Mae'r daith wyddonol, dan arweiniad yr Athro Jan Geert Hiddink o Brifysgol Bangor, yn rhan o broject gwerth 拢2.1M a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Aeth y t卯m o 18 o wyddonwyr ar fwrdd yr RRS Discovery, un o longau ymchwil mwyaf datblygedig y byd, lle byddant yn treulio tair wythnos a hanner.
Cyn cychwyn, daeth gr诺p o bobl flaenllaw ar fwrdd y llong am daith o鈥檌 hamgylch, gan gynnwys Maer Rhanbarth Dinas Lerpwl, Steve Rotheram, a Chyfarwyddwr Gweithrediadau y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Natalie Campbell.
Dywedodd yr Athro Jan Geert Hiddink o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, 鈥淢ae treillio am bysgod ar wely鈥檙 m么r yn darparu chwarter o fwyd m么r y byd ond dyma hefyd y tarfu corfforol mwyaf helaeth a achosir gan weithredoedd dynol i stociau o garbon sydd wedi'u cloi mewn gwaddod ar wely'r m么r. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y gallai tarfu ar wely'r m么r arwain at ryddhau nwyon t欧 gwydr sylweddol o wely'r m么r ac i'r atmosffer. Mae ansicrwydd mawr yn ein dealltwriaeth o effaith y tarfu hwn ar storfeydd carbon gwely'r m么r. O ganlyniad, mae effaith tarfu ar wely'r m么r ar storfeydd carbon yn anfesuradwy i raddau helaeth ac nid yw wedi'i rheoleiddio ar hyn o bryd. Nod y project hwn yw cael dealltwriaeth llawer cliriach o'r hyn sy'n digwydd er mwyn llywio pa gamau y gallai fod angen eu cymryd gan wyddonwyr, llunwyr polisi a rheoleiddwyr yn y dyfodol.鈥
Mae saith sefydliad ymchwil yn cydweithio yn y project hwn. Y rhain yw Prifysgol Bangor, Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS), Prifysgol Herriot-Watt, Prifysgol Leeds, PML, Prifysgol St Andrews, a Choleg Imperial Llundain.