Ffarwelio 芒 myfyrwyr nodedig o America
Y myfyrwyr o America yn ymweld 芒 Chastell ConwyMae Prifysol Bangor wedi ffarwelio ag wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA a fu鈥檔 ymweld 芒鈥檙 Brifysgol wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru. Dewiswyd y myfyrwyr trwy gystadleuaeth, o Brifysgolion ar draws UDA, o Seattle i Dde Fflorida i fod yn ran o Sefydliad Haf uchel ei bri.
Penodwyd Prifysgol Bangor eildro i gynnal Sefydliad Haf Fulbright yng Nghymru, ochr yn ochr 芒 Phrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth. Mae鈥檔 un o sefydliadau addysgol mwyaf clodfawr y DU-UDA.
Bu鈥檙 israddedigion o America yn treulio pythefnos yn y Brifysgol, yn astudio treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Tra ym Mangor, buont yn astudio鈥檙 digwyddiadau, y lleoedd a鈥檙 bobl sydd wedi ffurfio Cymru, ynghyd 芒鈥檙 dylanwad allweddol a gafodd diwydiant arnynt i gyd. Buont yn archwilio effaith diwydiannau megis twristiaeth, mwyngloddio llechi ac amaeth ar yr ucheldiroedd, a鈥檙 modd y gall cenedl fach gynnal ei hunaniaeth mewn cyfnod o fyd-gyfannu.
Mwynhau barbeciw gyda'r Is-Gangellor yr Athro John G. HughesRoedd pob rhan o鈥檙 cwrs yn cynnwys gwaith cwrs academaidd, digwyddiadau diwylliannol ac ymweliadau 芒 safleoedd hanesyddol er mwyn cael profiad a dealltwriaeth o wahanol ranbarthau Cymru. Mae鈥檙 holl Brifysgolion dan sylw wedi penodi Cyfarwyddwr Cwrs i arwain eu helfen hwy o鈥檙 rhaglen.
Meddai Tecwyn Vaughan Jones, y Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer cyfraniad Prifysgol Bangor: "Unwaith eto eleni, bu鈥檙 wyth myfyriwr Fulbright yn mynychu'r ysgol haf ym Mhrifysgol Bangor. Bum yn ymweld 芒 nifer o safleoedd diwylliannol a hanesyddol o bwys yng ngogledd Cymru ac y mae gwybodaeth y myfyrwyr am Gymru, ei hanes a鈥檌 phobol wedi cynyddu deg gwaith dros y pythefnos ... rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu鈥檙 myfyrwyr nesaf i ymweld 芒 Bangor yn y dyfodol."
Y myfyrwyr Fulbright efo Cyfarwyddwr Cwrs Bangor, Tecwyn Vaughan JonesMae Comisiwn Fulbright yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol trwy ysgoloriaethau addysgol ers mwy na 60 mlynedd. Menter newydd yw鈥檙 Sefydliadau Haf, sy鈥檔 anelu at gyflwyno myfyrwyr i鈥檙 Deyrnas Unedig, gan ddatblygu ac annog arweinyddiaeth ar yr un pryd.
Llun y myfyrwyr Americanaidd yn ymweld 芒 Chastell Conwy yn ystod Sefydliad Haf Fulbright ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Oriel luniau o'r ymweliad
Darllenwch hanes y myfyrwyr yn eu blogs; a
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2012