Derbyniodd Khaled Hussainey, Athro Cyfrifeg yn Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, y Gymrodoriaeth bwysig yn dilyn ei enwebiad gan y British Accounting & Finance Association (BAFA).
Mae meysydd ymchwil ac ymarfer y Cymrodyr newydd yn eang, gan gynnwys democratiaeth ddigidol, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder byd-eang, iechyd meddwl a llesiant ac anghydraddoldebau cymdeithasol, a chawsant eu hethol am eu cyfraniadau sylweddol i wyddorau cymdeithas.
Mae eu gwaith yn tynnu sylw at r么l bwysig y gwyddorau cymdeithas wrth ddeall a helpu i fynd i'r afael 芒 rhai o'r heriau cymdeithasol cymhleth sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig a'r byd heddiw.
Yn ogystal 芒 dangos rhagoriaeth mewn ymchwil a chymhwyso gwyddorau cymdeithas yn broffesiynol, mae'r Cymrodyr newydd, sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, disgyblaethau a phroffesiynau, hefyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol y tu hwnt i'r byd academaidd, gan gynnwys ym meysydd polisi, gwasanaeth cyhoeddus, diwydiant a chymdeithas sifil.
Mae gan yr Athro Khaled Hussainey, a ymunodd 芒 Phrifysgol Bangor yn 2024, fwy na phum mlynedd ar hugain o brofiad addysgu ar draws lefelau israddedig ac 么l-radd.
Mae ei enw da am ymchwil ym maes cyfrifeg a chyllid yn cynyddu. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar adrodd naratif corfforaethol, sy'n cynnwys cymryd datganiadau ariannol ac egluro'r stori y tu 么l i'r data.
Mae wedi cael ei gynnwys yn y gronfa ddata 鈥淲orld Ranking of Top 2% Researchers鈥 a gr毛wyd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Stanford (Unol Daleithiau America).
Yn ogystal, mae wedi cyhoeddi mwy na 300 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac wedi ysgrifennu nifer o benodau llyfrau a golygu sawl llyfr.
Dywedodd yr Athro Khaled Hussainey, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd fawr i mi gael fy ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithas (FAcSS). Rwy'n ddiolchgar i'r Academi am y gydnabyddiaeth bwysig hon ac i鈥檙 British Accounting & Finance Association (BAFA) am fy enwebu. Mae'r Gymrodoriaeth hon yn gydnabyddiaeth ystyrlon o'm taith academaidd ac yn ysbrydoliaeth i barhau i gynhyrchu ymchwil sy'n fuddiol i gymdeithas".
Dywedodd Llywydd yr Academi, Will Hutton FAcSS, 鈥淢ae ein Cymrodyr newydd yn cynrychioli rhai o鈥檙 lleisiau mwyaf dylanwadol ym maes gwyddorau cymdeithas heddiw. Mae eu gwaith yn ehangu gwybodaeth, yn herio tybiaethau ac yn cynhyrchu mewnwelediadau sy'n hysbysu a hyd yn oed yn ailddiffinio prosesau gwneud penderfyniadau ar draws meysydd llywodraeth, busnes, addysg a chymdeithas sifil. Rwy'n falch iawn o'u croesawu i'r Academi ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i godi proffil ac effaith y gwyddorau cymdeithas ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.鈥
Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys 1,750 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw o'r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae arbenigedd ei Gymrodyr yn cwmpasu lled y gwyddorau cymdeithas, ac mae eu hymarfer a'u hymchwil yn helpu pobl i ddeall ac ymdrin 芒 rhai o'r prif heriau sy'n wynebu cymunedau, cymdeithas, lleoedd ac econom茂au.
Mae pob Cymrawd yr Academi yn cael eu hethol am eu rhagoriaeth yn eu meysydd a'u cyfraniadau sylweddol at wyddorau cymdeithas er budd cyhoeddus. C芒nt eu dewis drwy adolygiad annibynnol gan gymheiriaid sy'n cydnabod eu rhagoriaeth a'u heffaith.
Mae 74 o Gymrodyr newydd yr Academi wedi cael eu hethol o 38 o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys 36 o brifysgolion, yn ogystal 芒 melinau trafod, sefydliadau ymchwil, cyrff cyllido ymchwil cyhoeddus, ac o wledydd a rhanbarthau y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Canada, Tsieina, Hong Kong, Macau a Seland Newydd.