³ÉÈËVRÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Ymchwil mewn Ffarmacoleg

Ffarmacoleg

Os ydych erioed wedi meddwl sut mae cyffur yn targedu un gell, neu beth sydd ei angen i ddod â thriniaeth newydd o'r labordy i'r claf, ffarmacoleg ym Mangor yw’r lle i chi ddod o hyd i'r atebion. Mae hon yn radd i bobl chwilfrydig, pobl uchelgeisiol a phobl sy'n cael eu hysgogi gan wyddoniaeth - ac yma, byddwch yn ei hastudio ochr yn ochr ag ymchwilwyr sy'n llunio dyfodol gwyddor cyffuriau yn weithredol. Mae eich gyrfa mewn newid meddygaeth yn dechrau yn awr.

Ar y dudalen hon:
Cewch eich ysbrydoli gan ein dewisiadau cwrs

Ffarmacoleg yw'r astudiaeth wyddonol o gyffuriau - sut maent yn cael eu datblygu, sut maent yn rhyngweithio â systemau biolegol, pa effeithiau maent yn eu cynhyrchu, a sut y gellir eu defnyddio i drin clefydau. Mae'n ddisgyblaeth sydd ar groesffordd cemeg, bioleg a meddygaeth, ac mae'n sail i bob triniaeth newydd a gynigir i gleifion unrhyw le yn y byd.

Ym Mangor, ni fyddwch yn dysgu am ffarmacoleg yn unig - byddwch yn ymwneud â ffarmacoleg. Cewch eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n cyfrannu'n weithredol at y maes, byddwch yn datblygu'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau labordy ymarferol i roi eich stamp ar wyddoniaeth.

Mae gradd ffarmacoleg yn agor drysau i amrywiaeth hynod o yrfaoedd. Mae llawer o raddedigion yn dechrau mewn ymchwil labordy - yn y byd academaidd, y diwydiant fferyllol neu fiodechnoleg - ond mae'r posibiliadau'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r labordy. Mae ffarmacolegwyr yn gweithio ym meysydd cyfathrebu gwyddoniaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd, materion rheoleiddio, polisi iechyd, ymchwil clinigol ac asesu technoleg iechyd y GIG. Mae'n gymhwyster sy'n eich tywys lle bynnag y mae eich chwilfrydedd yn eich arwain.

Bydd eich astudiaethau'n canolbwyntio ar weithred cyffuriau ar bob lefel - o sut mae moleciwl yn rhyngweithio â derbynnydd i sut mae cyffuriau'n symud trwy'r corff (ffarmacocineteg), sut maent yn cynhyrchu eu heffeithiau (ffarmacodynameg), a sut mae sylweddau gwenwynig yn effeithio ar systemau byw (tocsicoleg). Byddwch yn adeiladu sylfaen wyddonol gref wrth ddatblygu'r sgiliau ymarferol i gymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau ymchwil go iawn.

Mae'r BSc Ffarmacoleg yn rhaglen tair blynedd sy'n meithrin eich arbenigedd gwyddonol trwy gyfuniad o ddosbarthiadau labordy, darlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o arholiadau, gwaith cwrs a gwerthusiadau ymarferol — pob un wedi ei gynllunio i sicrhau eich bod yn gadael Bangor gyda'r wybodaeth a'r profiad ymarferol y mae cyflogwyr a rhaglenni ôl-radd yn chwilio amdanynt.

Ffarmacoleg - BSc (Anrh)
Bydd y cwrs hwn mewn Ffarmacoleg yn rhoi cyfle i chi ddilyn gyrfa arloesol a chyffrous yn profi cyffuriau newydd neu’n cynnal treialon clinigol.
Cod UCAS
B200
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ffarmacoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Dewch i ennill sgiliau hanfodol mewn gwyddoniaeth, bioleg a chemeg gyda'r cwrs sylfaen hwn, a fydd yn eich paratoi ar gyfer gwneud BSc (Anrh.) Ffarmacoleg ym Mangor.
Cod UCAS
B20F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Mae'r darlithwyr yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbenigwyr gyda chefndir rhyfeddol ac angerdd am eu pynciau unigol. Mae'r cyfleusterau ym mhrifysgol Bangor ymhlith y gorau a bu'n fraint cael mynediad i'r rhain a gweithio o fewn Canolfan Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.

 

Rwyf wedi mwynhau bod ym Mangor yn fawr iawn ac yn caru awyrgylch y brifysgol. Mae'n brifysgol fach felly rydych chi'n dod i adnabod eich darlithwyr a'ch tiwtor personol ac yn y pen draw rydych chi'n mwynhau mynd i ddarlithoedd a chael yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Nid dim ond myfyriwr coll arall ydych chi - ond rydych chi'n aelod gwerthfawr ac wedi'ch gwthio hyd eithaf eich gallu gyda chefnogaeth anhygoel.

Georgia Marston,  Myfyriwr ffarmacoleg

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ffarmacoleg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ffarmacoleg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ffarmacoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?