Cydnabyddiaeth Ryngwladol i Bo Zhang, Myfyriwr PhD Troseddeg
Yn ddiweddar, derbyniodd Bo Zhang, myfyriwr doethuriaeth yn ei bedwaredd flwyddyn mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Wobr Papur Myfyriwr Eithriadol Shanhe Jiang am ei bapur a gyhoeddwyd yn annibynnol yn y cyfnodolyn, Victims & Offenders. Cyflwynwyd y wobr iddo yng nghynhadledd Cymdeithas Droseddeg America 2025 yn Washington, D.C., ym mis Tachwedd y llynedd.
Rhoddir Gwobr Papur Myfyriwr Eithriadol Shanhe Jiang i gydnabod papur myfyriwr rhagorol ar bwnc sy鈥檔 ymwneud 芒 throseddeg a chyfiawnder troseddol yn Tsieina Fwyaf (e.e. tir mawr Tsieina, Taiwan, Hong Kong a Macau) neu sy鈥檔 canolbwyntio ar drigolion ac ymfudwyr Tsieineaidd a/neu eu cymunedau dramor. Enwir y wobr er cof am Dr Shanhe Jiang o Brifysgol Wayne State, a wnaeth rodd hael i Gymdeithas Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Tsieineaidd yn yr Unol Daleithiau (ACCCJ) yn 2014.
Dywedodd Bo: 鈥淒yma fy mhapur cyntaf i gael ei gyhoeddi mewn cylchgrawn academaidd Saesneg wedi鈥檌 adolygu gan gymheiriaid, a dyma hefyd fy ngwobr gyntaf am gyhoeddiad. Mae鈥檙 ddau yn golygu cryn dipyn i mi. Hoffwn ddiolch i鈥檓 goruchwyliwr, yr Athro Martina Feilzer, am y syniad ar gyfer y papur hwn ac am fy nysgu sut i ymateb i adolygwyr mewn modd gwrtais ac effeithiol.鈥
Ychwanegodd yr Athro Martina Feilzer: 鈥淢ae Bo yn fyfyriwr PhD rhagorol a diwyd iawn, ac mae鈥檙 wobr hon yn dystiolaeth o鈥檌 ymrwymiad i ymchwil academaidd, ei feddwl annibynnol a鈥檌 uchelgeisiau ymchwil. Mae鈥檔 wych gweld ei waith caled yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac rwy鈥檔 oruwchwyliwr balch iawn.鈥
Yn y llun, gwelir Dr Shanhe Jiang ar y chwith a Bo Zhang ar y dde.
I ddarllen y papur, gweler .
Mae uchafbwynt derbynwyr y gwobrau ar gael ar wefan .