Dan arweiniad Prifysgol Bangor a鈥檙 Countryside & Community Research Institute (CCRI) yn yr University of Gloucestershire, nod yr astudiaeth yw deall yn well sut mae offer digidol yn dylanwadu ar arferion ffermio bob dydd a sut y gallent gyfrannu at wella cynaliadwyedd amaethyddiaeth Cymru.
Mae'r project yn rhan o Cymru Wledig LPIP Rural Wales (Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol), sef cydweithrediad rhwng prifysgolion, cymunedau a rhanddeiliaid sy'n gweithio i gryfhau'r sail dystiolaeth i ddatblygiad gwledig mwy cynhwysol a chynaliadwy.
Bydd yr ymchwil, a gyllidir gan UK Research and Innovation (UKRI), yn edrych ar sut mae deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill yn cael eu defnyddio ar ffermydd yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ogystal 芒'r cyfleoedd a'r heriau maent yn eu cyflwyno.
Bydd hefyd yn edrych ar y sgiliau, y wybodaeth a'r gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar ffermwyr a rheolwyr tir i wneud defnydd effeithiol o'r technolegau hyn, a sut mae mathau newydd o arbenigedd digidol yn cyd-fynd 芒 gwybodaeth a phrofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth.
Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys ymuno 芒鈥檙 canlynol:
- Gr诺p ffocws ar-lein i randdeiliaid y diwydiant ar 1 Gorffennaf, rhwng 2pm a 3.30pm;
- Gr诺p ffocws yn y cnawd i ffermwyr yn Sioe Frenhinol Cymru ar 22 Gorffennaf, o 9.15am tan 11.00am;
- Gr诺p ffocws ar-lein i ffermwyr ar 4 Awst, rhwng 12pm a 1:30pm
Mae'r t卯m yn arbennig o awyddus i glywed gan ffermwyr sydd eisoes yn defnyddio offer digidol neu ddeallusrwydd artiffisial yn eu gwaith bob dydd ac a fyddai鈥檔 fodlon i鈥檙 t卯m ymweld 芒 hwy. Bydd y cyfweliadau cerdded a sgwrsio hyn yn gyfle i drafod sut y defnyddir technoleg mewn lleoliadau go iawn a sut caiff ei defnyddio i wneud penderfyniadau bob dydd ar fferm.
Meddai Dr Sophie Wynne-Jones, Uwch Ddarlithydd Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淢ae鈥檙 ymchwil hwn yn ymwneud 芒 dysgu鈥檔 uniongyrchol gan ffermwyr a rheolwyr tir am yr hyn sydd eisoes yn gweithio鈥檔 ymarferol, yn ogystal 芒 deall yr heriau. Bydd eu cyfraniadau鈥檔 rhan hanfodol o lunio cefnogaeth a pholis茂au yn y dyfodol.鈥
Bydd y canfyddiadau鈥檔 cyfrannu at bolisi a chefnogaeth yn y dyfodol i鈥檙 sector amaethyddol yng Nghymru, gan helpu sicrhau bod y pontio i sero net yn seiliedig ar brofiad a gwybodaeth y rhai sydd 芒 phrofiad ymarferol a phrofiad bywyd.
Bydd ffermwyr sy'n cymryd rhan mewn grwpiau ffocws yn cael cynnig rhywbeth bach i gydnabod eu hamser.
Anogir y rhai sydd 芒 diddordeb cymryd rhan neu ddysgu mwy i gysylltu 芒'r t卯m ymchwil yn uniongyrchol, naill ai trwy gysylltu ag Aimee Morse, amorse1@glos.ac.uk neu Elen Bonner, elen.bonner@bangor.ac.uk