Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Helo, Rhian Tomos ydw i a dwi'n ddarlithydd yma yn y Brifysgol ym Mangor,
ac mi rydan ni yn hynod o falch eich bod i chi wedi gwneud cais i ddod yma i astudio da ni yn edrych ymlaen at
ddangos i chi beth sydd yn gwneud Bangor yn lle mor wych i astudio astudiaethau plentyndod ac ieuenctid.
Mae Bangor yn amgylchedd rhagorol i archwilio bywydau profiadau a lles plant a phobl ifanc mewn byd sy newid yn barhaus.
Ar y cwrs yma fe fyddwch chi yn archwilio pynciau fel damcaniaethau dysgu, mi fyddwch yn edrych ar faterion fel addysg,
diogelu iechyd meddwl, hawliau plant a pholisia a hefyd yn datblygu sgiliau beirniadol ac ymarferol fydd eu hangen arnoch chi.
Pan fyddwch chi yn gweithio efo plant a phobl ifanc neu yn eiriol dros ei hawliau nhw ar yr hwb ymgeiswyr fe gewch chi
weld digon o wybodaeth ddefnyddiol am astudio ar y pwnc o strwythur y cwrs, be ydi cynnwys y modiwlau sydd beth ydy bywyd
ym Mangor i fyfyriwr y Gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bob myfyriwr a hefyd yr hyn sydd yn mynd yn eich disgwyl chi
Pan fyddwch chi yn cyrraedd yma atom ni. Da ni ein gobeithion fawr ac am eich croesawu chi yma i r campws yn fuan iawn.
Cwestiynau Cyffredin
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fel arfer bydd gennych 8-10 o oriau cyswllt, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Yn ystod weddill yr wythnos bydd disgwyliad arnoch chi i wneud hunain astudiaeth a threulio amser yn darllen, ymchwilio a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Oes, byddwch yn cael cyfle i fynd ar leoliad gwaith yn y flwyddyn gyntaf ac yr ail flwyddyn. Cewch hefyd gyfle i gwrdd ag arbenigwyr yn y maes a chlywed am eu profiadau.
Mae gennym dau gwrs yma ym Mhrifysgol Bangor, cwrs Cyfrwng Cymraeg a chwrs Cyfrwng Saesneg. Mae astudio drwy鈥檙 Gymraeg yn gallu rhoi mantais i chi os byddwch yn edrych am swydd yng Nghymru.
Mae gwobrau ariannol ar gael i chi pam fyddwch yn astudio o leiaf 40 credyd drwy'r Gymraeg gan gynnwys ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bwrsariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn edrych ar bob agwedd ar ddatblygiad plentyn, ei hawliau, caffael iaith, anghenion dysgu ychwanegol, i enwi ond ychydig. Bydd y radd yn eich paratoi i weithio gyda phlant mewn pob math o leoliadau, o'r blynyddoedd cynnar hyd at y llencyndod. Mae rhai o鈥檔 graddedigion yn mynd ymlaen i roi pwysau ar TAR i ddod yn athro Cynradd neu Uwchradd (yn amodol ar fodloni鈥檙 gofynion mynediad).
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr
Dr Nia Young
Mae'n fwy na gofal plant. Mae Astudiaethau Plentyndod yn tynnu ar seicoleg, cymdeithaseg, addysg, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth, athroniaeth - unrhyw beth a fydd yn ein helpu i ddeall yn iawn beth yw bod yn Blentyn heddiw a sut y gallwn wella profiad plant. Mae'n faes rhyngddisgyblaethol manwl i unrhyw un sydd eisiau gweithio gyda plant ac/neu ar eu rhan! Mae'n rhoi dealltwriaeth o sylfeini profiad dynol ac nid yw wedi'i gyfyngu i un disgyblaeth na safbwynt! Mae'n ddiddorol dros ben ac yn drosglwyddadwy i bob math o waith, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gofal plant.
Fy hoff beth am addysgu mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yw cwestiynu'r pethau rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol. Mae cymaint o'r hyn rydyn ni'n ei feddwl am blant a phlentyndod wedi'i glymu yn y stori y mae oedolion yn ei hadrodd yn seiliedig ar yr hyn maen nhw'n ei gofio. Dw i wrth fy modd yn cael gofyn cwestiynau sy'n gwneud i ni feddwl eto ynghylch a yw plentyndod wir yn amser gorau ein bywydau. Oedd bywyd wir yn haws pan oedden ni'n iau? A all plentyn dyfu i fyny'n rhy gyflym? A yw rhieni wir ar fai am bopeth? Gall fod yn heriol cymryd persbectif newydd ar bethau rydyn ni'n eu hystyried yn wir ond dw i wir yn mwynhau pa mor ddiddorol mae'r trafodaethau gyda myfyrwyr yn dod pan rydyn ni'n dechrau edrych ar syniadau fel hyn.
Dw i'n cofio cyrraedd Bangor am y tro cyntaf pan oeddwn i'n 17 oed ac edrych i fyny at y Coleg ar y Bryn, ac roedd yn teimlo'n iawn. Dw i'n cofio meddwl y gallwn i weld fy hun yn astudio yn yr adeilad hwnnw, bod y dref yn teimlo fel adref. Roedd hynny amser maith yn 么l, ond fy hoff ran am addysgu ym Mangor nawr yw dal i gerdded trwy'r adeilad hwnnw a meddwl am yr holl filoedd o bobl sydd wedi cerdded y coridorau hynny o'm blaen a theimlo cysylltiad efo nhw i gyd oherwydd y profiad rydyn ni鈥檔 ei rannu.
Mae bod yn dda yn academaidd yn ymwneud ag ymarfer yn unig. Nid yw'n rhywbeth rydych chi'n cael eich geni ag ef, mae'n rhywbeth rydych chi'n ei ddysgu, ac felly does dim terfyn ar yr hyn y gallwch chi fod yn dda ynddo os oes gennych chi ddiddordeb yn y pwnc a bod gennych chi'r bobl gywir i'ch cefnogi.
Dr Arwyn Roberts
Ar ol graddio mewn Daearyddiaeth Dynol a mynd ymlaen i TAR cynradd, mae gweithio hefo plant wedi bod yn bwysig i mi, mae wastad yn ddiddorol, hwyl ac yn agoriad llygaid.
Mae'r syniadau a sylwadau mae plant a phobl ifanc yn rhoi yn ein Huwchgynadleddau yn hynod o ddiddorol.
Roedd y cyfle i weithio ar astudiaeth Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 Llais y Disgybl dros gyfnod Covid yn brofiad gwych a wnes i ddysgu llawer bod y ffordd mae ysgolion yn gwrando ar blant yn amrywio.
Cymerwch fantais o'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr, o gymorth astudio i chwaraeon sydd ar gael yma. Gwnewch y mwyaf o'ch amser yma!