成人VR视频

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Bangor

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Cymdeithaseg yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymdeithaseg

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.

Gwyliwch ein fideo

Llun i Cynog Prys darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Fideo: Cynog Prys - Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor.

Dr Cynog Prys ydw i, dwi'n uwch ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn y Brifysgol, lle dwi yn arbenigo mewn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Methu disgwyl cael gweld chi yn cyrraedd yma yn y Brifysgol i astudio pwnc sydd ym mor bwysig, sydd mor amserol i ni heddiw lle da ni yn trio neud synnwyr o'r byd o'n cwmpas ni lle da ni'n trio neud synnwyr o'r gymdeithas a'r newidiadau sydd yn digwydd yn y gymdeithas.

Mi fydd yn gr锚t cael chi yma i astudio efo ni.

Felly da ni'n cyfri'r diwrnodiau tan fod chi yn cyrraedd. Pob lwc i chi!

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr ym Mangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-byst, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Dr Corinna Patterson

 

Dr Corinna Patterson

Mae cymdeithaseg yn llywio pob agwedd ar fy mywyd - mae'n fy ngalluogi i ddeall pobl fel unigolion, mae'n hysbysu beth rwy鈥檔 ei wneud, beth rwy鈥檔 ei fwyta, beth yw fy mlaenoriaethau, sut rwy鈥檔 pleidleisio, a sut rwy鈥檔 ymgysylltu 芒 natur, diwylliant a phobl o bob cefndir.

Mae'n gyfredol ac yn gyffrous i ddeall y materion sy鈥檔 effeithio ar gymdeithas heddiw

Popeth - mae'n eich galluogi i archwilio unrhyw fater gyda lens chwilfrydig a beirniadol

Cymryd rhan mewn clybiau myfyrwyr a mynd allan i鈥檙 cefn gwlad hardd - cofleidiwch yr holl agweddau ar fywyd myfyriwr.

Dr Hefin Gwilym

 

Dr Hefin Gwilym

Nid yw fy maes pwnc erioed wedi bod yn fwy perthnasol. Mae sut rydym yn mynd i'r afael 芒 materion megis yr argyfwng tai a'r heriau yn y GIG yn bryderon mawr, a gall Polisi Cymdeithasol gynnig atebion i'r problemau hynny a phroblemau eraill.

Rwyf erioed amser wedi bod 芒 diddordeb mewn sut mae cymdeithas yn cael ei llywodraethu a pha bolis茂au sy'n gwneud y gwahaniaethau mwyaf i bethau fel tlodi ac anghydraddoldeb. Mae Polisi Cymdeithasol yn archwilio'r meysydd hyn ac yn cynnig atebion i rai o brif broblemau cymdeithas mewn meysydd megis tai a lles.

Rydw i鈥檔 mwynhau addysgu am feysydd amserol a chyfoes wrth fynd i'r afael 芒 thlodi ac anghydraddoldeb yng nghymdeithas y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Rydw i鈥檔 ffodus iawn bod gen i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn fy nosbarthiadau ac rydw i鈥檔 mwynhau clywed eu straeon a'u profiadau yngl欧n 芒 pholis茂au cymdeithasol mewn meysydd megis iechyd ac addysg.

Rydw i鈥檔 mwynhau rhyngweithio 芒'r myfyrwyr a dysgu o'u profiadau o wladwriaethau lles ledled y byd. Mae'n wych gweld myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau, yn enwedig ar 么l i mi roi cyflwyniad am faes amserol.