Mae rhaglen allgymorth arloesol dan arweiniad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ar 么l ennill Gwobr Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch () am yr Arfer Gorau ym maes Ehangu Cyfranogiad, Allgymorth a Mynediad.
Mae'r wobr, a gyflwynwyd yng ngwobrau Cynhadledd Genedlaethol a Chinio Gala HELOA, ddydd Iau, 15 Ionawr, yn cydnabod llwyddiant project cydweithredol a gyflwynwyd ar y cyd 芒 Rhaglen Gogledd a Chanolbarth Cymru. Nod y rhaglen honno yw codi dyheadau ac ehangu mynediad at addysg uwch ymhlith pobl ifanc o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y rhanbarth.
Drwy gyflwyno plant i ofal iechyd a bywyd prifysgol mewn ffordd ddiddorol sy'n briodol i'w hoedran, mae'r project yn helpu i godi dyheadau dros yr hirdymor mewn cymunedau lle mae鈥檙 cyfraddau sy鈥檔 mynd yn eu blaenau i addysg uwch yn isel yn draddodiadol.
Mae鈥檙 gwaith arobryn yn troi o amgylch yr Ysbyty Tedi B锚r, sef gweithgaredd allgymorth dwyieithog lle mae disgyblion ysgolion cynradd yn dod i gyswllt 芒 myfyrwyr meddygaeth. Trwy ddysgu鈥檔 rhyngweithiol a thrwy chwarae r么l, caiff y disgyblion eu hannog i weld mynd i brifysgol fel llwybr cyraeddadwy ac i weld gofal iechyd fel gyrfa bosibl yn y dyfodol.
Cafodd y project ei gyflwyno鈥檔 gyntaf yn Ysgol Llanllyfni, a chafodd y disgyblion brofiadau ymarferol sydd fel arfer yn cael eu cynnig i ddisgyblion h欧n, gan helpu i wneud meddygaeth ac addysg uwch yn bethau llai dirgel. Roedd mynd o鈥檌 chwmpas hi yn y fath fodd hefyd yn sicrhau bod y gweithgareddau鈥檔 cyd-fynd 芒 chwricwlwm yr ysgol, gan ymgorffori鈥檙 dysgu o amgylch iechyd, llesiant a meithrin hyder.
Mae'r fenter hefyd wedi darparu manteision clir i鈥檙 myfyrwyr meddygaeth sy'n rhan o'r rhaglen, drwy roi cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau ym meysydd cyfathrebu, arweinyddiaeth ac addysgu, a hynny wrth ymgysylltu 芒'r gymuned leol.
Dywedodd Dr Nia Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, 鈥淒an ni wrth ein boddau ein bod ni wedi ennill y wobr yma ac yn hapus iawn o gael rhannu llwyddiant menter yr Ysbyty Tedi B锚r. Mae gweithio ar y project yma wir wedi bod yn bleser ac mae'n tynnu sylw at gryfder y cydweithio rhwng Ymestyn yn Ehangach, myfyrwyr meddygaeth, meddygon preswyl paediatreg sy'n gweithio o fewn y GIG (yn enwedig felly ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), Ysgol Llanllyfni, a staff clinigol a staff cefnogi o fewn y brifysgol.
鈥淢ae鈥檙 bartneriaeth yma wedi arwain at ehangu cyfranogiad yn y maes meddygaeth mewn ffordd ystyrlon, wedi arwain at sefydlu Cymdeithas Ehangu Cyfranogiad a Chymdeithas Paediatreg i fyfyrwyr, ac mae mentrau allgymorth cynaliadwy dan arweiniad myfyrwyr wedi cael eu datblygu.
鈥淥 ganlyniad uniongyrchol i鈥檙 cydweithio yma efo Ymestyn yn Ehangach, mae project i ymgysylltu ag ysgolion bellach yn cael ei ymgorffori yn rhan o gwricwlwm meddygol yr ail flwyddyn. Drwy鈥檙 fenter honno, bydd myfyrwyr meddygaeth yn ymweld ag ysgolion i ysbrydoli plant ac i ddangos bod gyrfaoedd mewn meddygaeth a gofal iechyd yn gyraeddadwy iddyn nhw.
鈥淵n bwysig ddigon, bydd yr Ysbyty Tedi B锚r hefyd yn parhau, ac mae dau ddiwrnod arall wedi鈥檜 cynllunio yn ystod y flwyddyn academaidd yma, er mwyn parhau i ennyn diddordeb, ysbrydoli a chreu effaith.鈥
Dywedodd Paula Griffiths, Rheolwr y Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach, 鈥淢ae Ymestyn yn Ehangach yn hynod falch o鈥檙 llwyddiant hwn. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth bwerus o'r r么l y mae allgymorth dwyieithog, ar sail lle, yn ei chwarae wrth gefnogi mynediad teg at addysg uwch yng Nghymru. Mae鈥檙 Ysbyty Tedi B锚r yn dangos sut y gall ymgysylltu cynnar a chadarnhaol godi dyheadau a helpu pobl ifanc o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i weld addysg uwch fel rhywbeth sydd wir o fewn eu cyrraedd.
鈥淩ydym yn falch o gefnogi mentrau o鈥檙 fath sy鈥檔 cyflawni newid gwirioneddol a pharhaol ledled gogledd a chanolbarth Cymru.鈥
Meddai Peter Bridges, Pennaeth Ysgol Llanllyfni, 鈥淟lwyddodd y project yma i ddal sylw鈥檙 plant a thanio eu dychymyg o鈥檙 eiliad gyntaf. Fe wnaeth agor y drws i'r posibilrwydd fod yna ddyfodol yn y maes gofal iechyd i ddisgyblion oedd ddim efallai wedi ystyried y llwybr hwnnw erioed o'r blaen.
鈥淔el ysgol rydan ni鈥檔 falch iawn ein bod ni wedi cymryd rhan a dan ni鈥檔 gobeithio parhau 芒鈥檙 bartneriaeth, gan ddarparu mwy o gyfleoedd fel hyn i鈥檔 disgyblion yn y dyfodol. Llongyfarchiadau mawr i bawb fu鈥檔 rhan o gyflawni project mor ardderchog.鈥