Ysgol Fusnes Albert Gubay yn Sicrhau Bwrsari gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr i Gefnogi Llwyddiant Myfyrwyr
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn falch o gyhoeddi, trwy ei mentrau allgymorth ac ymgysylltu, bod bwrsari a ariennir gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr wedi'i ddyfarnu i fyfyriwr Cyfrifeg a Chyllid.
Dywedodd Yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth yr Ysgol:
鈥淩ydym yn ddiolchgar i鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr am ddarparu鈥檙 bwrsari hwn. Mae'n gydnabyddiaeth o gryfder ein perthynas hirdymor gyda鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr a'n hymrwymiad cyffredin i gefnogi llwyddiant myfyrwyr.鈥
Mae'r garreg filltir hon yn tynnu sylw at ymrwymiad parhaus yr Ysgol i ehangu cyfranogiad a chreu cyfleoedd effeithiol sy'n galluogi myfyrwyr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Rhannodd Heather Bunce Harrington, a dderbyniodd y bwrsari, effaith y wobr:
鈥淢ae derbyn y bwrsari hwn yn golygu llawer i mi. Mae'n lleddfu pryderon ariannol yn ystod fy ngradd ac yn caniat谩u i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau. Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi a'm cymell ymhellach i ddilyn gyrfa mewn cyfrifeg. Rwy'n ddiolchgar iawn i Ysgol Albert Gubay a鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr am y cyfle hwn ac am gredu yn fy mhotensial i lwyddo.鈥
Dywedodd Riaz Anwar, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifeg a Chyfarwyddwr Allgymorth ac Ymgysylltu:
鈥淩ydym ni wrth ein bodd yn cydweithio a鈥檙 Sefydliad Cyfrifwyr i greu cyfleoedd ystyrlon sy鈥檔 cefnogi uchelgeisiau a gyrfaoedd ein myfyrwyr yn y dyfodol. Mae'r bwrsari hwn yn enghraifft gref o sut y gall gwaith allgymorth penodol gael effaith wirioneddol a pharhaol.鈥
Nid yn unig y mae'r bwrsari yn darparu cefnogaeth ariannol werthfawr ond mae hefyd yn adlewyrchu cryfder cynyddol partneriaethau allanol yr Ysgol Fusnes, gan atgyfnerthu ei swyddogaeth wrth gysylltu myfyrwyr 芒 llwybrau proffesiynol a gwella eu rhagolygon gyrfa.
Darganfyddwch fwy am astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor a gweld ble y gall fynd 芒 chi.