成人VR视频

Fy ngwlad:
A picture of the Main Arts building at 成人VR视频

Bangoriad Bach: Ionawr 2026

Newyddlen i Gyn-fyfyrwyr

Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddlen misol ond hoffech ei dderbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch a ni yn alumni@bangor.ac.uk

Mwy o newyddion o'r Brifysgol

Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

"Croeso i鈥檙 e-gylchlythyr i gyn-fyfyrwyr gydag enw newydd, sef Bangoriad Bach!

Efallai bod llawer ohonoch yn cofio ein cylchgrawn papur i gyn-fyfyrwyr, sef 'Bangoriad', ac rydym yn falch o ailgyflwyno'r enw i'n e-gylchlythyr, gydag ychwanegiad "Bach".

Ymddangosodd rhifyn cyntaf 'Bangoriad' ym 1929, ei deitl pryd hynny oedd 'Yr Hen Fangoriad', ac fe'i cyhoeddwyd yn rheolaidd (gyda rhai bylchau, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd) hyd at y 2010au. Newidiwyd yr enw i 'Y Bangoriad' ym 1968 ac yna i 'Bangoriad' o 2001. Mae'r enw'n dal i atseinio gyda llawer o'n cyn-fyfyrwyr ac felly rydym yn hapus i'w ddefnyddio eto!

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y newyddion diweddaraf o鈥檙 brifysgol.

Gan ddymuno鈥檔 dda i chi yn 2026."

Emma Marshall

Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Anrhydeddau Blwyddyn Newydd i gyn-fyfyrwyr

Llongyfarchiadau enfawr i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u cyflawniadau yn Anrhydeddau Flwyddyn Newydd 2026 Brenin Charles III:

Mark Williams PLY (Academi Busnes Gogledd Cymru, 2021, a Derbynnydd Gradd er Anrhydedd, 2024) 鈥 OBE am wasanaethau i Brosthetig

Helen Glencross (Hanes Canoloesol a Hanes Modern Cynnar, 2003) 鈥 MBE am wasanaethau i dreftadaeth yn Guernsey

Sheena Harrison (Hyfforddiant Athrawon, 1990, Polisi Cymdeithasol, 1993, Diploma 脭l-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol Cymhwysol, 1997) 鈥 BEM am wasanaethau i Bobl Ifanc mewn Gofal Maeth

William Johnston (Diwinyddiaeth, 2003) 鈥 MBE am wasanaethau i鈥檙 Gweithlu Rheilffyrdd

John Towers (Hanes, 1991) 鈥 MBE am wasanaethau i Addysg

Katy Woodington (Bioleg M么r, 1998) 鈥 MBE am wasanaethau i鈥檙 Sectorau Elusennol ac Ynni

Hefyd wedi derbyn MBE mae鈥檙 Athro Julia Jones, sy鈥檔 alumna ac Athro mewn Gwyddor Cadwraeth yn ein Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr Athro Jones ei chydnabod yn eang am ei gwaith ar wella effeithiolrwydd cadwraeth natur drwy ddatblygu a chymhwyso dulliau i werthuso effaith polis茂au ac arferion cadwraeth. Cafodd yr Athro Jones ei gwahodd i drafod yr anrhydedd ar BBC Radio Wales a chafodd ei synnu gan neges yn ei llongyfarch wedi'i recordio gan Hamza Yassin, cyn-fyfyriwr iddi, a chyn-enillydd y rhaglen Strictly Come Dancing

Darganfod mwy

Buddsoddiad o 拢1.4m i ddiogelu dyfodol Adeilad Brambell

Fel rhan o brojectau sylweddol sy鈥檔 cael eu hariannu drwy raglen Digarbon Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni mae'r brifysgol wedi sicrhau bron i 拢1.4 miliwn i uwchraddio Adeilad Brambell. 

Cafodd Adeilad Brambell ei gwblhau yn 1971 ac mae鈥檙 adeilad rhestredig Gradd II yn enghraifft nodedig o bensaern茂aeth friwtalaidd. Cafodd ei ddylunio gan gwmni o benseiri o Gymru, Syr Percy Thomas a'i Fab. Mae'r adeilad wedi'i enwi ar 么l Francis W. R. Brambell, Pennaeth Swoleg Prifysgol Bangor o 1930 hyd at ei farwolaeth yn y 1960au. Bydd y buddsoddiad yn talu am osod to newydd ar yr adeilad, uwchraddio systemau mecanyddol a thrydanol a gosod system fodern i reoli鈥檙 adeilad er mwyn lleihau'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon.  

Darganfod mwy

Dod 芒 Chymunedau Ynghyd gyda Chronfa Bangor

Mae project Dod 芒 Chymunedau Ynghyd wedi trawsnewid bywyd myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau. Gyda chefnogaeth Cronfa Bangor - sydd yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr - mae myfyrwyr wedi mwynhau cyfleoedd sy'n cyfoethogi eu hastudiaethau, yn cryfhau cyflogadwyedd, ac yn creu atgofion parhaol. 

Yr hyn sydd wrth wraidd y fenter yw dosbarthiadau meistr proffesiynol mewn sawl maes creadigol megis gwneud ffilmiau, cyfansoddi cerddoriaeth a chyfarwyddo ar gyfer y teledu. Rhoddodd y sesiynau hyn fynediad uniongyrchol i fyfyrwyr at arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnig mewnwelediadau ymhell y tu hwnt i'r hyn a geir yn yr ystafell ddosbarth. 

Darganfod mwy

Achrediad amgueddfa llawn i gasgliadau amgueddfa'r Brifysgol

Mae casgliadau amgueddfa鈥檙 Brifysgol wedi cael achrediad amgueddfa llawn. Y Cynllun Achredu yw safon diwydiant y Deyrnas Unedig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau. Mae cyflawni achrediad yn sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau'n cael eu rheoli i'r safon a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhoi hyder i gyllidwyr, benthycwyr, rhoddwyr a rhanddeiliaid eraill fod gan yr amgueddfa sylfaen gadarn.

Mae casgliadau achrededig y Brifysgol yn cynnwys celf, cerameg, offerynnau cerdd, eitemau sy鈥檔 ymwneud 芒 swoleg a daeareg, pren a phren sydd wedi'i ddifrodi. Ffurfiwyd y casgliadau amgueddfa pwysig hyn ers sefydlu'r Brifysgol ym 1884. Mae hefyd yn werth nodi鈥檙 ffaith mai Prifysgol Bangor yw ceidwad Casgliad Hynafiaethau Cymru (dodrefn, tecstilau, eitemau archaeolegol a hanes cymdeithasol) sydd bellach yn cael ei gadw yn Storiel, sydd hefyd yn amgueddfa achrededig.

Arweinwyr Cadwraeth Ifanc yn ennill gwobrau

Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth 芒'r Conservation Foundation, yn falch iawn o gyhoeddi bod tri myfyriwr MSc sy鈥檔 astudio ym Mangor ar hyn o bryd wedi cael eu dewis i dderbyn Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc. Mae'r gwobrau'n cefnogi ymgeiswyr sydd 芒 hanes o arloesi鈥檔 lleol ym maes cadwraeth. Mae'r gwobrau hyn wedi eu cynllunio i gefnogi projectau ymchwil byr, astudiaethau maes neu brofiad gwaith a chawsant eu sefydlu i alluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu, waeth beth eu hamgylchiadau ariannol.

Meddai Dr James Walmsley, uwch ddarlithydd mewn coedwigaeth, 鈥淵n dilyn proses ymgeisio a dethol fewnol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc 2025-26, a bydd pob un ohonynt yn derbyn bwrsariaeth gwerth 拢1,000, a roddwyd yn garedig gan y Conservation Foundation. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y wobr hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r tri enillydd ac yn rhoi hwb enfawr i'w hyder a'u cymhelliant. Mae'r bartneriaeth newydd hon gyda'r Conservation Foundation yn gydnabyddiaeth ychwanegol o natur drawsnewidiol ein rhaglenni MSc.鈥

Darganfod mwy

Ysgoloriaeth newydd i ddogfennu cyfraniadau meddygol gan Iddewon yng Nghymru

Mae ysgoloriaeth 么l-radd newydd, Ysgoloriaeth Goffa Goodwin, wedi ei lansio i ymchwilio i gyflawniadau ymarferwyr meddygol Iddewig yng Nghymru a鈥檜 cofnodi. Mae'r fenter wedi ei sefydlu ar y cyd gan y brifysgol a Chymdeithas Hanes Iddewig Cymru a chaiff ei hariannu trwy waddol gan deulu Gerald Goodwin, ffoadur o'r Almaen a fu鈥檔 ddeintydd yng nghymoedd y de.

Yn dilyn proses ddethol gystadleuol, dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Laura Henley-Harrison, myfyrwraig ymchwil 么l-radd ym maes y cyfryngau. Bydd yr Athro Nathan Abrams o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau yn goruchwylio'r ymchwil.

Darganfod mwy

Gwneud beth sy'n anodd yn hawdd: Myfyrdodau ar y ffilm "Joy"

Daeth actores Joanna Scanlan, sydd wedi ennill BAFTA ac yn gymrawd er anrhydedd Prifysgol Bangor, i Pontio yn ddiweddar ar gyfer dangosiad arbennig o Joy, y ffilm Netflix sy'n archwilio'r daith o wireddu IVF, a chafodd ei arloesi gan gyn-fyfyriwr Syr Robert Edwards (Swoleg, 1951).
 
Arweiniodd Dr. Nia Jones, Deon Meddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, drafodaeth ddiddorol ar y gwydnwch, y tosturi, a'r ddynoliaeth sy'n ysgogi datblygiadau meddygol - a pham mae adrodd straeon mor bwerus wrth ddod 芒'r straeon hyn yn fyw. Siaradodd Joanna am bwysigrwydd gwyddoniaeth a'r celfyddydau yn y brifysgol, gan ddangos sut mae adrodd straeon a datblygiadau gwyddonol yn dod at ei gilydd i newid bywydau.
 
Dilynodd Dr Jones y digwyddiad gyda flog sydd ar gael i ddarllen yma

Lansio Coleg Treftadaeth Bangor i ysbrydoli pobl ifanc lleol

Lansiwyd Coleg Treftadaeth Bangor yn swyddogol ym mis Tachwedd, gan nodi dechrau project newydd cyffrous sy鈥檔 dathlu hanes cyfoethog y ddinas.

Arweinir y fenter gan Brifysgol Bangor gyda chyllid gan Gyngor Dinas Bangor a chefnogaeth gan bartneriaid allanol, ac mae'n cyfuno dysgu ar-lein ag archwilio go iawn.  Mae'n cynnig cyfle i blant a thrigolion Bangor archwilio hanes, treftadaeth ac amgylchedd Bangor trwy ddysgu gyda ffrindiau, aelodau o'u teulu a'u cymuned ehangach i gryfhau eu hymdeimlad o berthyn a'u cysylltiad 芒'r ddinas. Gall cyfranogwyr ennill credydau a thystysgrifau wrth iddynt symud ymlaen, gyda seremoni raddio ar ddiwedd y flwyddyn ar 么l cwblhau.

Darganfod mwy

Newid yn sut mae鈥檙 Brifysgol yn Ymwneud 芒 Bancio Buddsoddi

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi partneriaeth waith newydd gyda CCLA, sef banc buddsoddi sy'n arbenigo mewn rheoli buddsoddiadau elusennau, sefydliadau crefyddol a'r sector cyhoeddus.

Fel elusen gofrestredig, bydd penderfyniad Prifysgol Bangor i weithio gyda CCLA yn sicrhau bod buddsoddiadau'r brifysgol yn cael eu trin mewn modd cyfrifol gan fanc sy'n deall ein hanghenion ariannol. Mae dull CCLA, sy'n seiliedig ar dreftadaeth a pherchnogaeth gydfuddiannol, yn adlewyrchu cefndir a gwerthoedd Prifysgol Bangor a bydd yn sicrhau bod rhoddion hael ein cyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Bangor a rhoddion gan unigolion yn cael eu trin yn y ffordd orau bosib.

Am ragor o wybodaeth yngl欧n 芒 sut y gallwch gyfrannu at waith y brifysgol, cliciwch yma.

DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR

Diwrnod Cofio'r Holocaust

Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2026

10.30 - 11.30 am

Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG

Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o鈥檙 gymuned leol a鈥檙 cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, T卯m y Gaplaniaeth, a staff y Brifysgol.

鈥楶ontio鈥檙 Cenedlaethau鈥 yw thema Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost 2026, sydd yn alwad i weithredu. Mae Pontio鈥檙 Cenedlaethau yn amlygu r么l hollbwysig y genhedlaeth nesaf wrth gadw鈥檙 cof am yr Holocost yn fyw a鈥檌 drosglwyddo i鈥檙 cenedlaethau nesaf. Mae鈥檔 dangos pa mor bwerus yw deialog rhwng y cenedlaethau, gwrando ar bobl a ddaeth o鈥檔 blaenau a rhannu鈥檙 straeon hyn gyda鈥檙 cenedlaethau a ddaw ar ein holau. Wrth wneud hynny, nid yn unig ein bod yn cadw cof am y pethau hyn yn fyw, rydym hefyd yn eu cysylltu 芒鈥檙 presennol. Mae鈥檙 thema鈥檔 ein gwahodd i anrhydeddu pob bywyd, ac i anrhydeddu鈥檙 rhai nad oes ganddynt deulu i fedru dwyn y gynhysgaeth hon yn ei blaen.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond os gwelwch yn dda. 

Diwrnod Hanes Deucanmlwyddiant Pont Grog y Borth

Mae Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy yn cynnal Diwrnod Hanes i nodi deucanmlwyddiant Pont Grog eiconig y Borth ar ddydd Sadwrn 31 Ionawr 2026.

Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau diddorol a gyflwynir gan academyddion Prifysgol Bangor a haneswyr gwirfoddol o鈥檙 Ymddiriedolaeth. Gyda鈥檌 gilydd, byddant yn archwilio stori ddiddorol y Bont - o鈥檙 cyfnod cynnar cyn 1826 a鈥檙 200 mlynedd ers hynny - gan dynnu sylw at y llwyddiannau peirianneg a鈥檙 heriau a wynebwyd ar hyd y ffordd.

Cofrestrwch o flaen llaw yma

Diwrnod Agored Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Bydd yr Amgueddfa Hanes Natur adeilad Brambell ar agor ar Ddydd Sadwrn, 14 Chwefror, rhwng 11yb a 3yp, gan gynnig digwyddiadau am ddim sy鈥檔 addas i deuluoedd.

Bydd hyn yn gyfle i ymweld ag Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, nad yw fel arfer ar agor i鈥檙 cyhoedd, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd arddangos. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i鈥檙 myfyrwyr a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond gofrestrwch eich diddordeb yma o flaen llaw os gwelwch yn dda. 

Cyngerdd Dathlu David Cousins

Dydd Sadwrn, 28 Chwefror, 7pm

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

Ymunwch 芒 ni am gyngerdd arbennig i anrhydeddu David Cousins, y canwr-gyfansoddwr hynod a sefydlydd y band Strawbs. Bydd y gwesteion arbennig iawn Blue Weaver (Amen Corner, Strawbs, y Bee Gees), Cathryn Craig (the Righteous Brothers) a Brian Willoughby (Strawbs, Mary Hopkin) yn ymuno 芒 Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a Ch么r Siambr Prifysgol Bangor i ddathlu caneuon oesol David a helpodd i ddiffinio roc gwerin Prydeinig.

Bydd holl elw'r cyngerdd yn cefnogi Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins ym Mhrifysgol Bangor.

Tocynnau (拢20 a 拢10 i fyfyrwyr a dan 18) ar gael .

Cyngerdd dathlu pen-blwydd 200 Pont Menai

Ar ddydd Sadwrn 7fed Mawrth bydd Cerddorfa Symffoni a ch么r y Brifysgol  yn ymuno 芒 Chantorion Menai i berfformio cyngerdd yn dathlu pen-blwydd 200 Bont Menai. 

Mae'r ddau gr诺p yn ymarfer ar ochrau gyferbyn y bont ac yn gallu uno gyda diolch i gyflawniad peirianyddol rhyfeddol Thomas Telford. 

Rhaglen:

Cysylltiad: joe.cooper@bangor.ac.uk