Ymchwilydd o Brifysgol Bangor yn rownd derfynol Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc
Mae Dr Iestyn Woolway yn un o naw ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc yn y Deyrnas Unedig 2026 a'r cyntaf o Gymru a Phrifysgol Bangor i gael ei ddewis ar gyfer y gwobrau o fri hyn.
Cr毛wyd y Gwobrau gan Sefydliad Teulu Blavatnik a ch芒nt eu rheoli gan Academi Gwyddorau Efrog Newydd. Mae'r Gwobrau yn dathlu cyfraniadau sy鈥檔 torri tir newydd gan wyddonwyr y Deyrnas Unedig ym meysydd Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Cemegol a Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
Dewiswyd Dr Iestyn Woolway, sy鈥檔 Gymrawd Ymchwil Annibynnol NERC (Darllenydd) yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, gan reithgor annibynnol o wyddonwyr arbenigol a ddewiswyd o blith 91 o enwebeion sy'n cynrychioli 46 o sefydliadau academaidd ac ymchwil ledled y Deyrnas Unedig i gydnabod ei ymchwil i effeithiau newid hinsawdd ar lynnoedd ac ecosystemau d诺r croyw byd-eang.
Mae ymchwil Dr Woolway yn canolbwyntio ar sut mae llynnoedd a dyfroedd mewndirol eraill yn ymateb i gynhesu byd-eang cyflym. Mae ei waith wedi rhoi mewnwelediadau hollbwysig ar effeithiau newid hinsawdd ar yr ecosystemau hyn, gyda goblygiadau difrifol i fioamrywiaeth, ansawdd d诺r, ac iechyd cyffredinol yr ecosystem. Gan ddefnyddio technegau uwch sy'n integreiddio synhwyro o bell lloeren a modelu hinsawdd, mae Dr Woolway wedi cynnig persbectif byd-eang ar ba mor agored yw llynnoedd i gynnydd mewn tymheredd. Mae ei astudiaethau arloesol, yn enwedig y rhai ar sut mae cynnydd mewn tymheredd aer a newid mewn patrymau tywydd yn effeithio ar dymheredd llynnoedd, haenu a gorchudd i芒, wedi bod yn allweddol wrth lunio dealltwriaeth wyddonol a llywio trafodaethau polis茂au hinsawdd.
Dywedodd Dr Iestyn Woolway, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd i mi gael fy newis yn rownd derfynol gwobr mor glodfawr ochr yn ochr ag ymchwilwyr blaenllaw eraill yn y Deyrnas Unedig. Wrth i newid hinsawdd ail-lunio ein hamgylchedd, mae'n bwysicach nag erioed i ddyfnhau ein dealltwriaeth o ecosystemau d诺r croyw trwy ymchwil drylwyr i ddiogelu dyfodol y blaned.鈥
Bydd Dr Woolway mewn cinio gala a seremoni wobrwyo ddydd Mawrth, 24 Chwefror, lle bydd yr Athro Deborah Prentice, Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt, yn datgelu enwau鈥檙 tri enillydd ar gyfer 2026. Nawr yn ei nawfed flwyddyn, bydd pob Enillydd Gwobr Blavatnik yn derbyn 拢100,000 (US$135,000) anghyfyngedig, tra bydd y chwech sy'n weddill yn derbyn 拢30,000 (US$40,400) yr un.
Gwobrau Blavatnik i Wyddonwyr Ifanc yw'r gwobrau mwyaf anghyfyngedig sydd ar gael i wyddonwyr y Deyrnas Unedig sy'n 42 oed neu'n iau. Mae鈥檙 Gwobrau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol gan y gymuned wyddonol, ac maent yn allweddol wrth ehangu ymgysylltiad a chydnabyddiaeth i wyddonwyr ifanc ac wrth ddarparu'r gefnogaeth a'r anogaeth sydd eu hangen i ysgogi arloesedd gwyddonol i鈥檙 genhedlaeth nesaf.
Mae Gwobrau Blavatnik yn y Deyrnas Unedig yn eistedd ochr yn ochr 芒'u cymheiriaid byd-eang, sef a yn yr Unol Daleithiau, a , sydd i gyd yn anrhydeddu ac yn cefnogi gwyddonwyr eithriadol sydd ar ddechrau eu gyrfa. Erbyn diwedd 2026, bydd Gwobrau Blavatnik wedi dyfarnu gwobrau gwerth cyfanswm o dros $20 miliwn i dros 500 o wyddonwyr a pheirianwyr ar draws y byd.
Meddai , Sylfaenydd 鈥楢ccess Industries鈥 a鈥檙 鈥楤lavatnik Family Foundation鈥, 鈥淐r毛wyd y Gwobrau i anrhydeddu gwyddonwyr rhagorol sydd ar ddechrau eu gyrfa, cyflymu eu hymchwil, a sicrhau bod darganfyddiadau sydd 芒鈥檙 potensial i wella cymdeithas yn sylweddol yn cael eu cydnabod, eu cefnogi a鈥檜 gweithredu.鈥
惭别诲诲补颈鈥檙 , Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Academi Gwyddorau Efrog Newydd a Chadeirydd Cyngor Ymgynghorol Gwyddonol y Gwobrau, 鈥淩wy鈥檔 llongyfarch y naw sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am eu gwaith sy鈥檔 torri tir newydd a鈥檜 syniadau beiddgar. Mae eu hymchwil yn enghraifft o ysbryd arloesi 鈥 gwthio ffiniau, agor ffiniau cyffrous, a gosod y sylfaen ar gyfer darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid bywydau ac yn hyrwyddo gwyddoniaeth am genedlaethau i ddod.鈥
Mae ysgolheigion Blavatnik yn sbarduno twf economaidd byd-eang drwy ddilyn ymchwil risg uchel a gwobr uchel. Hyd yn hyn, mae鈥檙 rhai sydd wedi derbyn Gwobrau Blavatnik wedi sefydlu dros 50 o gwmn茂au ar 么l derbyn y wobr, ac mae chwech ohonynt yn cael eu masnachu'n gyhoeddus a chyda gwerth mwy na $10 biliwn gyda'i gilydd.