Yr Esgob a鈥檌 Lyfr
Cynhelir gwasanaeth cysegru a bendithio arbennig yng Nghadeirlan Bangor brynhawn Sul 6 Chwefror am 3.15 o鈥檙 gloch i ddathlu dychweliad Llyfr Esgobol Bangor.
Y Llyfr Esgobol wedi ei ail rwymoLlawysgrif unigryw o鈥檙 bedwaredd ganrif ar ddeg sy鈥檔 eiddo i鈥檙 Gadeirlan yw鈥檙 Llyfr Esgobol. Caiff ei gadw er diogelwch yn Archif Prifysgol Bangor erbyn hyn. Mae鈥檙 arian a godwyd gan y Gadeirlan a鈥檙 Brifysgol, yn sgil Project Llyfr Esgobol Bangor, a lansiwyd yn 2009 fel rhan o ddathliadau鈥檙 canmlwyddiant a chwarter, wedi ein galluogi i drwsio a digideiddio'r llawysgrif.
Mae鈥檙 Llyfr Esgobol i Fangor wedi dychwelyd o鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a chaiff ei groesawu鈥檔 么l i鈥檙 Gadeirlan yn awr. Caiff ei dderbyn gan Ddeon Bangor, y Tra Pharchedig Alun Hawkins, a鈥檌 fendithio gan Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andrew John.
Cynlluniwyd y gwasanaeth yn arbennig gan Ganolfan Ryngwladol Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig Prifysgol Bangor ar y cyd 芒 Chadeirlan Bangor. Bydd C么r y Gadeirlan, schola o ferched o鈥檙 Brifysgol a chantor proffesiynol yn canu yn ystod y gwasanaeth. Mae llawer o鈥檙 alawon plaengan o Lyfr Esgobol Bangor wedi eu trawsgrifio o鈥檙 newydd ar gyfer y gwasanaeth, a dim ond yn Llyfr Esgobol Bangor y mae dau ohonynt ar gael.
Tudalen addurnedig o'r llawysgrifBydd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys darlleniadau o fywyd Sant Deiniol (m. 584), nawddsant y Gadeirlan, a adeiladwyd ar safle ei fynachlog. Caiff y Llyfr Esgobol ei fendithio gyda geiriau bendith o鈥檙 Canol Oesoedd, a gyfieithwyd ac addaswyd o lawysgrif oedd yn eiddo i Edmund Lacy, Esgob Caerwysg rhwng 1420 a 1455.
Dyma gyfle prin i weld Llyfr Esgobol Bangor yn yr adeilad sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 llyfr ers bron i 700 mlynedd, a chael clywed ei eiriau a鈥檌 gerddoriaeth mewn cyd-destun cyfoes. Croeso i bawb, a bydd paned ar gael ar 么l y gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011