wyddorau meddygol
- Aelodau o'r cyhoedd sydd 芒 diddordeb mewn ymchwil neu gyd-gynhyrchu
- Gofalwyr di-d芒l
- Pobl sy'n byw gyda dementia
Tiwtor
Y'r Athro Gill Windle
Gerontolegydd a Seicolegydd Siartredig sy'n arbenigo mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol yw Gill Windle (BSc; MSc; PhD). Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru. Nod ymchwil Gill yw gwella iechyd, llesiant a gwytnwch pobl h欧n, pobl 芒 dementia a'u cefnogwyr, a gwella gofal a darpariaeth gwasanaethau.
Mae Gill yn arwain astudiaethau dulliau cymysg a threialon ymyrraeth ac yn cyfrannu atynt, ac mae wedi arwain y gwaith o sicrhau cyllid ymchwil allanol, a chyfrannu at ymdrechion o鈥檙 fath, gan sicrhau cyfanswm gwerth 拢19,858,090.00, gan gynnwys 拢10,464,912.00 gan Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig (ERSC; MRC; AHRC), 拢7,142,988.00 o ddyfarniadau isadeiledd ymchwil Llywodraeth Cymru a 拢2,102,190.00 o ffynonellau eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Wellcome. Ei chyflawniad ymchwil mwyaf yw'r dyfarniad gwerth 拢1,480,000.00 gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd i arwain treial hapsamplu rheolyddedig o ymyrraeth iechyd digidol. i helpu gofalwyr dementia i ddatblygu sgiliau a gofalu amdanynt eu hunain.
Mae ei gwaith wedi llywio datblygiad polisi yng Nghymru, ac fel cynorthwyydd ymchwil 么l-radd yn 2001, roedd yn gyd-awdur chwe adolygiad llenyddiaeth gyda'r Athro Vanessa Burholt i lywio datblygiad y Strategaeth gyntaf i Bobl H欧n yng Nghymru. Mae hefyd wedi arwain adolygiad i lywio Cynllun Gweithredu Heneiddio'n Iach (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005). Yn dilyn ei PhD yn 2006, cafodd ei secondio i Uned Strategaeth Pobl H欧n Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystod cyfnod adolygu interim 2006/07 y strategaeth, ac roedd yn aelod o Gr诺p Cynghori鈥檙 Strategaeth.
Rhwng 2016 a 2018, roedd hi'n aelod o gr诺p tasg a gorffen strategaeth dementia Llywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o gr诺p Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio gweithrediad ac effaith y strategaeth dementia. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae hi'n rhan o ddau weithgor (gweithredu safonau gofal dementia; dysgu a datblygu), a gr诺p llywio gweithredu strategaeth dementia gogledd Cymru.
I gydnabod ei gwaith, dyfarnwyd cadair bersonol iddi gan Brifysgol Bangor yn 2018.
Cyflwynwyd allbynnau ymchwil unigol Gill i asesiad Uned Asesu 3 y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, a chyfrannodd yr allbynnau hyn i鈥檙 cyflwyniad gyrraedd y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Nodwyd bod 95% o'r hyn a gyflwynwyd gyda鈥檙 gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Arweiniodd ei hymchwil rhyngddisgyblaethol at gyflwyno astudiaeth achos effaith REF 2021 'Arloesedd mewn Gofal Dementia' /ref-2021#3
Mae projectau ymchwil cyfredol yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Arwain datblygiad fframwaith cysyniadol o wytnwch i bobl sy'n byw gyda dementia
- Arwain y gwaith o ddatblygu鈥檙 mesur canlyniadau cyntaf o wytnwch i bobl sy'n byw gyda dementia
- Arwain rhaglen waith gan gynnwys treial hapsamplu rheolyddedig sy'n archwilio technoleg a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, 'iSupport for dementia carers'
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno dysgwyr i egwyddorion ac arfer cyd-gynhyrchu mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gyda phwyslais penodol ar ddementia a heneiddio. Bydd cyfranogwyr yn ystyried pam mae cyd-gynhyrchu yn bwysig, y manteision y gall eu cynnig a sut y gall wella ansawdd ac effaith ymchwil a gwasanaethau.
Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau a fframweithiau allweddol, gan gynnwys egwyddorion cyd-gynhyrchu NIHR, a byddant yn trafod sut beth yw cyd-gynhyrchu o ansawdd uchel mewn ymarfer. Mae'r cwrs yn edrych ar y ffactorau sy'n sail i strategaethau cyd-gynhyrchu effeithiol mewn ymchwil i ddementia a heneiddio, ochr yn ochr 芒'r heriau a all godi wrth weithio gyda phobl sydd 芒 phrofiad ohono.
Trwy enghreifftiau a dysgu dan arweiniad, bydd cyfranogwyr yn ystyried amrywiaeth o ddulliau a dulliau cyd-gynhyrchu, gan ddatblygu'r gallu i archwilio a beirniadu eu hansawdd a'u priodoldeb. Mae'r cwrs hefyd yn annog dysgwyr i fyfyrio ar sut y gellir cymhwyso egwyddorion cyd-gynhyrchu yn eu cyd-destun proffesiynol, clinigol neu bersonol eu hunain, gan gefnogi ymgysylltiad mwy cynhwysol ac ystyrlon mewn gwaith yn y dyfodol.
Bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif cwblhau ar 么l cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Bydd yn nodi teitl y cwrs a nifer yr oriau DPP a astudiwyd / Bydd鈥tystysgrif cwblhau鈥ar gael ar 么l cwblhau鈥檙 cwrs yn llwyddiannus. Bydd yn nodi teitl y cwrs a nifer yr oriau DPP a astudiwyd.
Rhestr o unedau
Modiwl 1 鈥 Cyflwyniad i gydgynhyrchu
Modiwl 2 鈥 Cydgynhyrchu gyda gofalwyr di-d芒l a phobl sy鈥檔 byw gyda dementia
Modiwl 3 鈥 Sefydlu t卯m cydgynhyrchu gyda phobl sy鈥檔 byw gyda dementia
Cost y Cwrs
Mae'r cwrs yma am ddim.
Gwneud Cais
I ymuno 芒鈥檙 cwrs, bydd angen i chi greu cyfrif ar ein platfform Blackboard TDM yn gyntaf. Gallwch gael mynediad at ddogfen ganllaw i鈥檆h helpu i sefydlu eich cyfrif yma:
Unwaith y bydd eich cyfrif wedi鈥檌 sefydlu, gallwch hunan-gofrestru gan ddefnyddio鈥檙 ddolen cwrs yn y blwch coch isod.