Penodi Dr Fariba Darabi yn gyd-is-gadeirydd dros gymunedau ac yn ymddiriedolwr gyda鈥檙 British Academy of Management
Mae Dr Fariba Darabi, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, wedi'i phenodi'n (Gyd-) Is-gadeirydd dros Gymunedau ac yn Ymddiriedolwr gyda鈥檙 British Academy of Management (BAM).
Yn y r么l hon, bydd Fariba yn ymuno 芒 Phwyllgor Gweithredol BAM, yn arwain portfolio Cymunedau ac yn cyfrannu at gyfeiriad strategol yr Academi. Mae'r portffolio'n cynnwys 24 o Grwpiau Diddordeb Arbennig (SIGs), sy'n cynrychioli ystod eang o ddisgyblaethau rheoli, ochr yn ochr 芒 thri Rhwydwaith a Thraciau Cynhadledd yr Academi.
Fel (Cyd-) Is-gadeirydd, bydd Fariba yn cefnogi Cymunedau BAM drwy gryfhau cydweithio ar draws Grwpiau Diddordeb Arbennig a Rhwydweithiau, gan greu cyfleoedd i ysgolheigion ac addysgwyr rheolaeth gysylltu, rhannu eu diddordebau academaidd a'u harbenigedd ymchwil, a chefnogi ymchwilwyr doethurol ar draws y Cymunedau yn yr Academi.
Dywedodd Fariba: 鈥淢ae BAM yn un o鈥檙 cymdeithasau dysgedig mwyaf blaenllaw ar gyfer addysg ac ymchwil rheoli yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Rwy'n falch iawn o gael fy ethol gan aelodau BAM i wasanaethu yn y r么l hon. Rwy'n arbennig o falch o gynrychioli Prifysgol Bangor o fewn yr Academi a chyfrannu at gefnogi academyddion, addysgwyr rheolaeth, partneriaid diwydiant a llunwyr polisi.鈥
Byddai Fariba wrth ei bodd yn sgwrsio 芒 chydweithwyr sydd 芒 diddordeb mewn ymuno 芒 chymuned BAM neu a hoffai ddysgu mwy am y cyfleoedd a manteision cymryd rhan.