Gwelwyd y gwelliannau mwyaf mewn mesurau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Cododd safle Bangor ar gyfer boddhad 芒鈥檙 addysgu 38 o leoedd i鈥檙 30ain safle yn genedlaethol, tra gwelwyd gwelliant o naw safle mewn boddhad ag asesu.
Gwnaeth y Brifysgol gynnydd sylweddol hefyd o ran rhagolygon gyrfa, gan godi 22 safle i鈥檙 55fed safle yn genedlaethol.
Ar lefel pynciol, mae naw pwnc wedi鈥檜 rhestru o fewn y chwarter uchaf yn genedlaethol, gan gynnwys pump o fewn y 10% uchaf o sefydliadau.
Mae Peirianneg Drydanol ac Electronig ar y blaen gyda鈥檙 canlyniadau hyn, gan gael ei rhestru鈥檔 gyntaf yn y Deyrnas Unedig gyda鈥檙 sg么r Guardian uchaf posibl o 100, o flaen Southampton yn yr ail safle a Chaerwysg (Exeter) yn y trydydd safle. Daeth Bydwreigiaeth yn ail yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau 100% o foddhad ar gyfer addysgu a 97.6% ar gyfer adborth.