Cafodd Dr Samuel Leaney, a gwblhaodd ei PhD yn ddiweddar mewn Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff, fynd i Uwchgynhadledd Hinsawdd ac Iechyd Byd-eang y Gymdeithas Ffisiolegol yn Llundain yn ystod blwyddyn academaidd 2025–26, diolch i gefnogaeth gan Ysgoloriaeth Gwyddor Chwaraeon Jeremy Howell.
Yn dilyn ei gyflwyniad yng Nghynhadledd Flynyddol yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon yn 2025, dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Samuel trwy haelioni'r Athro Jeremy Howell, cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor (Addysg Gorfforol, 1981) a Chymrawd er Anrhydedd (Gwyddor Chwaraeon, 2015). Galluogodd y wobr iddo fynd i’r uwchgynhadledd ym mis Gorffennaf 2025.
Yn ystod ei PhD, ymchwiliodd Samuel i effeithiau therapi gwres ar iechyd cardiofasgwlaidd a serebro-fasgwlaidd, gan archwilio p’un a oes modd gwella iechyd y galon a’r ymennydd drwy drochi mewn dŵr poeth. Roedd yr ymchwil yn cynnwys cydweithio â dros 20 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd, chwe ymchwilydd PhD, a phartneriaid academaidd o Brifysgol Bangor, Prifysgol Innsbruck, Università Cattolica del Sacro Cuore, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Arweiniodd y project at dri chyhoeddiad fel awdur cyntaf a adolygwyd gan gymheiriaid, a rhoddodd brofiad gwerthfawr i fyfyrwyr mewn dulliau ymchwil, profion ffisiolegol, dadansoddi data a chyhoeddi gwyddonol.
Daeth yr Uwchgynhadledd Hinsawdd ac Iechyd Byd-eang ag ymchwilwyr, llunwyr polisi, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arbenigwyr hinsawdd ynghyd i archwilio'r cysylltiadau cynyddol rhwng y newid yn yr hinsawdd ac iechyd pobl.
Dywedodd Dr Vicky Gottwald, Darlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon:
Ers ei sefydlu, mae gwobr Jeremy Howell wedi cefnogi nifer o'n hymchwilwyr ôl-radd i fynd i gynadleddau academaidd ledled y byd. Mae meithrin diwylliant ymchwil lle mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn gallu ffynnu yn rhan bwysig o'n hunaniaeth o fewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, a heb os, mae gwobr Jeremy Howell wedi cyfrannu at hyn.
Diolch i wobr Jeremy Howell, mae ein myfyrwyr ymchwil ôl-radd wedi ennill profiad cyflwyno hanfodol, wedi cael cyfleoedd i deithio a phrofi gwahanol ddiwylliannau, wedi cysylltu ag ymchwilwyr ôl-radd eraill ledled y byd, ac wedi cael cefnogaeth i feithrin rhwydweithiau ymchwil pwysig ar gyfer eu dyfodol. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gwasanaethau i wyddor chwaraeon y mae'r Athro Howell wedi eu galluogi.
Mae Ysgoloriaeth Gwyddor Chwaraeon Jeremy Howell yn parhau i gefnogi ymchwilwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor, gan eu helpu i ehangu eu gorwelion academaidd a chynyddu effaith eu hymchwil i'r eithaf.