Fatimah Hakami
MBA Marchnata Rhyngwladol, 2025
Graddiais gydag MBA mewn Marchnata Rhyngwladol o Brifysgol Bangor, gan ennill Rhagoriaeth a derbyn gwobr y Traethawd Hir Gorau mewn Marchnata. Fe wnaeth y gydnabyddiaeth hon fy ysgogi'n gryf i barhau i ddatblygu fy ymchwil ac rydw i wrthi'n paratoi fy nhraethawd hir i'w gyhoeddi ar hyn o bryd.
Bu i鈥檙 hyn a ddysgais i ym Mangor fy nhrawsnewid yn llwyr. Fe wnaeth y dulliau addysgu, y staff academaidd cefnogol, a darlithoedd wedi'u recordio, fy helpu i oresgyn yr heriau cychwynnol, yn enwedig gyda Saesneg academaidd. Bu i ddarlithoedd wedi eu recordio gydag isdeitlau, ynghyd 芒 pharodrwydd darlithwyr i roi arweiniad, wneud gwahaniaeth sylweddol i fy hyder a'm perfformiad academaidd.
Y tu hwnt i'r dysgu, roedd y brifysgol gyfan yn eithriadol o groesawgar a chynhwysol. Fel myfyriwr rhyngwladol, roeddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr yr ymwybyddiaeth ddiwylliannol a'r gefnogaeth a ddarparwyd, fel gwasanaethau lles a鈥檙 sylw gofalus a roddwyd i gyfleusterau fel mannau gweddi. Gwnaeth y manylion hyn i mi deimlo'n werthfawr ac yn gyfforddus, ac nid o gwbl fel teimlad o fod dramor.
Un o agweddau mwyaf gwerthfawr fy nhaith academaidd oedd fy ymgysylltiad 芒'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig. Cefais fy nghyflwyno i鈥檙 sefydliad i ddechrau drwy ddarlith, ac fe anogodd y profiad hwn fi i gymryd rhan weithredol, mynychu sesiynau'n rheolaidd, ac yn ddiweddarach i gymryd rhan mewn gweithgareddau mentora. Mae wedi cryfhau fy arweinyddiaeth a'm datblygiad proffesiynol yn sylweddol. Roedd gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor ran bwysig yn fy nhaith hefyd. Drwy鈥檙 gwasanaeth hwn, archwiliais gyfleoedd swyddi a chefais arweiniad gwerthfawr o ran gyrfa, sy鈥檔 parhau i gefnogi fy natblygiad proffesiynol.
Rydw i nawr yn gweithio fel Hyfforddwr Marchnata yn y Gorfforaeth Hyfforddiant Technegol a Galwedigaethol yn Sawdi Arabia. Mae'r dulliau addysgu a brofais ym Mangor wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar fy nulliau fy hun, gan fy ngalluogi i gyflwyno technegau hyfforddi mwy arloesol a diddorol, yn ogystal 芒 chyfrannu at ymchwil a datblygiad academaidd yn fy maes. Oherwydd hyn, rydw i wedi cael dyrchafiad yn y gwaith, ac mae cyfleoedd gyrfa newydd wedi agor i mi. Yn fuan ar 么l diweddaru fy mhroffil LinkedIn, cefais fy ngwahodd i Gynhadledd y Farchnad Lafur Ryngwladol, lle roedd gweinidogion ac arweinwyr byd-eang yn bresenol - cyfle rydw i鈥檔 hynod falch ohono.
Wrth edrych yn 么l, cyrhaeddais Fangor gyda phryderon am fethu, yn enwedig o ran rhwystrau iaith. Fodd bynnag, trwy gefnogaeth y brifysgol, gan gynnwys y rhaglenni Saesneg a chefnogaeth academaidd barhaus, llwyddais y tu hwnt i'm disgwyliadau ac rydw i鈥檔 ddiolchgar iawn i bawb ym Mhrifysgol Bangor am roi'r sylfeini i mi dyfu'n broffesiynol.