Dyfarnu cyllid i ymchwilydd o Fangor o gronfa o 拢6.7m i wneud project sy'n ymchwilio i pam fod gan bobl atal dweud聽聽聽
Mae鈥檙 Academi Gwyddorau Meddygol wedi dyfarnu rhan o gronfa o 拢6.7 miliwn i ymchwilydd o Brifysgol Bangor sy'n ymchwilio i pam fod gan bobl atal dweud.
Mae Dr Charlie Wiltshire, sy鈥檔 Ddarlithydd mewn Seicoleg yn o 55 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa mewn 38 o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig i dderbyn y wobr fawreddog hon.
Mae鈥檙 gwaith ymchwil arloesol i niwrowyddoniaeth, sy'n cyfuno delweddu ymennydd uwch 芒 dadansoddiad ymddygiad manwl, er mwyn deall yn well achosion atal dweud a gwella opsiynau triniaeth yn y dyfodol.
Er bod atal dweud datblygiadol yn effeithio ar filiynau ledled y byd, mae ei sail fiolegol yn parhau i fod heb ei deall yn dda, tra bod therap茂au cyfredol ar gyfer atal dweud yn gyfyngedig.
Mae'r cyllid yn cynnwys 拢125,000 dros ddwy flynedd ac yn cynnwys penodi ymchwilydd 么l-ddoethurol a 拢21,000 i gefnogi profion sganio鈥檙 ymennydd yn Uned Delweddu Bangor.
Mae'r Academi Gwyddorau Meddygol yn cefnogi ymchwil newydd sydd 芒'r potensial i drawsnewid ein dealltwriaeth o glefyd Parkinson, clefyd Alzheimer, clefydau heintus a phoen cronig, ymhlith heriau iechyd dybryd eraill.
Caiff y grantiau eu cyflwyno drwy raglen Springboard, sef un o raglenni blaenllaw鈥檙 Academi. Diben y grantiau yw cefnogi ymchwil cynnar sy'n cael ei sbarduno gan chwilfrydedd, sef y wyddoniaeth sylfaenol a fydd yn sail i driniaethau ac ymyriadau yn y dyfodol.
Mae'r grantiau鈥檔 cefnogi ymchwilwyr i gymryd eu camau cyntaf fel arweinwyr annibynnol ar grwpiau ac i roi syniadau mentrus ar brawf, sydd 芒'r potensial i wella bywydau, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chryfhau sylfaen ymchwil hirdymor y Deyrnas Unedig.
Ers dros ddeng mlynedd mae Springboard yn cefnogi ymchwilwyr ar adeg hollbwysig yn eu gyrfaoedd, pan fydd llawer yn sefydlu labordai am y tro cyntaf ac angen rhyddid i archwilio cwestiynau uchelgeisiol.
Gyda chefnogaeth gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Wellcome a鈥檙 British Heart Foundation, mae鈥檙 grantiau eleni yn cwmpasu holl ehangder ymchwil iechyd a biofeddygaeth. Gyda'i gilydd, nod y projectau hyn yw helpu pobl i fyw eu bywydau yn iachach, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chryfhau gallu'r Deyrnas Unedig i atal ac ymateb i argyfyngau iechyd yn y dyfodol.
Dywedodd , sy鈥檔 Ddarlithydd mewn Seicoleg yn Adran Seicoleg Prifysgol Bangor, "Bydd gan tua 8% o bobl atal dweud ar ryw adeg yn eu bywydau, ac i lawer, mae deall ei achosion a dod o hyd i driniaethau effeithiol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth." Bydd y grant hwn yn cefnogi ein hymchwil drwy ddefnyddio delweddu cyseiniant magnetig uwch a thrwy fesur cemeg yr ymennydd i ddeall sut mae cynhyrchu lleferydd yn cael ei reoli a sut mae'r prosesau hyn yn wahanol mewn pobl sydd ag atal dweud. Rwy'n hynod o ddiolchgar i鈥檙 Academi Gwyddorau Meddygol am eu cefnogaeth, sy'n fy helpu i ddatblygu fy labordy a gweithio mewn partneriaeth 芒 phobl sydd ag atal dweud i wella ein dealltwriaeth o niwrowyddoniaeth atal dweud.鈥
Croesawodd Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, y wobr, 鈥淩ydym wrth ein bodd yn gweld Dr Wiltshire yn cael ei gydnabod gan Academi鈥檙 Gwyddorau Meddygol drwy鈥檙 Wobr Springboard fawreddog hon. Mae deall sail niwrolegol atal dweud yn her wyddonol sylweddol. Bydd yr ymchwil hon yn rhoi Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran ymdrechion i fynd i鈥檙 afael ag atal dweud ac yn enghraifft o鈥檙 math o ymchwil arloesol sydd 芒 photensial gwirioneddol i gyflawni effaith gymdeithasol.鈥
Dywedodd yr Athro James Naismith FRS FRSE FMedSci, sef Is-lywydd (Anghlinigol) yr Academi Gwyddorau Meddygol, 鈥淢ae pontio i faes arweinyddiaeth ymchwil yn un o鈥檙 camau mwyaf heriol mewn gyrfa ymchwil, ond dyma鈥檙 adeg hefyd pan mae creadigrwydd yn aml ar ei gryfaf. Mae Springboard ar hyn o bryd yn buddsoddi mewn pobl wrth i syniadau mentrus ddechrau cael eu datblygu, gan ddarparu rhyddid, hyder a鈥檙 gefnogaeth sydd ei hangen ar ymchwilwyr i fentro ar eu pennau eu hunain a gofyn y cwestiynau mawr. Mae'r projectau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yr effaith y gall y dull hwn ei gael 鈥 gan ddangos sut y gall cefnogaeth gynnar drosi'n fuddion ystyrlon i gleifion, cymunedau a'r system iechyd ehangach.鈥
Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Vallance FMedSci, "Er mwyn mynd i'r afael 芒 chlefydau creulon fel clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson a phoen cronig, ac yn y pen draw achub bywydau, rhaid inni helpu ymchwilwyr i fynd 芒'u gwaith uchelgeisiol ar gam y darganfyddiadau i'r lefel nesaf. Mae'r gefnogaeth hon yn cefnogi ymchwilwyr mewn cyfnod lle gall denu buddsoddiad masnachol fod yn her ac mae'n adeiladu ar fuddsoddiad record y Llywodraeth mewn ymchwil - gan ddatgloi mwy o ddarganfyddiadau sy'n fuddiol i bobl ledled y DU a thu hwnt."
Dywedodd yr Athro James Leiper, Cyfarwyddwr Ymchwil y British Heart Foundation, 鈥淢ae datblygiadau meddygol yfory yn dechrau gyda syniadau arloesol heddiw. Mae rhaglenni megis Springboard yn rhoi鈥檙 gefnogaeth a鈥檙 gred i ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd i gymryd risgiau, bod yn chwilfrydig a gofyn cwestiynau a all newid bywydau. Rydym yn falch o gefnogi鈥檙 gwaith hwn, sydd 芒鈥檙 potensial i ddatguddio mewnwelediadau newydd i glefydau鈥檙 galon a chylchrediad y gwaed, ac agor drysau i iechyd ataliol a thriniaethau gwell, gan gryfhau talent ymchwil yn y Deyrnas Unedig am flynyddoedd i鈥檙 dyfodol.鈥
Dywedodd Ben Murton, Pennaeth Datblygu Gyrfaoedd ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn Wellcome, "Mae angen amser ac adnoddau ar ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa i sefydlu eu hunaniaeth ymchwil, ac elwa o grantiau mwy dros gyfnod hirach, grantiau o鈥檙 math yr ydym wedi ymrwymo i'w darparu trwy ein rhaglen Discovery Research yn Wellcome." Mae Springboard yn rhoi cyfle i lansio gyrfa ymchwil a sefydlu gr诺p ymchwil, gan annog ymchwilwyr i ofyn y cwestiynau mawr a mynd ar drywydd y syniadau mentrus sy'n arwain at y darganfyddiadau arloesol sy'n cael eu galluogi drwy chwilfrydedd. Mae鈥檙 amrywiaeth o feysydd a dulliau a gefnogir gan Springboard yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod cyflenwad iach o arweinwyr ymchwil yn y dyfodol.鈥