Bydd y project Voices in the Walls: The Social Afterlife of Asylum Architecture and the Heritage Politics of Mental Health in North Wales, a arweinir gan yr Athro Lucy Huskinson, yn dechrau ym mis Ionawr 2027. Cafodd y cais sgôr o 9 allan o 10, sef ‘rhagorol’, gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Wedi’i agor yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel yr unig ysbyty seiciatrig yng Nghymru i drin cleifion trwy gyfrwng y Gymraeg, caeodd ‘Seilam Dinbych’, a elwid yn ddiweddarach yn Ysbyty Gogledd Cymru, am byth yn 1995. Yn y tri deg mlynedd ers hynny, mae ei adfeilion trawiadol wedi denu chwilotwyr trefol a chriwiau teledu sy'n hela ysbrydion o bob cwr o'r byd. Mae'r adeilad wedi ymddangos ar Most Haunted Live! ar sianel deledu Sky Living mewn rhaglen o'r enw ‘Village of the Damned’, ac roedd hyd yn oed yn destun ‘gwesty arswyd’ arfaethedig, tra bod rhannau o'r safle bellach yn cael eu hailddatblygu. Mae hefyd yn cael ei gynnwys yn y nofel Un Nos Ola Leuad, sy’n cael ei chanmol fel un o nofelau gorau’r Gymraeg.
Dywed y tîm ymchwil fod stori wirioneddol yr adeilad ei hun wedi'i cholli yng nghanol yr holl ddamcaniaethu yn ei gylch: sut y cafodd ei greu a'i dderbyn, sut y cafodd ei adeiladu, sut y newidiodd, a sut y mae wedi cael ei weld a'i frwydro drosto byth ers hynny. Dros y tair blynedd nesaf byddant yn archwilio archifau, llythyrau, dyddiaduron a phapurau newydd dwyieithog sy'n dyddio'n ôl i gyfnod cynllunio cynharaf yr adeilad yn yr 1840au, yn ogystal â chasglu atgofion, teimladau a delweddau'r cyhoedd eu hunain o’r ysbyty.
Bydd yr ymchwil hwnnw’n bwydo gwefan ddwyieithog a hygyrch a adeiladwyd o amgylch creu adluniad trochol o'r ysbyty mewn 3D. Ar y wefan, bydd pobl yn gallu archwilio'r ysbyty ar-lein neu, drwy bensetiau rhithrealiti, fel ‘taith gerdded’ yn y cnawd. Bydd hynny’n cael ei blethu ynghyd â hanesion llafar, seinweddau a delweddau archifol o'r adeilad. Bydd arddangosfa deithiol yn ymweld â gwahanol Ganolfannau Diwylliannol yn nalgylch gwreiddiol ‘y Seilam’/Ysbyty. Bydd arddangosfa arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2029, ochr yn ochr ag adnoddau addysgu dwyieithog rhad ac am ddim i ysgolion, a phapur polisi i gynllunwyr a chyrff treftadaeth sy'n gweithio gyda safleoedd hanesyddol sensitif eraill.
Hoffai'r tîm sy'n gweithio ar y project glywed gan unrhyw un sydd â ffotograffau, ffilm, lluniadau, llythyrau neu weithiau celf sy'n gysylltiedig â'r ysbyty. Mae hynny’n cynnwys ei du mewn, ei du allan, ystafelloedd neu diroedd penodol, o unrhyw gyfnod yn ei oes, boed yn weithredol, ar adeg ei gau, yn ystod y cyfnod hir o fod mewn cyflwr adfeiliedig, neu wrth iddo wynebu ailddatblygu heddiw. Gwahoddir cyn-aelodau staff, cleifion a’u teuluoedd, chwilotwyr trefol, trigolion Dinbych ac unrhyw un arall sydd â rhywbeth i'w gyfrannu i ddod ymlaen a helpu i adeiladu archif barhaol o'r safle drwy gyfrannu torfol.
Dywedodd yr Athro Lucy Huskinson, Arweinydd y Project: “Rwy’n ddiolchgar y bydd yr adeilad nodedig hwn, a’r nifer o fywydau y mae wedi’u byw, o’i sefydlu, hyd at ddod yn adfail, i’r cynlluniau ar gyfer ei ailddatblygu, yn cael eu cadw mewn cof ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Os oes gennych chi ffotograff wedi'i guddio mewn drôr, hen fideo cartref, deunydd ffilm fel chwilotwr trefol, neu atgof neu deimladau sy'n gysylltiedig ag unrhyw ran o'r adeilad o gwbl (hyd yn oed dim ond crac yn y wal!), rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Mae pob cyfraniad yn ein helpu i greu darlun mwy cyflawn a gwir o'r hyn y mae'r adeilad hwn wedi'i olygu i'r gymuned hon ac i Gymru, a dyna, i mi, sy'n ei wneud yn werthfawr: mae'n trosglwyddo'r dreftadaeth hon yn ôl i'r bobl y gwnaeth ei phrofi mewn gwirionedd, yn hytrach na'i gadael i ddatblygwyr neu straeon ysbrydion neu academyddion.”
Mae'r project hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer uchelgais tymor hwy. Mae Cyngor Sir Ddinbych, sy'n berchen ar y safle ac yn bartner ffurfiol ar y project, eisoes yn bwrw ymlaen â'i gynlluniau i adfer y prif adeilad Gradd II* a'i drosi'n fflatiau preswyl ond mae wedi nodi capel hanesyddol y safle fel cyfle i roi cartref parhaol i arddangosfa'r project, ochr yn ochr â lle parhaol i'w ddefnyddio gan y gymuned.
Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethiant Corfforaethol a Mynd i’r Afael ag Amddifadedd, meddai: “Mae safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn lle arbennig yng nghalonnau llawer o bobl yn Ninbych a’r ardaloedd cyfagos, a bydd y project sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor yn cynnig cyfle i’r gymuned gofio’r hyn a oedd yn rhan mor arwyddocaol o hanes Dinbych. Hoffwn annog unrhyw un sydd ag unrhyw eitemau sy’n ymwneud â chyn Ysbyty Gogledd Cymru ac a hoffai eu rhoi i’r prosiect i gysylltu â’r tîm y project ym Mhrifysgol Bangor.”
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke: "Mae Prifysgol Bangor yn falch o gefnogi'r darn hanfodol hwn o waith. Mae Ysbyty Gogledd Cymru yn dal lle cymhleth ac arwyddocaol yn hanes Cymru a'r Gymraeg, a bydd y project hwn yn sicrhau bod yr hanes, yn ei holl anhawster a phwysigrwydd, yn cael ei gofnodi'n briodol a'i wneud yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol. Rwy’n arbennig o falch o weld yr ymchwil hwn yn cael ei arwain gyda chymaint o ystyriaeth i'r bobl y mae eu bywydau yn gysylltiedig â'r adeilad, ac rwy'n edrych ymlaen at weld uchelgais y project ar gyfer capel y safle yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod."