Ysgoloriaeth newydd i ddogfennu cyfraniadau meddygol gan Iddewon yng Nghymru
Mae ysgoloriaeth 么l-radd newydd, Ysgoloriaeth Goffa Goodwin, wedi ei lansio i ymchwilio i gyflawniadau ymarferwyr meddygol Iddewig yng Nghymru a鈥檜 cofnodi. Mae'r fenter wedi ei sefydlu ar y cyd gan y brifysgol a Chymdeithas Hanes Iddewig Cymru a chaiff ei hariannu trwy waddol gan deulu Gerald Goodwin, ffoadur o'r Almaen a fu鈥檔 ddeintydd yng nghymoedd y de.
Sefydlwyd y Gymdeithas Hanes Iddewig yn wreiddiol yn 2017 fel Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, gyda'r genhadaeth o ddatgelu, gwarchod a rhannu treftadaeth ddiwylliannol cymunedau Iddewig. Yn 2025, ehangodd y sefydliad ei gwmpas i gynnwys Cymru gyfan a newidiwyd ei enw i鈥檞 enw presennol.
Tynnodd yr Athro Nathan Abrams o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, a fydd yn goruchwylio'r ymchwil, sylw at ehangder cyfraniadau Iddewig at ofal iechyd yng Nghymru,
Yn draddodiadol, mae meddygaeth wedi cael ei hystyried yn broffesiwn Iddewig iawn, ac yng Nghymru rydym wedi cael ymarferwyr nodedig iawn. Rydyn ni'n meddwl bod yna straeon gwych i'w hadrodd. Ond nid meddygon yn unig ydy鈥檙 rhain, mae Iddewon Cymru wedi gwneud cyfraniadau enfawr fel deintyddion, seicolegwyr, seiciatryddion, fferyllwyr, nyrsys a bydwragedd, o鈥檙 ddeunawfed ganrif ymlaen.
Yn dilyn proses ddethol gystadleuol, dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Laura Henley-Harrison, myfyrwraig ymchwil 么l-radd ym maes y cyfryngau. Dywedodd,
Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle hwn a ddarparwyd gan deulu Goodwin. Mae hanes meddygol Iddewig yng Nghymru yn bwnc nad yw wedi ei ymchwilio'n ddigonol ar hyn o bryd, ac rydw i'n edrych ymlaen at ddatgelu straeon nad oeddent yn hysbys o'r blaen. Bydd y rhain yn helpu creu darlun mwy cyflawn o gyfraniadau Iddewon at feddygaeth o鈥檜 hanes cynharaf yng Nghymru hyd heddiw. Er gwaethaf rhwystrau sylweddol, fel cyfyngiadau a oedd yn rhwystro Iddewon rhag mynd i brifysgolion i astudio meddygaeth tan 1893, mae ymarferwyr Iddewig wedi ffynnu yma. Rydw i鈥檔 edrych ymlaen at daflu goleuni ar y cyfraniadau pwysig hyn.
Mae鈥檙 ysgoloriaeth hon yn gyfle i dynnu sylw at naratifau nad ydynt wedi eu hadrodd eto, gan gyfoethogi ein dealltwriaeth o hanes Cymru a'r rhan hanfodol y mae cymunedau Iddewig wedi ei chwarae yn natblygiad gofal iechyd.