成人VR视频

Fy ngwlad:
Llun person camera yn ffilmio actorion yn cael cyfweliad

Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Fideo: Dafydd Palfrey, Darlithydd (Hyb Ymgeiswyr)

Helo, Fy enw i yw Dafydd Palfrey. Dwi'n ddarlithydd ysgrifennu ar gyfer y sgrin yma ym Mhrifysgol Bangor.

Gewch chi weld bod 'na ddigon o amrywiaeth o fodiwlau yma i ddewis yn y maes, modiwlau ymarferol a modiwlau mwy dadansoddol a byddwn yn plethu elfennau yna gyda鈥檌 gilydd.

Mae hefyd cyfleoedd gwych gyda chi i ymuno gyda chymdeithasau, a chymdeithasau byrlymus sydd yn cynhyrchu nifer o bethau fel cynyrchiadau llwyfan ac ati.

Mae lleoliad yma yn ardderchog ar gyfer unrhyw beth creadigol a wnewch chi ffeindio bod yna ddiwydiant llewyrchus yma ym myd teledu a ffilm.

Gyda chymuned glos a chroesawgar iawn yma, a dwi yn sicr gewch groeso cynnes iawn os ydych cyn penderfynu dod i ymuno gyda ni ym Mangor.

Cwestiynau Cyffredin

Mae eich wythnos arferol yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol, ymarferion o bosib, gwylio ffilmiau yn y sinema, ffilmio, recordio ar leoliad gydag eich cyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Weithiau bydd gofyn i chi gwblhau tasgau ar gyfer y sesiwn nesaf ar gyfer y modiwl, yn annibynnol neu/ac mewn gr诺p tuag at eich astudiaethau. Mae yna hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gyda chymdeithasau bywiog y coleg, er enghraifft, Y Gymdeithas Ffilm, Cymdeithas Sioeau Cerdd Bangor, Papur newydd y Brifysgol, ac amryw o gymdeithasau cerddorol, megis corau a cherddorfa o fri. Gallwch fod mor brysur 芒 'da chi eisiau bod neu gyfle i ymlacio ar adegau yn lle!

Fel arfer, rydych yn astudio tri modiwl yn bob semester sydd yn golygu 9-12 awr o amser cyswllt yn wythnosol. Yn dilyn hyn, mi fydd gofyn i chi gwblhau gwaith annibynnol, er enghraifft darllen yn wythnosol, mynd i wylio perfformiadau, ffilmiau, sgyrsiau byw yn llefydd fel ein Canolfan Celfyddydau, Pontio. Ac ar rhai wythnosau mi fyddwch yn cyfarfod yn ychwanegol o fewn eich grwpiau dosbarth er mwy ymarfer tuag at berfformiad, ffilmio ffilmiau byr/dogfen, recordio podlediad, golygu, sgriptio a gweithio ar eich portffolio creadigol.

Paratowch ar gyfer eich gyrfa mewn newyddiaduraeth, ffilm cyfryngau neu/a drama gydag offer ffilm, recordio a golygu o safon yn ogystal 芒 gofodau perfformio gwych.

Mae ein gennym Gamer芒u Black Magic, Meddalwedd golygu Adobe Creative Suite a DaVinci Resolve yn ogystal ag ystafell radio a phodledau, Theatr Bryn Terfel sydd a 450 o seddi, Stiwdio theatr gyda 150 o seddi a Sinema!

Pontio ein Canolfan Celfyddydau ac Arloesi yw鈥檙 lle rydym o dro i dro yn arddangos eich ffilmiau a鈥檆h projectau creadigol. Bydd Pontio hefyd yn rhoi rhaglen ymlaen sy'n cynnwys ffilmiau celf a鈥檙 ffilmiau mawr diweddaraf, a chynyrchiadau dawns a theatr gyfoes gallwch fynd i fwynhau yn amser eich hun (bydd cost ychwanegol). 

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag enwau blaenllaw ym myd ffilm, theledu a theatr Cymraeg, gan gynnwys:

  • Ffilm Cymru Wales, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm yng Nghymru
  • Stiwdios Ffilm Aria - Llangefni
  • Fran Wen - cwmni theatr yn Mangor

Ni fydd angen i chi deithio'n bell i ddysgu be ydy be! Bydd cyfle i gael teithiau tywysiedig o amgylch setiau teledu Rownd a Rownd. Bydd gweithdai a dosbarthiadau meistri yn cael eu cynnal yn y Brifysgol gyda chriwiau proffesiynol llawrydd trwy Academi Sgrin Cymru. Byddwn hefyd yn dod ag arbenigwyr o鈥檙 diwydiant i mewn i gynnal sesiynau sgiliau i hybu eich cyflogadwyedd. Mae ein graddedigion wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

Mae Eryri鈥檔 darparu cefnlen anhygoel i ffilmiau mawr a鈥檙 cyfresi poblogaidd diweddaraf. Mae ein traethau a鈥檔 mynyddoedd godidog i鈥檞 gweld yn Tomb Raider, Clash of the Titans, House of Dragons ac yn The Crown. Wrth astudio ym Mangor, cewch gyfle i ffilmio yn yr un mannau trawiadol ag y bu stiwdios enfawr Hollywood. Adeiladwch bortffolio a th芒p arddangos cofiadwy i'w ddangos i'r diwydiant ffilm a pherfformio ar 么l graddio.

Dewch i gael blas ar ein cymuned glos

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Image of Ffion Evans on the beach looking away from the camera

Ffion Evans

Ein bod ni鈥檔 cael archwilio disgyblaeth Drama, Theatr a Pherfformio鈥檔 barhaus ochr yn ochr 芒 sut mae鈥檔 datblygu o fewn y sector diwydiannau creadigol. Mae drama yn ffurf fywiog iawn sy'n esblygu ar gyflymder sy'n gyffrous!

Mae Bangor yn lleoliad o harddwch naturiol eithriadol. Mae cael y cyfle i fod yn greadigol mewn lleoliad sy鈥檔 brydferth bob dydd yn gwneud y broses o greu yn fwy pleserus.

Mae llawer o鈥檓 profiadau o weithio gyda myfyrwyr ar ymchwil trwy brojectau creadigol. Mae adeiladu cwmni o fyfyrwyr dros dair blynedd a'u gweld yn datblygu'n artistig, yn greadigol, yn feddylgar ac yn gydweithredol 芒'i gilydd yn fraint i'w gweld. 

Yn aml, mae myfyrwyr yn ymgysylltu 芒'r gymuned ar sawl lefel wahanol, o weithio gyda chwmn茂au theatr lleol, stiwdios ffilm a theledu, i fentrau celfyddydau ac iechyd a chelfyddydau mewn addysg a gweld sut mae syniadau a gweithredoedd ein myfyrwyr yn cael effaith ar fywydau beunyddiol yn caniat谩u i'r daith ymchwil fod yn ystyrlon ar sawl lefel wahanol.

Daliwch ati ac ymddiriedwch yn y broses! Mae cael y cyfle i ddysgu pethau newydd drwy gydol eich bywyd yn fraint llwyr; felly, manteisio i'r eithaf ar y profiadau cyfoethog y byddwch chi'n rhan ohonynt yw'r hyn sy'n gwneud y daith yn un feithringar.

 

Nathan Abrams

Yr Athro Nathan Abrams

Rydw i鈥檔 cael addysgu fy hobi a dangos ffilmiau newydd bob blwyddyn.

Rydw i wedi mwynhau dysgu am fywyd a gwaith y cyfarwyddwr chwedlonol Stanley Kubrick.

Stanley Kubrick! Rydw i wedi bod yn addysgu amdano ac yn ymchwilio iddo ers 2007. Mae gen i lawer o gwestiynau!

Rydyn ni bob amser yn gwylio鈥檙 cyfryngau ac yn rhoi'r sgiliau hanfodol i chi ei ddadansoddi a'i ddeall yn ogystal 芒'i greu.

black and white image of Stephanie Steverson

Stephanie Steventon

Heb os nac oni bai, gweld sut mae cynhyrchu ffilm a chyfryngau yn helpu myfyrwyr i dyfu mewn hyder. Boed hynny o ddatblygu'r gallu i gyfleu eu syniadau (a all fod yn rhywbeth sy鈥檔 gwneud iddynt deimlo鈥檔 fregus iawn) i ddod yn hyderus wrth ddefnyddio offer a meddalwedd gwneud ffilmiau, i rannu eu gwaith 芒 chynulleidfaoedd.

Byddai'n rhaid i mi daflu ceiniog i ddewis rhwng y cyfarwyddwr ffilm David Lynch a'r pypedwr Jim Henson, ond am yr un rheswm. Byddwn wedi bod wrth fy modd cael y cyfle i siarad 芒'r naill neu'r llall ohonyn nhw am eu proses greadigol, o ble mae syniadau鈥檔 dod ac am eu gwaith.

Yn 2025, enillodd gr诺p o fyfyrwyr o fy modiwl Cynhyrchu Ffilmiau Byrion wobr myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru am eu ffilm fer, Tape 15. Roedd yn bleser eu goruchwylio a gweld y ffilm yn datblygu, o gynhyrchu syniadau i 么l-gynhyrchu, a chael ei chydnabod mewn gwyliau ffilm yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

I fod yn bendant eich penderfyniadau. Pan roeddwn i鈥檔 fyfyriwr israddedig, dywedodd darlithydd roeddwn i'n eu hedmygu, 鈥淵 rhan orau o wneud penderfyniad yw, os mai'r penderfyniad anghywir ydyw, y gallwch chi wneud penderfyniad arall sy'n fwy gwybodus鈥. Mae diffyg gweithredu oherwydd perffeithiaeth yn broblem wirioneddol i ymarferwyr creadigol, a'r ateb bob amser yw: gwnewch y gwaith!

Dr Elena Hristova

Dr Elena Hristova

Dysgu beth mae myfyrwyr yn ymddiddori ynddo - y llynedd, roedd fy nosbarth Diwylliannau Gweledol blwyddyn gyntaf wedi cyffroi'n l芒n ar gyfer ein hwythnos graffiti, ac ysgrifennodd llawer ohonynt draethodau ar graffiti yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Unol Daleithiau. Ac felly, cymerais eu cyffro a datblygu'r modiwl ymhellach i wneud ymchwil ar graffiti. Felly yn ystod semester y gwanwyn hwn, byddwn yn dogfennu graffiti yn yr ardal leol ac yn datblygu ein dealltwriaeth o sut mae graffiti鈥檔 cyfleu ymdeimlad o le a pherthyn.

Graddio a鈥檙 Arddangosfa Diwedd Blwyddyn lle mae myfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau鈥檔 arddangos eu gwaith ymchwil ac ymarfer creadigol - mae鈥檔 wych gweld ein myfyrwyr mor falch o鈥檜 cyflawniadau, a hefyd gweld eu rhieni balch.

Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda myfyrwyr ar ymchwil. Y llynedd, cafodd un fyfyrwyr eu penodi fel fy intern cyflogedig i greu cyfres o bodlediadau a oedd yn tarddu o fy llyfr 'The Ghost Reader: Recovering Women's Contributions to Media Studies' (Goldsmiths Press, 2024) - roedd yn brofiad gwych.

Darllenwch, a defnyddiwch 'The Elements of Style' gan Strunk a White - sef llyfr bychan am ysgrifennu'n dda: Dwi bellach yn ei argymell i bob myfyriwr - pan fyddwch yn dysgu rheolau ysgrifennu da, rydych yn gallu eu torri mewn ffordd effeithiol a phwrpasol, er mwyn cael yr effaith fwyaf.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Darganfod Mwy

Cofrestru Nawr

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Eich camau nesaf