Tirlun Ystad dan Fygythiad: Parc Penrhos
Mae Parc Gwledig 200 erw Penrhos ger Caergybi yn Ynys M么n wedi bod yn amwynder cyhoeddus poblogaidd dros ben ers iddo agor yn y 1970au. Fodd bynnag, yn 2013 dadorchuddiodd cwmni datblygu eiddo preifat gynllun i droi鈥檙 parc gwledig hwn yn barc gwyliau gyda 500 o gabanau, bwytai, bariau, siopau a phwll nofio trofannol. Rhoddodd Cyngor Sir Ynys M么n ganiat芒d cynllunio yn 2016. O fis Mai 2026, mae鈥檙 datblygwr sy鈥檔 berchen ar y tir wedi mynd i ddwylo鈥檙 gweinyddwyr, ond mae eu gweinyddwr wedi rhoi鈥檙 tir yn 么l ar y farchnad ac wedi gwneud cais am ymestyn y caniat芒d cynllunio. Mae鈥檙 gr诺p ymgyrchu wedi bod yn brwydro yn erbyn y cynigion o鈥檙 cychwyn cyntaf, ac yn cael eu cefnogi yn eu hymdrechion gan . Mae eu hymgyrch wedi canolbwyntio ar eu pryderon dilys iawn ynghylch mynediad cyhoeddus cyfyngedig i鈥檙 dirwedd hudolus hon, sy鈥檔 ffurfio rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys M么n. Mae pryderon mawr hefyd am yr effaith ar fioamrywiaeth ac ecoleg y parc, sy鈥檔 gartref i amrywiaeth o anifeiliaid, adar a chwilod, gan gynnwys gwiwerod coch, heb s么n am y ffaith ei fod yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Safle Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol. Ond wyddech chi fod Parc Gwledig Penrhos yn meddiannu hen stad Penrhos? Mae Penrhos o arwyddoc芒d arbennig i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru gan fod ein partneriaid Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn gyfrifol am . Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio tirwedd yr yst芒d sydd wedi goroesi ar lawr gwlad a sut y byddai鈥檙 cynigion yn cael effaith andwyol ar werth treftadaeth a diwylliannol y safle arbennig hwn.
Hanes Ystad Penrhos
Ym 1553, rhoddwyd y tir hwn ar Ynys Gybi i John ap Owen; ef a gododd y t欧 cyntaf ar y safle ac a'i sefydlodd fel prif drigfan yr ardal. Roedd gan deulu Owen achau nodedig y gallent eu holrhain yn 么l i'r unfed ganrif ar ddeg, ond dim ond trwy briodasau manteisiol y llwyddasant i sicrhau eu dyfodol a'u cyfoeth. Un ohonynt oedd priodas Robert Owen ag Anne Wynn 鈥 chwaer ac etifeddes y Canghellor Edward Wynn (1681鈥1755) o Fodewryd 鈥 ym 1695. Priodas arall oedd honno rhwng etifeddes y teulu Owen, Margaret (bu farw 1816), a Syr John Stanley (1735鈥1807) ym 1763.
Prif gangen teulu Stanley oedd Iarlliaid Derby, ond roedd Syr John Stanley yn perthyn i gangen lai a oedd wedi'i lleoli yn Alderley yn Swydd Gaer. Disgrifiwyd y gangen hon o'r teulu fel rhai . Roeddent yn amlwg ym myd llywodraeth, addysg a'r clerigwyr, i gyd ar lefel genedlaethol. Yn dilyn priodas Margaret a John, sefydlodd teulu Stanley eu hunain fel aelodau amlwg o'r uchelwyr ym M么n, a chwaraeasant ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu porthladd Caergybi i fod y prif borthladd fferi i Iwerddon. Mae Dr Gareth Huws wedi ysgrifennu cofnod sy'n rhoi cipolwg ar gyllid teulu Stanley yn y flwyddyn 1823. Roeddent yn ennill swm sylweddol o arian o yst芒d Penrhos, sef 拢3,391 mewn rhent gan eu 271 o denantiaid yn nhref Caergybi a 拢4,851 gan denantiaid mewn rhannau eraill o F么n. Mae Dr Huws yn egluro sut y defnyddiwyd y rhan fwyaf o'r arian hwnnw i dalu symiau ariannol i aelodau amrywiol o'r teulu. Yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ystod ac ar 么l ehangu porthladd Caergybi ac adeiladu'r ffordd rhwng Llundain a Chaergybi, cynyddasant eu hincwm ymhellach drwy osod tir yr yst芒d ar brydles i gyrff llywodraethol amrywiol. Arhosodd Penrhos ym meddiant teulu Stanley tan 1947, pan gafodd ei werthu a'i rannu'n nifer o ddarnau.
Rhwng 1927 a 1977, adneuodd aelodau amrywiol o deulu Stanley bapurau鈥檙 yst芒d yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Erbyn hyn, mae casgliad Llawysgrifau Penrhos yn cynnwys cyfanswm rhyfeddol o 5,687 o ddogfennau sy'n dyddio o 1430 i 1972; mae'n adnodd eithriadol. Penrhos oedd testun Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn 2019, pan draddododd Dr Gareth Huws bapur o鈥檙 enw 鈥楶enrhos: Powerful women and the curious tale of a Knight, a Lord and an Honourable鈥.
Adeiladau'r yst芒d
Dymchwelwyd prif d欧 Penrhos yng nghanol yr ugeinfed ganrif, felly beth yn union sy'n weddill ar y safle heddiw? Wel, yn union wrth ymyl gweddillion y t欧 mae'r hen iard wasanaeth, sydd yn weddol gyflawn. Roedd waliau'r iard hon 鈥 sydd 芒 chilfachau amddiffynnol ar y brig a thyllau saethu 鈥 yn cuddio gweithgareddau domestig, megis golchi a sychu dillad, paratoi bwyd, a derbyn nwyddau, rhag y golwg. Mae t诺r sgw芒r 芒 pharapet amddiffynnol yn dominyddu'r iard; roedd hwn yn cynnwys yr ystafell laeth, yr ystafell olchi a'r ystafell arfau. Ym mhen pellaf yr iard, ceir adeilad addurnol bach ar ffurf twr crwn gyda gwaelod ar oledd, a elwir yn D诺r y Gannwyll ('Candle Tower'); ymddengys mai ei brif bwrpas oedd cuddio'r iard wasanaeth rhag y gerddi ffurfiol cyfagos. Fodd bynnag, y nodwedd amlycaf sydd wedi goroesi 鈥 a'r rhan sy'n meddiannu'r arwynebedd mwyaf 鈥 yw cyfadeilad y Fferm Gartref (Home Farm). Yn ddiddorol, mae'r cyfadeilad hwn hefyd yn cael ei ddominyddu gan d诺r sgw芒r 芒 pharapet amddiffynnol, sef T诺r y Beili (Bailiff鈥檚 Tower), a oedd yn cynnwys llety i weision gwrywaidd. Mae'r holl strwythurau a grybwyllwyd uchod 鈥 , , a 鈥 wedi'u rhestru fel adeiladau Gradd II.
Beth gall yr adeiladau hyn dweud wrthym am yr yst芒d, yn unigol ac ar y cyd? O safbwynt pensaern茂ol, mae cysondeb cryf rhwng yr adeiladau hyn, gyda鈥檜 nodweddion tebyg i gastell 鈥 fel gwaelodion ar oledd, muriau 芒 chilfachau, a thyllau saethu cul. Mae bron fel pe bai鈥檙 tyrau i gyd 鈥 yr un yn y cwrt gwasanaeth, T诺r y Gannwyll a Th诺r y Beili 鈥 yn 'siarad' 芒鈥檌 gilydd. Credir bod yr holl adeiladau hyn wedi鈥檜 codi gan John Stanley, Barwn 1af Stanley o Alderley (1766鈥1850), yn ystod degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae hyn yn dangos ei fod wedi ymrwymo鈥檔 llwyr i wella golwg gyffredinol yr yst芒d. Gwyddom fod John wedi ail-lunio ac ail-ddyfeisio鈥檙 prif d欧 drwy roi arddull Gothig iddo 鈥 gan ychwanegu tyrau bach a muriau 芒 chilfachau 鈥 rhwng 1801 ac 1808; ar y pryd, daeth yn hysbys fel 鈥楥astell Penrhos鈥, ac adeiladwyd holl adeiladau鈥檙 yst芒d hyn ar yr un pryd. Yn absenoldeb y prif d欧, mae adeiladau鈥檙 yst芒d sydd wedi goroesi yn rhoi syniad i ni o sut olwg oedd ar y prif d欧 yn y gorffennol. Mae llyfr Adelaide Lubbock (n茅e Stanley) (1906鈥1981), People in Glass Houses: Growing up at Government House, a gyhoeddwyd ym 1978, yn rhoi cipolwg ar ei phrofiad o ymweld 芒 chartref y teulu yn Penrhos yn ystod ei hieuenctid, yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Disgrifiodd Gastell Penrhos fel 鈥減lasty cerrig llwyd helaeth ac afreolaidd鈥, ac roedd yr holl adeiladau a strwythurau hyn yn estyniad o hynny. Yn ail, mae鈥檙 adeiladau hyn yn rhoi cipolwg ar sut roedd yr yst芒d yn gweithredu o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithgareddau domestig a chynhyrchu bwyd.
Un o ychwanegiadau mwy trawiadol John Stanley at y parc ym Mhenrhos oedd trac rasio preifat a elwid yn 鈥楶enrhyn Quillet鈥. Cododd hefyd adeilad bach i wylio鈥檙 rasys, gydag ardal eistedd dan do ar y gwaelod a llwyfan gwylio uwchben, y gellid cyrraedd ato drwy risiau carreg. Credir bod y 鈥楽tand Betio鈥 neu Y T诺r Pydredig (鈥楾he Rotten Tower鈥), fel y鈥檌 gelwid ar adegau gwahanol, yn rhan o鈥檙 gwaith datblygu a wnaed rhwng 1801 ac 1808, ac mae hefyd wedi鈥檌 . Mae鈥檔 rhoi cipolwg i ni ar ddiddordebau a gweithgareddau hamdden y teulu.
Yn ogystal, gall y strwythurau sydd wedi goroesi dweud wrthym sut y gadawodd unigolion a chenedlaethau gwahanol eu h么l ar yr yst芒d. Roedd yr Anrhydeddus William Owen Stanley (1802鈥1884) yn fab i John Stanley. Yn ddiddorol, ef oedd yr iau o efeilliaid, ac er i'w efaill h欧n etifeddu yst芒d Alderley a'r teitl, etifeddodd yntau Penrhos, lle bu'n byw drwy gydol ei oes. Ar 么l etifeddu'r yst芒d ym 1850, dechreuodd wneud gwelliannau yn syth. Ychwanegodd Ystafell Dderbyn ac Ystafell Fwyta newydd at y Castell, a gwnaeth hefyd addurno'r tu allan. Er bod y t欧 wedi diflannu, mae digon o dystiolaeth ar y safle o hyd o sut y rhoddodd ei stamp personol ar yr yst芒d, fel yr arysgrifau 鈥榃. O. S.鈥 Credir mai ef oedd yn gyfrifol am y T诺r D诺r pedwar llawr sy'n edrych dros ardd gaeedig yr yst芒d; mae'n debyg iddo gael ei adeiladu i storio d诺r at ddibenion garddio. Mae'r t诺r wedi'i ddylunio yn null clochdy eglwys, gyda bwtresi croeslinol ym mhob cornel ac agoriad 芒 phen crwn a llafnau awyru ar y brig. Mae'r cymeriad eglwysig yn sicr yn ei wahaniaethu oddi wrth yr ychwanegiadau cynharach a oedd yn dynwared arddull castell.
Ystad arfordirol
Nodwedd amlycaf yst芒d Penrhos oedd ei hagosrwydd at y m么r. Mae'r parc yn rhan o arfordir Ynys Gybi ac mae traethau bach i'w gweld yno a fan ac acw. Un o'r adeiladau mwyaf nodedig yw'r batri gynnau 鈥 strwythur amddiffynnol ar si芒p llythyren D gyda wyth agoriad ar gyfer saethu allan i'r m么r 鈥 a godwyd tua 1808 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Defnyddiwyd y safle i hyfforddi'r 'Anglesey Sea Fencibles' a Milisia M么n, yn bendant tan y 1860au, ac mae'n debygol iddo gael ei ddefnyddio fel man gwylio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae'r strwythur hwn, sydd hefyd wedi'i restru fel , yn dangos pryder y teulu Stanley am ddiogelwch.
Mae llyfr Adelaide Lubbock yn rhoi darlun byw o blentyndod ar yst芒d wledig ger y m么r, gan ddisgrifio sut 鈥榥ad oedd ond cam byr o鈥檙 ardd, trwy鈥檙 coed, i鈥檙 m么r gyda鈥檌 draethau bach yn llawn cregyn鈥. Mae hi鈥檔 s么n sut 鈥榬oedd y plant yn treulio鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 dyddiau haf hir ar draeth cysgodol a elwid yn Draeth y Bathdy (Bathing House Beach)鈥. Byddai鈥檙 nyrsiau yn mynd 芒鈥檙 plant i lawr at y t欧 cychod 鈥 sydd bellach yn adfail 鈥 lle byddent yn padlo, yn adeiladu cestyll tywod, yn chwilio am gregyn ac yn pysgota am berdys. Fodd bynnag, nid atgofion hapus yn unig oedd yno: ym 1817, boddwyd Elfrida 鈥 yr ieuengaf o unarddeg o blant John Stanley 鈥 ar draeth Penrhos yn ddwy oed, ynghyd 芒鈥檌 gweision. Mae鈥檔 amlwg bod y m么r yn rhan annatod o hanes cymdeithasol yr yst芒d hon.
Gerddi a Choetir
Nid adeiladau a strwythurau yn unig sydd wedi goroesi o gyfnod yr yst芒d tirfeddiannol: mae olion gerddi ffurfiol a choetir helaeth i鈥檞 gweld hefyd, ac mae鈥檙 rhain i gyd yn cael eu trafod yn . Ymhlith nodweddion pensaern茂ol y gerddi ffurfiol mae cloc haul ar bedestal ac amrywiol fylchau bwaog yn yr ardd. Mae Shaw yn disgrifio sut y cynhaliwyd nifer o bart茂on gardd ym Mhenrhos yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau鈥檙 ugeinfed ganrif, gan groesawu tenantiaid a ffrindiau, ysgolion Sul yr eglwys, addysgwyr ac ymgyrchwyr y Blaid Ryddfrydol. Yn amlwg, roedd gerddi Penrhos yn ofod lle鈥檙 oedd teulu Stanley yn ymarfer eu haelioni a鈥檜 dylanwad gwleidyddol.
Yn 么l Shaw, plannwyd y coed cynharaf sy'n goroesi ym Mhenrhos rhwng 1731 a 1733, hynny yw, cyn i deulu Stanley gyrraedd. Fodd bynnag, cr毛wyd y brif blanhigfa rhwng 1801 a 1812 gan Margaret Stanley (n茅e Owen) tra oedd hi'n weddw. Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cadw casgliad o lythyrau a gyfnewidiwyd rhwng Margaret a'i mab, John Thomas Stanley, Barwn cyntaf Stanley; mae'r rhain yn disgrifio sut y plannodd hi filoedd o goed, gan gynnwys ynn, ffawydd, derw, sycamorwydd, ffir, criafol a gwern. Mae Dr Gareth Huws yn egluro sut y cludwyd llawer o'r coed ifanc hyn 鈥 os nad y rhan fwyaf ohonynt 鈥 o yst芒d Winnington Syr John yn Swydd Gaer. Byddai cychod gwastad-waelod yn eu cludo i lawr Afon Weaver ac ymlaen ar hyd Afon Mersey i Lerpwl, lle byddai llong yn eu cludo i Gaergybi. Ymddengys bod rhai rhywogaethau wedi'u plannu'n strategol, fel y ffawydd a oedd yn cysgodi'r t欧 a'r gerddi rhag gwyntoedd cryfion y m么r. Wrth ddisgrifio cyfraniad ei fam, ysgrifennodd John Thomas Stanley ei bod hi wedi "ehangu'r gerddi, plannu llawer iawn o goed, a chreu Paradwys fach mewn gwlad bron mor hyll a diflas ag y gall y llygad ei gweld".
Effaith y Cynlluniau
Fel y mae gwaith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi ei bwysleisio dro ar 么l tro, nid oedd plastai yn bodoli ar ben eu hun: roeddent yn rhan o rwydweithiau a oedd yn cynnwys llawer o adeiladau, strwythurau a gerddi eraill. Yn union fel y dogfennau yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, mae'r adeiladau, y strwythurau a'r gerddi hyn yn ddogfennau hanesyddol ynddynt eu hunain, a gellir dysgu cymaint ohonynt. Mae Penrhos yn enghraifft ragorol o dirwedd ystad lle mae'r prif d欧 wedi diflannu ond lle mae tirwedd ehangach yr ystad wedi goroesi bron yn gyflawn, ac mae'n haeddu cael ei chynnal a'i chadw. Er bod saith adeilad rhestredig yno, nid yw rhai strwythurau 鈥 fel y T诺r D诺r a phorthdy sgw芒r bach wrth fynedfa'r parc 鈥 wedi'u diogelu. Nid oes gan y dirwedd hon statws diogelu statudol; ac er roedd Cadw yn ystyried ychwanegu Penrhos at Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru yn 2023, ni ddigwyddodd hynny erioed.
Byddai'r cynnig i droi'r parc gwledig yn barc gwyliau gyda 500 o fythynnod, bwytai, bariau, siopau a phwll nofio trofannol yn niweidiol i gymeriad tirwedd yr yst芒d hon. Pe bai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu, byddent yn arwain at greu 'sgw芒r marchnad' newydd, yn llawn siopau a chaffis, ar safle'r gerddi ffurfiol yng nghanol y parc. Fel y dangoswyd, mae gan adeiladau a strwythurau'r yst芒d sydd wedi goroesi werth gr诺p enfawr; byddai'r cynlluniau'n peryglu'n gydlyniad y tirwedd yst芒d, y berthynas rhwng yr adeiladau, a'r lleoliad ehangach yn ddifrifol. Efallai mai'r agwedd fwyaf syfrdanol ar y cynigion yw'r bwriad i dorri 27 erw o goedwig aeddfed a hynafol. I ddyfynnu Adelaide Lubbock: 'Roedd gan Penrhos naws hudolus y gallai hyd yn oed y rhai lleiaf dychmygus ei theimlo'. Credwn yn gryf, pe bai'r cynnig hwn yn cael ei weithredu, y byddai naws hudolus arbennig Penrhos yn cael ei cholli am byth.
(Gan Dr Bethan Scorey, gyda diolch i Dr Gareth Huws am ei gyfraniad)
Ffynonellau a Darllen Pellach
- Lubbock, Adelaide, People in Glass Houses (Melbourne: 1977).