Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Mae dewis ble i astudio Meddygaeth yn benderfyniad mawr. Ym Mangor, rydym yn cynnig profiad dysgu sy鈥檔 bersonol, yn ymarferol ac wedi鈥檌 wreiddio yn y gymuned. Gyda dysgu mewn grwpiau bach, darpariaeth ddwyieithog a lleoliadau clinigol trochi ledled Gogledd Cymru, mae myfyrwyr yn elwa ar hyfforddiant ymarferol mewn un o ranbarthau mwyaf unigryw a hardd y DU.
Mae eich Hwb Ymgeiswyr yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gymryd y cam nesaf, paratoi ar gyfer bywyd ym Mangor, a dechrau siapio eich dyfodol mewn Meddygaeth.
Ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 5 byddwch yn cymryd Rhannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC). Mae SSCs yn rhoi'r cyfle i chi ddewis meysydd yr ydych yn eu hastudio a chaffael gwybodaeth trwy eich ymdrech eich hun. Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi ymgymryd 芒 phrosiectau yn ymwneud 芒 Meddygaeth Mynydd, atal heintiau a mwy.
Ar gyfer myfyrwyr sy鈥檔 siarad Cymraeg byddwch yn gallu astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio鈥檆h iaith ar leoliadau gyda chydweithwyr a chleifion.
Byddwch yn dysgu trwy Ddysgu Seiliedig ar Achosion (CBL) sy鈥檔 eich helpu i wneud synnwyr o鈥檆h gwybodaeth a鈥檆h sgiliau newydd. Gan weithio mewn grwpiau bach ar astudiaeth achos neu senario, byddwch yn datblygu atebion dan arweiniad eich hwylusydd. Gyda phob achos byddwch yn edrych ar yr anatomeg, ffisioleg ac agweddau cymdeithasol, datblygu sgiliau ymarferol a chael profiad clinigol perthnasol trwy leoliadau byr. Bydd y broses hon yn caniat谩u ichi ddeall sut mae pob un yn berthnasol i'r llall, gan roi persbectif cyffredinol i chi.
(Megan R) Hi, I'm Megan. Hopefully you've come to one of our applicant days, but if not, here's some reasons why you should choose Bangor.
(Llinos) The reasons I think you should come to Bangor, there's a really great community amongst the staff and the student body. We have peer guides assigned to you to help you get settled in. We have personal tutors to help you not just academically, but with your university experience. And we've also got Bangor MedSoc, which is a specific society for the medical students and anybody interested in the clinical side of things.
(Megan R) I chose Bangor because of the Welsh language, so I enjoy being part of like, a Welsh community during the course but also as part of Bangor itself.
(Dewisiais Bangor oherwydd yr iaith Cymraeg, felly dwi'n mwynhau bod yn rhan o, fel, cymuned Cymraeg yn ystod y cwrs ond hefyd fel rhan o Bangor ei hun.)
(Llinos) On top of that, the bilingualism at the department is great because we're living in North Wales where Welsh and English are both used. It gives you a really good experience to get used to treating patients that maybe don't have the same first language as you.
(Megan R) So, with 'CBL', with case based learning, I like doing it in Welsh but also doing the community. So going out to placement and being able to use the Welsh language.
(Llinos) And then one of the other things that really stands out as a department is the Rural Medicine day that we have for the year two students, where we pull in different emergency services from the area to simulate maybe something that could come across more often, in this kind of area, and the students get to experience that for themselves.
(Megan B) For me, the best thing about Bangor is the surrounding area. I love, like, the mountains and the beaches, such as Newborough beach. And there's loads of societies you can join, like mountaineering and paddleboarding. So we really look forward to you choosing Bangor as your firm choice.
Sgwrsio 芒 Myfyrwyr a Staff
Oes gennych chi gwestiynau mwy penodol neu eisiau sgwrsio 芒'n myfyrwyr presennol? Gofynnwch unrhyw beth iddynt am y cwrs, bywyd campws, neu ymgartrefu. Maen nhw wedi bod yn eich esgidiau ac yn hapus i helpu ar Unibuddy.
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael cipolwg ar fywyd ym Mangor - straeon myfyrwyr, digwyddiadau campws, a phopeth sy'n gwneud astudio yma yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn unigryw!
Watch our future doctors in action 馃ぉ馃┖ One way we build students' confidence for their time on placement is by simulating real medical scenarios in our simulation facilities. They'll follow the exact same procedures as real medical professionals so they can understand the processes and procedures and get used to working together as a team 馃檶馃徎
Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn deall y gallai fod gennych lawer o gwestiynau am ddod yn fyfyriwr meddygol ym Mangor felly rydym wedi casglu'r atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin isod.
Unwaith y bydd eich cynnig wedi'i gadarnhau byddwn yn cysylltu 芒 chi i roi gwybod i chi am y camau nesaf i'w cymryd.
Bydd angen i chi gael gwiriad DBS a drefnir trwom ni ac asesiad iechyd.
Gellir trefnu eich asesiad iechyd gyda'ch darparwr gofal iechyd lleol. Ni fydd angen i chi ddod i Fangor i wneud hyn; byddwn yn cysylltu 芒 chi i'ch cynghori sut i wneud y trefniadau.
Os oes gennych unrhyw bryderon anfonwch e-bost i derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk
Mae myfyrwyr ar gyrsiau Meddygaeth a Meddygaeth i Raddedigion yn sicr o gael lle yn ein llety (halls) sy'n eiddo i'r brifysgol. Unwaith daw Bangor yn ddewis cadarn i chi, anfonir e-bost atoch i'ch gwahodd i wneud cais am ystafell mewn llety鈥檙 brifysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am lety a llety preifat, ewch i'n tudalennau gwe ar lety myfyrwyr.
*yn amodol ar delerau ac amodau
Bydd angen i bob myfyriwr BMBS A101 Meddygaeth i Raddedigion ymgymryd ag Ysgol Haf tair wythnos o hyd cyn dechrau Cam 1 y rhaglen hon. Mae'r yYsgol Haf yn cynnwys sgiliau clinigol a rhagarweiniad i ddysgu ar sail achosion. Bydd hyn yn digwydd ym mis Awst a dechrau mis Medi, gan ddechrau ddydd Mawrth 26 Awst 2025, cyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Bydd pob Ymgeisydd Mynediad Graddedig llwyddiannus yn derbyn gwybodaeth gyda'u cynnig.
Bydd myfyrwyr blwyddyn un ar y rhaglen A100 yn derbyn eu hamserlen yn ystod yr Wythnos Groeso sy鈥檔 dechrau ar 22 Medi 2025.
Wrth i fyfyrwyr mynediad graddedig ddechrau'n gynt gydag ysgol haf, fe fyddan nhw'n derbyn eu hamserlenni'r dydd Mawrth ar 么l g诺yl banc mis Awst.
Ym mlwyddyn un byddwch yn cael eich profiad lleoliad cyntaf ar 么l y Nadolig gyda diwrnod mewn practis meddyg teulu neu leoliad disgyblaeth iechyd arall.
Yn ystod blwyddyn dau byddwch yn gwneud lleoliadau mwy rheolaidd. Nid yw'r lleoliadau hyn yn dechrau ar unwaith. Ar 么l cyfnod ailgyflwyno cychwynnol ar ddechrau'r tymor byddwch yn cwblhau un diwrnod yr wythnos ar leoliad.
Mae lleoliadau tymor hir yn dechrau yn ystod blwyddyn 3 gyda'r Glerciaeth Integredig Hydredol wedi'i lleoli mewn practis meddyg teulu.
Cewch gyfle i ymgymryd 芒 lleoliadau mewn llefydd amrywiol gan gynnwys cyrchfannau gwyliau arfordirol a thymhorol, trefi bach a phentrefi gwledig, ardaloedd maestrefol, dinasoedd bywiog, ardaloedd o amddifadedd, cymunedau 么l-ddiwydiannol, ac ysbytai ledled Gogledd Cymru.
Gan y bydd eich lleoliadau mewn amrywiaeth o lefydd ar draws Gogledd Cymru, efallai y bydd eich campws astudio cartref newid o Fangor i Wrecsam o'ch ail flwyddyn ymlaen i hwyluso teithio'n haws i'ch man astudio. Rhoddir gwybod hyn i chi yn unol 芒'r lleoliad a bennir i chi.
Cytunir ar bob lleoliad ymlaen llaw gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Mae鈥檙 asesiadau鈥檔 dilyn strwythur anfodiwlaidd, a byddwch yn dysgu cymhwyso gwybodaeth yn hytrach na dysgu ffeithiau yn unig. Er enghraifft, yn hytrach na dysgu am anatomeg a sefyll arholiad yngl欧n ag anatomeg, ac yna dysgu am boen a sefyll arholiad yngl欧n 芒 phoen, byddwch yn dysgu am anatomeg a phoen a sut maent yn berthnasol i'w gilydd mewn bywyd go iawn. Caiff y ddau eu profi yn yr un arholiad, o bosibl yn yr un cwestiwn.
Cewch eich asesu drwy gydol y cwrs gan ddefnyddio ysgrifennu adfyfyriol, traethodau, cyswllt rheolaidd 芒 meddygon ac academyddion, cwblhau logiau o sgiliau clinigol ac arholiadau ysgrifenedig. Ar gyfer pob un o'r rheini cewch adborth helaeth.
Yn ystod Blynyddoedd 2 a 3 byddwch hefyd yn sefyll profion cynnydd. Mae'r arholiadau ysgrifenedig, a gynhelir deirgwaith y flwyddyn, yn gerrig milltir pwysig i asesu eich gwybodaeth a monitro cynnydd eich dysgu dros amser.
Yn ystod yr Wythnos Groeso bydd gennym sesiynau rhagarweiniol i ddod 芒 phawb at ei gilydd a'u helpu i ymgartrefu ym Mangor.
Bydd gennym Arweinwyr Cyfoed sy鈥檔 fyfyrwyr cyfredol sydd wedi gwirfoddoli ac wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd ymgartrefu. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau trwy amrywiol ddigwyddiadau cymdeithasol, yn eich tywys o amgylch y dref a'r Brifysgol, ac yn rhoi gwybodaeth werthfawr ac awgrymiadau i chi am fywyd myfyriwr.
Yn yr Ysgol Feddygol mae gennym hefyd deuluoedd meddygol lle rhoddir 'rhieni' meddygol i chi sydd yn y flwyddyn uwchben a all roi arweiniad i chi.
Nid oes angen gwneud gwaith paratoi cyn dechrau astudiaethau. Os ydych yn awyddus i wneud ychydig o waith paratoi, gellwch ddarllen y wybodaeth .
Mae parcio cyfyngedig ar y safle ar gael. Os byddwch yn dod 芒'ch car gyda chi bydd angen Trwydded Parcio Myfyrwyr i ddefnyddio cyfleusterau parcio'r Brifysgol. Gallwch ddarganfod mwy am drefniadau parcio a gwneud cais ar ein gwefan.
Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel ar ofalu a chefnogi鈥檙 myfyrwyr ac rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny oherwydd y grwpiau addysgu llai o faint. Yn ogystal 芒'r gefnogaeth a gewch gan eich t卯m academaidd, mae adran gwasanaethau myfyrwyr y brifysgol yn cynnig cymorth amrywiol i sicrhau eich bod yn ffynnu yn ystod eich amser gyda ni.
Yn ystod yr Wythnos Groeso bydd gennym sesiynau rhagarweiniol i ddod 芒 phawb at ei gilydd a'u helpu i ymgartrefu ym Mangor.
Bydd gennym Arweinwyr Cyfoed sy鈥檔 fyfyrwyr cyfredol sydd wedi gwirfoddoli ac wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd ymgartrefu. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau trwy amrywiol ddigwyddiadau cymdeithasol, yn eich tywys o amgylch y dref a'r Brifysgol, ac yn rhoi gwybodaeth werthfawr ac awgrymiadau i chi am fywyd myfyriwr.
Yn yr Ysgol Feddygol mae gennym hefyd deuluoedd meddygol lle rhoddir 'rhieni' meddygol i chi sydd yn y flwyddyn uwchben a all roi arweiniad i chi.