成人VR视频

Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Marchnata ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Mae ein cyrsiau Marchnata yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

O gystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch a Universities Business Challenge Worldwide i leoliad gwaith a sgyrsiau gwadd mae digon o gyfleoedd fel myfyriwr marchnata i wella eich cyflogadwyedd ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol.

Llun o Dr Sara Parry gyda dinas Bangor yn y cefndir
Fideo: Dr Sara Parry, Uwch Darlithydd mewn Marchnata (Hyb Ymgeiswyr Marchnata)

Helo Sara ydw i, dwi'n uwch ddarlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Fusnes Albert Gubay.

Os ydych chi yn dewis dod i Fangor, mi fyddwch yn dysgu am wahanol agweddau o farchnata, fel marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, dylanwadwyr, pam mae brandiau mwyaf mor werthfawr, a pam mae cwsmeriaid yn prynu beth maen nhw brynu.

Mi fyddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio yn agos gyda busnesau sy'n setio prosiectau byw i'r myfyrwyr oherwydd bod nhw eisiau cefnogaeth marchnata.

A chofiwch ein bod ein gradd BSc Marchnata yn cael eu hachredu gan y Chartered Institute of Marketing, felly mae hyn yn rhoi hwb i'ch CV.

Gobeithio gweld chi'n o fuan.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ff么n symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Ymunwch 芒 'Campus Connect'

Byddwch yn gallu ymuno ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Byddwch yn gallu cofrestru i ymuno 芒 'Campus Connect' pan fydd yr ap yn mynd yn fyw ym mis Chwefror. Yn yr ap, bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno 芒'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Cwestiynau Cyffredin

Byddwch yn cael 12 awr o addysgu yn y cnawd bob wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Dylid treulio gweddill yr amser ar ddysgu hunangyfeiriedig/annibynnol h.y. darllen y bennod berthnasol yn y gwerslyfr marchnata i fodiwl penodol, gwneud ymchwil ar frand i aseiniad sydd i ddod, cymryd rhan mewn trafodaeth rithwir neu ddarllen astudiaeth achos i baratoi at diwtorial sydd ar ddod.

Bydd astudio un o鈥檙 rhaglenni gradd marchnata ym Mangor yn eich galluogi i ddatblygu i fod yn weithiwr marchnata proffesiynol rhagorol. Mae ein rhaglen BSc Marchnata wedi ei hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, sy'n eich galluogi i gael eithriadau awtomatig o amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol (e.e. Tystysgrif/Diploma mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol). Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau marchnata cenedlaethol fel CIM 'The Pitch' a byddwch yn ennill sgiliau ymarferol defnyddiol y mae cyflogwyr yn eu disgwyl, megis datblygu gwefannau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed amrywiaeth o siaradwyr gwadd o faes marchnata.

Mae'r pynciau a drafodir ar y radd marchnata yn cynnwys Marchnata Digidol, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, Ymddygiad Defnyddwyr, Rheoli Brand a Manwerthu, Marchnata a Chymdeithas, Marchnata Rhyngwladol a Dadansoddeg Marchnata. Mae holl ddeunyddiau'r modiwl yn cael eu diweddaru'n barhaus i adlewyrchu tueddiadau cyfredol, ymchwil cyfredol ac arferion yn y diwydiant.

Mae ein hasesiadau yn adlewyrchu sefyllfaoedd ac amgylchiadau marchnata go iawn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu i sicrhau y byddwch yn meistroli sgiliau busnes eang ac yn datblygu'r rhain wrth ichi astudio am eich gradd. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu, rhwydweithio a gwneud penderfyniadau gan gynnwys traethodau, adroddiadau marchnad, cyflwyniadau, blogiau, arholiadau, portffolios a phrojectau gr诺p. Rydym hefyd yn defnyddio gemau efelychu sydd gyda鈥檙 gorau yn y diwydiant i greu heriau marchnata sydd mor agos at realiti 芒 phosib yn ogystal 芒 darparu cyfleoedd dysgu yn y gwaith i chi, a chyfle i chi ymgymryd 芒 phrojectau byw yn eich blwyddyn olaf.

Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Dr Sara Parry

Dr Sara Parry

Dwi bob amser wedi ystyried Marchnata fel pwnc cyffrous a chyflym sy'n cynnig cyfleoedd i fod yn strategol ac yn greadigol. Yn bwysig, mae marchnata wedi'i seilio ar ddeall pobl (neu 'ddefnyddwyr') a'u hymddygiad, a dyna sy'n ddiddorol i mi.

Chanel sy鈥檔 gyfrifol am greu鈥檙 hysbyseb drytaf erioed yn 2004. Roedd yr hysbyseb yn cynnwys Nicole Kidman a chafodd ei chyfarwyddo gan Baz Luhrmann. $33 miliwn oedd y gost o鈥檌 chreu!

Dwi鈥檔 mwynhau addysgu gan ddefnyddio llawer o enghreifftiau o arferion Marchnata da a drwg, a chanolbwyntio ar y sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddilyn gyrfa mewn Marchnata megis cyfathrebu, creadigrwydd, gwaith t卯m a meddwl yn feirniadol.

Taylor Swift. Mae hi鈥檔 gerddor gwych, a dwi hefyd yn meddwl ei bod yn athrylith Marchnata! Mae hi鈥檔 feistr ar ddeall a bodloni ei chynulleidfa: y 鈥淪wifties.鈥

Cyflym - creadigol - strategol.
Dr Steffan Thomas

Dr Steffan Thomas

Fy rhwystredigaeth fwyaf yw鈥檙 canfyddiad bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle i fusnesau farchnata am ddim. Mae hyn yn tanseilio gwerth deall y data, yr algorithmau a phroffiliau defnyddwyr. Mae marchnata鈥檔 bwnc cyffrous a deinamig sy'n gofyn am gynllunio a defnydd manwl.

Rydw i鈥檔 ffodus i weithio gyda sawl busnes sy鈥檔 cynnig cyngor ynghylch marchnata digidol ac ymgysylltu 芒 defnyddwyr. Felly, rydw i鈥檔 lledaenu gwybodaeth yn rheolaidd ac yn gallu gweld sut y mae鈥檔 trosi鈥檔 llwyddiant masnachol.

Cymerwch ran mewn cymaint o weithgareddau 芒 phosibl, rhowch gynnig ar bethau newydd a dysgwch beth rydych chi'n angerddol amdano.

Mae gradd yn garreg gamu wych i'ch gyrfa yn y dyfodol, a pho fwyaf o amser ac ymdrech y byddwch chi'n buddsoddi ynddi nawr, y mwyaf y byddwch chi'n ei gael allan ohoni yn nes ymlaen yn eich bywyd.

Reidio fy meic modur neu hedfan fy awyren.

Pam Dewis Prifysgol Bangor?

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Darganfod Mwy

Cofrestru Nawr

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

Eich camau nesaf