成人VR视频

Fy ngwlad:
Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor

Rhesymeg, Ieithyddiaeth, a Niwroteip

 

Amdanom Ni

Mae'r Gr诺p Ymchwil Rhesymeg, Ieithyddiaeth, a Niwroteip (ReLiaNt) yn cynnwys ymchwilwyr 么l-raddedig sydd 芒 diddordeb mewn defnyddio dulliau gwyddoniaeth ieithyddol a gwybyddol i ddeall yn well y gwahaniaethau mewn gwybyddiaeth a chyfathrebu mewn niwroteipiau gwahanol (gan gynnwys awtistiaeth, ADHD, a dyslecsia).

Os ydych chi'n ymchwilydd 么l-raddedig (mewn unrhyw sefydliad) sydd 芒 diddordeb mewn ymuno 芒 ni, cysylltwch 芒 ni.

Cysylltu

Logo ReLiaNt mewn lliw melyn

Prosiectau Ymchwil

Dylanwad goruchafiaeth iaith a niwroteip ar allu i resymu

Arweinydd y Prosiect: A. Jago Williams

Ymchwilwyr eraill: Dr James T. Bragg, Dr Alan Wallington

A yw nifer yr ieithoedd rydych chi'n eu defnyddio ac yn cael eich amlygu iddynt yn newid pa mor dda rydych chi'n rhesymu? Ac a yw'n wahanol yn dibynnu ar eich niwroteip?

Cyfarfod y T卯m

A profile picture of Charlie Cross

Charlie Edward Cross (Is-Gadeirydd)

Mae Charlie yn ieithydd sy'n arbenigo mewn ieithyddiaeth anabledd, gyda phwyslais penodol ar bragmateg cyfathrebu awtistig o fewn y gymuned.

Bywgraffiad

Mae Jago yn ymchwilydd rhesymu a ariennir gan yr ESRC, ac mae鈥檔 canolbwyntio ar effaith iaith a niwroteip ar y gallu i resymu. Mae ei phroject cyfredol, Rhesymu, Iaith, a Niwroteip ym Mhrifysgol Bangor dan oruchwyliaeth Dr Alan Wallington a Dr Eirini Sanoudaki.

Mae gan Jago MA Dwyieithrwydd a BA Ieithyddiaeth, ac ar hyn o bryd mae ganddi dri chyhoeddiad wedi eu hadolygu gan gymheiriaid ar iaith a newid hinsawdd, gydag un arall ar y gweill. Cafodd ei chynnwys ar y Linguist List Rising Stars of 2023.

Mae Phillip Wadley yn ieithydd a gwyddonydd gwybyddol o'r Unol Daleithiau. Enillodd BA ym Mhrifysgol Tennessee yn 2018 ac MA ym Mhrifysgol Bangor yn 2019. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn ieithyddiaeth yn ddiweddar, mae'n arbenigo yn semanteg a phragmateg iaith ffigurol. Mae ei gefndir ymchwil yn cynnwys gwaith rhyngddisgyblaethol mewn gwybyddiaeth gerddoriaeth, cynrychiolaeth feddyliol o ddiriaethrwydd a dadansoddiad cyfrifiadurol o iaith.

Mae diddordeb cyfredol Phillip mewn 'meddwl llythrennol' ymhlith oedolion awtistig wrth iddynt ddehongli trosiadau. Fel rhan o Gr诺p ReLiaNt, mae'r project y mae'n ei arwain, sef 鈥淢etaphor in Autism鈥, wedi ei anelu at ddysgu sut mae pobl ag awtistiaeth a phobl niwronodweddiadol yn deall trosiadau鈥檔 wahanol, gyda'r nod o bontio bylchau mewn cyfathrebu ar draws niwrodeipiau.

Mae James yn seicoieithydd sy'n arbenigo mewn mynediad geiriol dwyieithog a phrosesu morffoffonolegol, gyda phwyslais penodol ar dreiglo cytseiniaid cychwynnol yn y Gymraeg. Mae ei ymchwil yn trafod sut mae siaradwyr dwyieithog Cymraeg a Saesneg yn adnabod geiriau llafar pan fydd ffurfiau arwynebol yn amrywio'n systematig, gan archwilio sut mae hyn yn effeithio ar gystadleuaeth, rhagfynegiad a mynediad yn yr eirfa feddyliol ddwyieithog.

Mae ganddo MArts Saesneg i TEFL, MA Dwyieithrwydd, ac yn ddiweddar cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn dwyieithrwydd (ieithyddiaeth) ym Mhrifysgol Bangor, am

draethawd ymchwil yn edrych ar ddylanwad treiglo ar fynediad at eirfa yn y Gymraeg. Mae ei ddiddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys prosesu iaith dwyieithog, modelu seicoieithyddol a'r mecanweithiau gwybyddol sy'n sail i newid morffoffonolegol.

Mae Charlie yn ieithydd sy'n arbenigo mewn ieithyddiaeth anabledd, gyda phwyslais penodol ar bragmateg cyfathrebu awtistig o fewn y gymuned. Mae ganddo BA Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg o Brifysgol Bangor, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei draethawd MA, a fydd yn gwerthuso'r berthynas rhwng anuniongyrchedd a chwrteisi canfyddedig ar draws niwroteipiau, gan ganolbwyntio ar ddulliau o fewn y gymuned.

Mae'n defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar fodelau niwroamrywiaeth mewn meysydd anacademaidd mewn projectau fel Bangor Gwbl Hygyrch (gr诺p ymgyrchu dros anabledd ym Mhrifysgol Bangor), mae鈥檔 cadeirio cymdeithas myfyrwyr awtistig Prifysgol Bangor, ac yn rhoi hyfforddiant rheolaidd i wahanol gyrff ar gynllunio hygyrchedd a'r dulliau cyfathrebu gorau. Derbyniodd Ysgoloriaeth Gynhwysol Athena Swan yn 2024 oherwydd ei uchelgais i gynrychioli ymchwilwyr awtistig mewn ymchwil awtistiaeth.

Mae Kavya yn ymchwilydd doethurol mewn Gwyddorau Seicolegol Gwybyddol ym Mhrifysgol Essex, dan oruchwyliaeth yr Athro Miroslav Sirota a'r Athro Marie Juanchich. Mae ganddi ddwy radd meistr, MSc (Meistr mewn Gwyddoniaeth) Seicoleg o Brifysgol Essex ac MCom (Meistr Masnach) o Brifysgol Delhi. Mae ei doethuriaeth yn rhan o broject ymchwil dan arweiniad yr Athro Miroslav Sirota ac wedi ei ariannu gan y Leverhulme Trust.

Mae ei hymchwil yn trafod y prosesau gwybyddol sy'n sail i resymu a gwneud penderfyniadau, gyda phwyslais penodol ar swyddogaeth a phwrpas adfyfyrio gwybyddol. Mae hi'n ystyried sut mae meddwl greddfol a dadansoddol yn cyfrannu at allu pobl i ganfod gwallau, osgoi rhagfarnau gwybyddol, gwerthuso gwybodaeth a gwneud penderfyniadau bob dydd.

Ar hyn o bryd mae hi'n cyfrannu at broject trawsddiwylliannol byd-eang ar raddfa fawr mewn cydweithrediad 芒'r Psychological Science Accelerator (PSA) sy'n ymchwilio i sut mae unigolion yn adnabod ac yn cywiro eu camgymeriadau rhesymu eu hunain. Mae hi'n aelod balch o gr诺p ReLiaNt, ac yn cynrychioli'r llinyn ail-resymu.

Mae Alan yn ddarlithydd ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda doethuriaeth o'r Centre for Computational Linguistics yn UMIST/Prifysgol Manceinion, fel yr oedd ar y pryd. Ei ddiddordeb cyffredinol yw datblygu modelau damcaniaethol o ddadansoddi neu brosesu iaith ddynol, gyda鈥檙 nod o allu eu profi. Mae hyn yn golygu ei fod yn ymddiddori'n bennaf yn y patrymau a'r cyffredinoliadau hynny a geir mewn iaith sy'n berthnasol i brosesu a dehongli iaith, ac sy鈥檔 effeithio ar y broses honno, yn hytrach na'r rhai sy'n adlewyrchu sut mae pobl yn dysgu iaith neu sut mae iaith yn datblygu dros amser. Roedd ei ddoethuriaeth a gwaith dilynol yn ymwneud yn bennaf ag agweddau strwythurol neu gystrawennol ar brosesu iaith, megis datrys amwysedd strwythurol neu achos brawddegau 鈥済arden-path鈥, sef brawddegau sy鈥檔 gywir yn ramadegol ond nad ydynt yn gwneud synnwyr yn semantig.

Fodd bynnag, yn ddiweddarach, dechreuodd ymddiddori mewn agweddau ar ystyr, yn enwedig, ond nid yn unig, yn y ffordd y mae iaith ffigurol a throsiadau yn cael eu dehongli. Mae鈥檔 gwrthod y farn bod dehongli trosiadau鈥檔 debyg i ddatgodio, lle ceir tabl mapio neu dabl arall sy鈥檔 darparu ymadrodd cyfatebol ym mharth targed yr iaith lythrennol i unrhyw ymadrodd ym mharth ffynhonnell y trosiad. Mae ymdrechion i wneud hyn bob amser yn ymddangos braidd yn artiffisial. Yn hytrach, mae鈥檔 awgrymu, bod trosiadau鈥檔 sbarduno cadwyn o gasgliadau yngl欧n 芒鈥檙 hyn a fyddai'n cael ei gasglu pe bai'r senario gwirioneddol a gyfeirir ato gan y trosiad yn dal i fodoli, proses sy鈥檔 debyg i resymu gwrthffeithiol.