Chwe ffilm allweddol i wylio dros y Pasg
Caiff dwy 诺yl grefyddol, Pasg yr Iddewon a g诺yl Gristnogol y Pasg eu dathlu dros yr wythnos nesaf, felly dyma chwe ffilm allweddol (tair wedi鈥檜 hysbrydoli gan yr Hen Destament a thair gan y Testament Newydd) y mae Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, yn eu hargymell fel ffilmiau i'w gwylio dros gyfnod y gwyliau.
1. The Ten Commandments (1956)
Mae stori Feiblaidd Ecsodus wedi bod yn boblogaidd gan wneuthurwyr ffilmiau ers oes y ffilmiau mud ac wedi cael ei dramateiddio sawl gwaith, ond y ffilm fawr i'w gwylio yw鈥檙 fersiwn epig hon o'r 1950au gan Cecil B. DeMille, gyda Charlton Heston fel Moses. Cafodd ei ffilmio mewn lliw llawn ar ffilm 70mm i sgrin lydan, a llwyddodd DeMille i ail-greu'r stori Feiblaidd mewn ffordd na welwyd erioed o'r blaen, a hynny fel arf yn y rhyfel oer yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Ffaith ddifyr: Defnyddiwyd Jell-O i greu鈥檙 effaith arbennig o agor y M么r Coch.
2. The Prince of Egypt (1998)
Cynhyrchwyd y ffilm antur animeiddiedig hon gan gwmni newydd Dreamworks Steven Spielberg ac mae鈥檔 ffilm wych i'w gwylio gyda'r plant. Mae'n glynu鈥檔 hynod o ffyddlon i鈥檙 hanes Iddewig gyda Val Kilmer yn cymryd rhan Moses (a llais Duw).
3. Exodus: Gods and Kings (2014)
Mae fersiwn Ridley Scott yn ddiweddariad o ffilm DeMille, ond nid yw hanner cystal. Wedi dweud hynny, fel atgynhyrchiad o鈥檙 stori Feiblaidd mae鈥檔 werth ei gweld. Ond yn bersonol, buaswn i鈥檔 dewis naill ai Spartacus, a gyfarwyddwyd gan Stanley Kubrick yn 1960, neu Exodus, Otto Preminger fel y ffilm orau ar thema Pasg yr Iddewon.
4. The Passion of the Christ (2004)
Yn bendant nid yw hon yn ffilm i'w gwylio gyda'r teulu, gan fod gweledigaeth Mel Gibson o ddyddiau olaf yr Iesu yn dreisgar ac yn waedlyd, ac mae鈥檔 briodol ei hystyried yn enghraifft o鈥檙 genre ffilmiau a elwir yn 'porn artaith'. Wrth ystyried cyd-destun ei rhyddhau yn 2004, mae wedi cael ei dehongli fel protest yn erbyn y gosb eithaf, a hefyd fel ffilm sy鈥檔 cymell cyhoedd yr Unol Daleithiau i gefnogi鈥檙 rhyfel yn Irac. Mae鈥檔 nodedig yn ogystal am ei defnydd o鈥檙 ieithoedd gwreiddiol.
5. The Last Temptation of Christ (1988)
Unwaith eto nid yw鈥檙 ffilm hon, a gyfarwyddwyd gan Martin Scorsese (Catholig arall, fel Mel Gibson), yn un i鈥檞 gwylio gyda鈥檙 teulu. Willem Dafoe sy鈥檔 chwarae prif ran yr Iesu a Harvey Keitel yw Jiwdas Iscariot. Mae gan David Bowie ran cameo fel Pontiws Peilat.
6. Jesus Christ Superstar (1973)
Addaswyd y ddrama gerdd hon o'r opera roc gan Andrew Lloyd Webber/Tim Rice. Ffilmiwyd hi yn yr Israel a lleoliadau eraill yn y Dwyrain Canol, ac mae鈥檔 bendant yn cyfleu mwy o obaith a llawenydd na'r ffilmiau eraill ar thema鈥檙 Pasg ac mae hefyd yn nodweddiadol iawn o鈥檌 chyfnod, yr 1970au.