Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Economeg ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Yma yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniat谩u i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Rhys ap Gwilym dwi, dwi'n Uwch Darlithydd mewn Economeg.
Dwi'n dysgu myfyrwyr blwyddyn gyntaf a'r drydedd flwyddyn yma yn yr Ysgol Fusnes. Fy Niddordebau i, maen nhw'n eang ar draws y pwnc economeg. Mae gen i ddiddordebau sy'n ymwneud efo, polisi economegol yn effeithio bywydau pob dydd ni.
Mi fysem yn caru dysgu chi am y pwnc difyr yma, a gobeithio cael y cyfle i wneud hynny yn y dyfodol. Gobeithio byddwch chi'n dewis i ddod i ymuno gyda ni yma ym Mangor.
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr
Dr Edward Jones
Bod safbwyntiau gwahanol o hyd ynghylch y ffordd orau o ddatblygu鈥檙 economi a sicrhau ei bod o fudd i bawb.
Bu gennyf ddiddordeb erioed mewn marchnadoedd. Pan oeddwn i'n blentyn byddwn yn mynd i'r farchnad da byw leol gyda fy nhad ac yn rhyfeddu at y ffordd y cai prisiau eu pennu gan gyflenwad a galw. Yna dechreuais ymddiddori mewn mathau eraill o farchnadoedd (e.e. stociau, bondiau) ac roedd economeg yn bwnc naturiol i mi ei astudio.
Fy hoff beth am economeg yw ei fod wastad yn y newyddion ac yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Mae hyn yn caniat谩u i mi gael trafodaeth wych gyda fy myfyrwyr ynghylch sut mae'r gwaith damcaniaethol rydym ni'n ei ddysgu yn y dosbarth yn ymwneud 芒 digwyddiadau cyfoes.
Y cyfle i ddysgu gan fy nghydweithwyr (a myfyrwyr!) ac amgylchedd sy'n annog datblygu dysg newydd sy'n berthnasol i'r byd go iawn.
Pobl - Busnesau - Llywodraethau
Nia Weatherley
Ar 么l cwblhau fy Lefel A, es ymlaen i astudio meddygaeth i ddechrau, ond sylweddolais nad oedd hynny i mi. Cefais le yn Ysgol Fusnes Albert Gubay trwy鈥檙 drefn glirio, ac ar 么l fy narlith economeg gyntaf un roeddwn i鈥檔 gwybod mai dyna oedd y pwnc i mi oherwydd ei fod yn darparu adnoddau gwerthfawr ar gyfer deall y byd a sut mae鈥檔 gweithio.
Pan fyddaf yn gofyn i bobl "beth yw economeg?", mae'r mwyafrif llethol o bobl yn ei gysylltu 芒'r hyn rydw i鈥檔 ei alw'n "prif benawdau economeg" (sef y pethau yr ydym yn aml yn clywed amdanynt yn y newyddion megis twf economaidd, chwyddiant, diweithdra). Er bod y materion hynny鈥檔 sicr yn faterion economaidd, mae economeg yn llawer mwy na hynny fel maes pwnc. Mae cysyniadau craidd economeg yn seiliedig ar ddeall sut mae unigolion, busnesau a llywodraethau鈥檔 gwneud penderfyniadau, sut maent yn rhyngweithio 芒'i gilydd a'u hamgylchedd naturiol a sut mae'r penderfyniadau a'r rhyngweithiadau hynny鈥檔 newid dros amser. Gall economeg ein helpu i ateb llawer o gwestiynau diddorol megis "Pam mae pobl fel Cristiano Ronaldo, Lionel Messi a Kylian Mbappe yn gwneud cymaint o arian?", "Pa effaith fydd Deallusrwydd Artiffisial yn ei gael ar y byd fel rydyn ni'n ei adnabod?" ac "O ble daw pethau e.e. y bwyd ar eich pl芒t, y dillad rydych yn eu gwisgo?", "Sut mae pethau'n cyrraedd y lle iawn ar yr amser iawn?", i enwi dim ond rhai!
Gwnewch yn si诺r eich bod yn cael profiad llawn o fywyd y Brifysgol yn ystod eich amser ym Mangor! Er eich bod chi yma i astudio yn y pen draw, mae gan Fangor hefyd lawer mwy i'w gynnig gan gynnwys amrywiaeth eang o gymdeithasau, clybiau chwaraeon a gweithgareddau.
Y cyngor gorau a gefais pan ddechreuais yn y Brifysgol oedd peidio 芒 bod yn swil nac yn ofnus i ofyn cwestiynau i'r darlithwyr a gofyn am help! Nawr, fel darlithydd, fy mantra yw "Yr unig gwestiwn gwirion yw'r un dydych chi ddim yn ei ofyn i mi"
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn le cyfeillgar gyda staff cefnogol ac agos-atoch.