Ymunwch 芒 ni ar gyfer dathliad grymus o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod sy鈥檔 cynnwys trafodaeth banel ysbrydoledig ar Wydnwch a Chydweithio. Mae鈥檙 digwyddiad hwn yn dod 芒 phedair menyw nodedig ynghyd, gyda鈥檜 gwaith yn ymestyn ar draws cadwraeth, barddoniaeth a鈥檙 celfyddydau, arloesi ym maes iechyd byd-eang, a datblygu rhyngwladol. Mae pob un o鈥檙 panelwyr yn dod 芒 safbwynt unigryw wedi鈥檌 lunio gan arweinyddiaeth, creadigrwydd, eiriolaeth a phrofiad bywyd.
Bydd y sgwrs yn cael ei chadeirio gan yr Athro Enlli Thomas, Is-ganghellor (Iaith Gymraeg, Diwylliant a鈥檙 Rhanbarth).
Ein Panelwyr:
Yr Athro Julia Jones OBE
Mae Julia yn athro gwyddor cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor sydd 芒鈥檌 hymchwil yn canolbwyntio ar wella effeithiolrwydd polisi ac ymarfer ym maes cadwraeth natur. Mae hi hefyd yn ymwneud yn uniongyrchol 芒 pholisi ac ymarfer. Cafodd ei phenodi gan Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd i fwrdd y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur ac yn y swydd hon mae hi'n cyd-gadeirio gr诺p sy鈥檔 cynnwys prif wyddonwyr pum corff cadwraeth natur statudol y Deyrnas Unedig. Mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr WWF-UK. Dyfarnwyd MBE iddi am wasanaeth i'r amgylchedd yn rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd y Brenin.
Hanan Issa
Bardd, gwneuthurwr ffilmiau, sgriptwraig ac artist Iraci-Gymreig yw Hanan Issa a hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd - y Mwslim cyntaf i gael ei hanrhydeddu 芒鈥檙 teitl. Mae鈥檔 ymhyfrydu yn nhraddodiad canu ar y gynghanedd yn Gymraeg a鈥檌 nod yw ehangu ymgysylltiad pobl 芒 barddoniaeth. Mae ei gwaith yn ymdrin 芒 them芒u hunaniaeth, perthyn a natur. Mae鈥檔 llenor amryddawn. Hi ysgrifennodd a chyfarwyddo The Golden Apple (2022) a chyfrannodd at y rhaglen We Are Lady Parts ar Channel 4. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos mewn blodeugerddi o bwys, gan gynnwys Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales a Just So You Know: Essays of Experience, sy鈥檔 gyfrol yr oedd yn gyd-olygodd arni. Dyfarnwyd gradd er anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor yn 2025.
Dr Salamatu Jidda Fada
Addysgwr a gweithiwr proffesiynol ym meysydd cadwraeth a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yw Salamatu Jidda-Fada, ac mae鈥檔 ymroddedig i hyrwyddo hawliau a llesiant merched a genethod. Sefydlodd y Rhwydwaith Merched dros Ddatblygu Cynaliadwy a chyd-sefydlu Rhaglen Mentora LEAD ar gyfer myfyrwyr benywaidd ym Mhrifysgol Jos, Nigeria. Hi hefyd sy鈥檔 cynnull y fenter African Women in Conservation and Environment (AWiCONE) ac mae wedi mentora nifer o academyddion ar ddechrau a chanol eu gyrfa ledled Affrica. Mae hi'n arwain project The Shielded Girl Child mewn chwe thalaith yng ngogledd Nigeria. Mae hi wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor, a Gwobr Ieuenctid a Mentora gan y Nigerian Society of Conservation Biology.
Dr Elin Haf Davies
Dechreuodd gyrfa Elin Haf fel nyrs plant ac aeth ymlaen i weithio ym maes clinigol, yn y byd academaidd ac fel rheoleiddiwr, gan ennill BSc, MSc, a doethuriaeth. Arweiniodd ei phrofiadau iddi sefydlu Aparito yn 2014, gyda'r nod o ddigideiddio treialon clinigol a chyflymu datblygiad meddyginiaethau i glefydau sy'n cyfyngu ar fywyd. Roedd y dull yn canolbwyntio ar brofiad y claf a'r bwriad oedd gwneud treialon clinigol yn fwy hygyrch i bawb trwy eu llwyfan eCOA, Atom5TM.
Cenhadaeth Elin ar gyfer Aparito oedd diwallu anghenion cleifion, meddygon, rheoleiddwyr ac asiantaethau ad-dalu, ac mae hi'n parhau i fod wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau mesur canlyniadau mwy ystyrlon i gleifion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol. Cafodd Aparito ei brynu gan Eli Lilly and Company yn 2024.
Pan nad yw Elin yn gweithio, mae hi'n mwynhau treulio amser ar y m么r. Mae hi wedi bod yn ddigon ffodus i fynd ar anturiaethau anhygoel sydd wedi ei galluogi i godi arian at elusennau sy'n agos at ei chalon: mae hi wedi croesi M么r yr Iwerydd a Chefnfor yr India mewn cwch rhwyfo ac wedi hwylio ar draws y M么r Tawel a M么r yr Iwerydd, gan dreulio cyfanswm o 204 diwrnod ar y m么r.
I Elin, mae bod wrth drugaredd natur yn brofiad sy'n atgoffa pawb fod ganddynt eu "moroedd personol" eu hunain i'w croesi. Mae hi'n mwynhau'r her o gyfuno ei gyrfa broffesiynol ag anturiaethau eithafol sydd, yn ei barn hi, yn dod 芒 datblygiad personol a phersbectif gwahanol i'r ddau.