³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:

Israddedigion Newydd ar gyfer mynediad yn 2025 a 2026

Fel myfyriwr israddedig llawn-amser, bydd gennych ddau brif gost:

  • Eich ffioedd dysgu
  • Eich costau byw

Y newydd da ydi y gellwch chi gael cymorth ar gyfer y ddwy gost yma gan fod amrywiaeth eang o gymorth ariannol ar gael.

Y ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn o'r DU sy'n dechrau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2026 yw £9,790.*

Gellir cynyddu ffioedd rhaglenni israddedig i fyfyrwyr cartref mewn blynyddoedd dilynol yn dilyn y flwyddyn gyntaf o astudio yn unol ag uchafswm y ffi wedi’i rheoleiddio a bennir gan Lywodraeth Cymru. Gallwch ddysgu mwy am Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol, Polisi Ffioedd Dysgu a Ffioedd Dysgu (Cartref) ar ein tudalen we Ffioedd Dysgu.

Y peth pwysig i'w gofio am y ffioedd dysgu yw nad oes raid i fyfyrwyr y DU dalu’r ffi ddysgu ymlaen llaw – rydych chi'n astudio yn gyntaf ac yn talu’n ôl pan fyddwch chi'n ennill cyflog. Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu ymlaen llaw neu tra’ch bod chi’n astudio. Gohirir y taliad tan ar ôl i chi raddio a byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch yn ennill cyflog dros y trothwy ad-dalu.

*Nodir: Bydd y cap ar ffioedd dysgu (uchafswm y ffioedd dysgu y gall darparwyr rheoleiddiedig eu codi ar rai myfyrwyr ar gyrsiau israddedig llawn amser) yn amodol ar newidiadau yn y rheoliadau gan Lywodraeth Cymru. Caiff ffioedd dysgu y blynyddoedd dilynol eu cadarnhau cyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno ar gael.

 

Wedi ei ddiweddaru 21/04/2026

 

 

Fel myfyriwr israddedig llawn-amser, bydd gennych ddau brif gost:

  • Eich ffioedd dysgu
  • Eich costau byw

Y newydd da ydi y gellwch chi gael cymorth ar gyfer y ddwy gost yma gan fod amrywiaeth eang o gymorth ariannol ar gael.

Nid yw'r ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser o'r DU sy'n dechrau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2027 wedi'i phennu eto. Cyn gynted ag y derbynnir cadarnhad o uchafswm y ffi reoleiddiedig gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth yma.

I gael syniad o beth i'w ddisgwyl, y ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser newydd o'r DU a ddechreuodd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2026 oedd £9,790*. Gallai hyn newid ar gyfer mynediad yn 2027 a bydd myfyrwyr ac ymgeiswyr yn cael gwybod fel yr uchod.

Y peth pwysig i'w gofio am y ffioedd dysgu yw nad oes raid i fyfyrwyr y DU dalu’r ffi ddysgu ymlaen llaw – rydych chi'n astudio yn gyntaf ac yn talu’n ôl pan fyddwch chi'n ennill cyflog. Gohirir y taliad tan ar ôl i chi raddio a byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad pan fyddwch yn ennill cyflog dros y trothwy ad-dalu.


*Nodir: ym Mhrifysgol Bangor mae'r ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig o'r DU yr un fath â'r ffi uchaf a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru. Gall y ffi hon newid yn flynyddol fel y cymeradwyir gan Lywodraeth Cymru ac fel myfyriwr israddedig o'r DU, gallai hyn olygu ffi dysgu wahanol ym mhob blwyddyn o astudio. Bydd unrhyw newidiadau i'r ffi dysgu yn cael eu cyfleu erbyn diwedd mis Mehefin cyn y flwyddyn academaidd y mae'r newid yn berthnasol iddi. Gallwch ddysgu mwy am Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol, Polisi Ffioedd Dysgu a Ffioedd Dysgu (Cartref) ar ein tudalen we Ffioedd Dysgu.

 

Wedi ei ddiweddaru 08/09/2026

Dewiswch o'r opsiynau isod i gael gwybodaeth fanylach am y cyllid sydd ar gael i chi.

Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr israddedig llawn-amser o Gymru ar gael yma.

Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i Gyrsiau wedi'u cyllido gan y GIG  ar gael yma.

Gwybodaeth am gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr rhan-amser ar gael yma.

Bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru yn derbyn Grant Cynhaliaeth o £1,000 y flwyddyn. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am Grant Cynhaliaeth ychwanegol ar sail prawf modd. Bydd y swm yn dibynnu ar incwm yr aelwyd, gyda mwy o gymorth i’r bobl sydd ei angen fwyaf.

Ym Mangor gallwch hefyd wneud cais am ysgoloriaethau amrywiol a allai helpu gyda'ch costau byw.

Os byddwch chi'n chwilio am waith rhan-amser yn ystod y gwyliau ac/neu yn ystod y tymor i helpu gyda'ch costau, gall CyswlltGyrfa Bangor eich helpu i gael hyd i waith rhan-amser. Mae yna hefyd cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael drwy’r Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd fydd yn cyfoethogi eich CV a’ch helpu i gael swydd ar ôl i chi raddio. Gallai cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Cyflogadwyedd Bangor hefyd wneud gwahaniaeth i'ch rhagolygon am swydd ar ôl graddio.

Myfyrwyr yn astudio a chymdeithasu yn y Ganolfan Rheolaeth

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Gwybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau.