Croeso i'ch Hwb Ymgeiswyr
Croeso i'ch hwb Fferylliaeth a Ffarmacoleg. Rydym wedi creu'r dudalen hon i rannu gwybodaeth am yr hyn sy'n gwneud astudio ym Mangor yn unigryw ac i'ch helpu i wneud y penderfyniad pwysig ynghylch ble rydych chi'n mynd i ddechrau eich taith.
Archwiliwch yr hyn sy'n gwneud Bangor yn arbennig - o ymchwil arloesol a chyfleoedd dysgu ymarferol i gymuned fywiog a chefnogol lle gallwch ffynnu.
Eich Hwb Ymgeiswyr yw'r lle i chi fynd iddo am bopeth sydd ei angen arnoch: manylion cwrs, straeon myfyrwyr, ac awgrymiadau i'ch helpu i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Darganfyddwch beth sy'n aros amdanoch chi yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a dechreuwch gynllunio eich dyfodol heddiw!
Oeddech chi'n gwybod?
O ddarganfyddiadau cyffuriau newydd i ofal cleifion, byddwch yn astudio beth sy'n gyfredol ac yn cael effaith.
Bydd eu cefnogaeth a鈥檜 mentoriaeth yn eich helpu i lywio eich astudiaethau a pharatoi ar gyfer eich gyrfa mewn fferylliaeth, ffarmacoleg neu feysydd eraill.
Mae'r amgylchedd hwn yn helpu i ddod 芒 dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fyw ac yn datblygu sgiliau y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Neges gan Llinos Williams
Helo, a llongyfarchiadau ar wneud cais astudio yn Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Rydach chi wedi cymryd y cam cyntaf cyffrous tuag at ddyfodol mewn gofal iechyd.
Un sydd wedi wreiddio mewn pwrpas, cymuned ac effaith yn y byd go iawn.
Nawr eich bod wedi wneud cais. Efallai byddwch yn meddwl tybed beth sydd yn digwydd nesaf?
Peidiwch 芒 phoeni, fyddan ni yma eich tywys bob cam or ffordd.
Dyna pam rydan ni wedi creu eich hwb ymgeiswyr. Dyma eich gofod canolog ar gyfer pob dim sydd angen arnoch.
O gwestiynau cyffredin ac arweiniad ymarferol, i setlo ym mywyd Bangor a chysylltu gyda chyd-ddisgyblion y dyfodol.
Gwnewch yn si诺r eich bod yn ei wirio yn rheolaidd fel nad ydych yn colli yn rywbeth pwysig.
Rydym yn gobeithio eich croesawu i Fangor lle fyddwch chi n dysgu yn tyfu ac yn paratoi ar gyfer
gyrfa syn ymroddedig i wella iechyd a lles mewn cymunedau ledled gogledd Cymru a thu hwnt.
Archwiliwch eich hwb ymgeiswyr heddiw a chymryd y cam nesaf tuag at eich dyfodol gyda ni.
Cwrdd 芒'r Darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.
Sgwrsio 芒 Myfyrwyr a Staff
Oes gennych chi gwestiynau mwy penodol neu eisiau sgwrsio 芒'n myfyrwyr presennol? Gofynnwch unrhyw beth iddynt am y cwrs, bywyd campws, neu ymgartrefu. Maen nhw wedi bod yn eich esgidiau ac yn hapus i helpu ar Unibuddy.
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael cipolwg ar fywyd ym Mangor - straeon myfyrwyr, digwyddiadau campws, a phopeth sy'n gwneud astudio yma yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn unigryw!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw ymarferol labordy? 馃ゼ Cyfle i gael cipolwg ar ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf o'r Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg yn cynnal ymchwiliad ymarferol gan ddefnyddio madarch 馃崉 Ever wondered what a lab practical is ACTUALLY like? 馃ゼ Have a peek at our first year students from Medical Sciences, Biomedical Science and Pharmacology undertaking an investigation practical using mushrooms 馃崉