³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Edrych ar athrawes mewn dosbarth

Graddau Addysgu Israddedig

Tyrd i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) a chamu yn hyderus i mewn i dy yrfa addysgu drwy astudio Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Bangor. Mi fyddi’n cael dy gyfarparu â phrofiad o'r byd go iawn trwy bartneriaethau cryf ag ysgolion, sgiliau addysgu ymarferol, a gwybodaeth sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n llunio addysg heddiw, ac mi fyddi’n graddio'n barod i gamu i'r ystafell ddosbarth gyda hyder a phwrpas.

Ar y dudalen hon:
Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Addysgu

Lleoedd Ar Gael Ar Gyfer Medi 2026!

Barod i ymuno â ni yn yr Hydref? Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau yn y maes pwnc yma yn cychwyn ym Medi 2026.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Nawr Am Gwrs Clirio Disgwyl Am Ganlyniadau? Cofresrwch Ddiddordeb Mewn Clirio

Darganfyddwch y cwrs Addysgu i chi

Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (cyfrwng Cymraeg) - BA (Anrh)
Dewch yn athro cynradd cyfrwng Cymraeg. Mae’r cwrs BA (Anrh.) gyda Statws Athro Cymwysedig yn eich paratoi i ddysgu plant 3-11 oed yn Gymraeg, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n rhoi llawer o foddhad, a hynny yng Nghymru.
Cod UCAS
X130
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (cyfrwng Saesneg) - BA (Anrh)
Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig yn eich hyfforddi i fod yn athro cynradd a’ch arfogi i addysgu yng Nghymru, yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Cod UCAS
X131
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Athrawes Ysgol Gynradd yn rhoi gwersi i ddisgyblion

Cyrsiau TAR Edrych am gwrs Ôl-raddedig?

Yn ogystal â’n rhaglenni israddedig, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig yn y maes addysgu. Os oes gennych radd eisoes, cymerwch gip olwg ar ein rhaglenni TAR – gennym ddewis eang o gyrsiau Addysg Uwchradd neu Addysg Gynradd.

Ymuna â'n cymuned ar Instagram

Dysgu ym Mhrifysgol Bangor

Dau fyfyriwr yn sgwrsio wrth fwrdd gyda chyfrifiadur
Lois Elan Jones gyda'i thystysgrif graddio

Stori Lois Elan Jones Ar daith i Batagonia...

Cefais dair mlynedd gwerthfawr ym Mangor, gyda atgofion melys iawn o'r cyfnod. Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio fel athrawes lanw ar draws ysgolion Gwynedd, ac yna yn teithio i Batagonia mis Mawrth i weithio fel athrawes yn Y Gaiman am 9 mis. Mae'r cysylltiadau proffesiynol rwyf wedi eu creu ar y cwrs wedi bod yn werthfawr iawn i gael gwaith llanw yn y sir, ac mae'r holl wybodaeth a strategaethau dysgais ar y cwrs yn dod yn ddefnyddiol pob dydd...

Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysgu

Mae'r radd BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei chydnabod ledled Cymru a Lloegr, ac yn aml mae'n gymhwyster trosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd i gael mynediad i'r proffesiwn addysgu.  Mae'n eich paratoi'n llawn ar gyfer gofynion addysgu yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal â swyddogaethau eraill sy'n cefnogi plant (cyn-ysgol) a swyddi'n ymwneud â chwricwlwm (cynllunio cwricwlwm).

Mae yna opsiynau eraill ar gael i chi hefyd yn dilyn eich gradd, gan gynnwys ymchwil addysgol neu fynd ymlaen i feysydd addysgol mwy arbenigol.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Addysgu. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Addysgu llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Addysgu ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Addysgu ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Ymchwil o fewn Addysgu

Byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.

Mae'r tîm hyfforddi athrawon ym Mangor yn ymwneud ag ystod eang o ymchwil sy'n cyfrannu at fodiwlau ar y cwrs, gan gynnwys ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, mentora, Anghenion Addysgol Arbennig ac arweinyddiaeth ysgol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.