Cwrdd â'ch Cymuned Fferylliaeth
Rhannwch y dudalen hon
Cwrdd â chynrychiolwyr o bob cwr o'r gymuned Fferylliaeth a dysgu mwy am y cyfleoedd proffesiynol, myfyrwyr a rhwydweithio sydd ar gael i chi yn ystod eich astudiaethau.
Bydd y sesiwn yn eich cyflwyno i'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), cynrychiolwyr myfyrwyr, BPSA, PharmSoc a Rhwydwaith Fferylliaeth y Gymraeg. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a sesiynau torri'r iâ dan arweiniad myfyrwyr.
Mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd â myfyrwyr a chynrychiolwyr presennol, dysgu mwy am y sefydliadau a'r rhwydweithiau sydd ar gael i'ch cefnogi, a dod i adnabod eraill ar y cwrs.