The De-Extinction of Experience: Listening In – BirdsonAilddyfodiad profiad: Gwrando’n Fanwl – Cân yr Adar a Gweithdy Cerdded Barddonol gyda Zoë Skouldingg and Poetry Walkshop with Zoë Skoulding
Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n gwrando ar goedwig?
Ymunwch â ni am dro tywysedig sy’n cyfuno cân yr adar a ysgrifennu creadigol. Mae’r gweithdy awyr agored hwn yn eich gwahodd i wrando’n astud ar y synau o’ch cwmpas, a’r ffyrdd y gall barddoniaeth adlewyrchu amgylcheddau naturiol.
Byddwch yn:
- Mynd am dro tywysedig drwy goedwig a gwrando ar gerddi’n cael eu darllen yn uchel
- Canolbwyntio ar wrando ar adar a synau’r amgylchedd
- Cymryd rhan mewn ymarferion byr, dan arweiniad, o farddoniaeth ac ysgrifennu
Does dim angen unrhyw brofiad o ysgrifennu na barddoniaeth.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, ond mae croeso i gyfranogi mewn unrhyw iaith.
Hyd: tua 2 awr
Digwyddiad am ddim | Oedolion (18+)
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect trawsddisgyblaethol, sy’n archwilio sut mae gwahanol ffyrdd o ymgysylltu ag amgylcheddau naturiol yn dylanwadu ar brofiadau, canfyddiadau, a theimladau pobl. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad rhyngweithiol sy’n cynnwys gwrando, arsylwi, ymateb, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sain amgylcheddol ac yn seiliedig ar natur. Yn dilyn y gweithgaredd, gofynnir i gyfranogwyr ateb ychydig o gwestiynau byr ynghylch eu profiadau, eu teimladau, a’u barn am natur a’r amgylchedd.
Gyda chefnogaeth gan WREC Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru.