成人VR视频

Fy ngwlad:
Yn dangos desg gan gynnwys taflen gyfrifeg, sbectol, cyfrifiannell a beiro.

Graddau Cyfrifeg, Bancio a Chyllid 脭l-raddedig Trwy Ddysgu

Darganfyddwch ein Pynciau 脭l-raddedig Trwy Ddysgu

Myfyrwyr yn cerdded tuag at Hen Goleg

YSGOL FUSNES ALBERT GUBAY YN LLWYDDIANNUS YN AROLWG PTES 2025

Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay wedi sicrhau canlyniadau rhagorol yn Arolwg Profiad 脭l-raddedig a Addysgir (PTES) 2025, gan atgyfnerthu ei henw da fel canolfan flaenllaw ar gyfer addysg 么l-raddedig. Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn graddio o鈥檙 Ysgol, gan elwa ar ei hymrwymiad i ragoriaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr.

Pam Astudio Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Rydym yn falch iawn o'r amgylchedd addysgu a dysgu yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn adnoddau dysgu arloesol, cefnogaeth dechnolegol, gofal bugeiliol a phrofiad myfyrwyr. Mae ein perfformiad cryf ar y llwyfan byd-eang yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu profiad heriol a thrwyadl i'n holl fyfyrwyr. Mae ein rhaglenni 么l-radd Cyfrifeg, Bancio a Chyllid yn darparu gwybodaeth werthfawr iawn a sgiliau trosglwyddadwy sy'n eich paratoi chi at amrywiaeth eang o yrfaoedd posib. Cewch brofiad o amrywiaeth o adnoddau a thechnegau cyfrifyddu a chyllid ynghyd 芒 sylfaen academaidd drylwyr.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o brojectau amgen dros yr haf fel rhan o raglenni hyfforddedig, sy'n rhoi cyfle i chi deilwra eich gwaith traethawd hir tuag at eich nodau gyrfa penodol. Gallwch wneud defnydd o'r sgiliau a ddatblygir ar y rhaglenni hyn ar unwaith wrth ailafael yn eich gyrf.

Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)

Mae llawer o鈥檔 rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw鈥檙 cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna鈥檔 cael hyfforddiant arbenigol i鈥檞 paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1. Bydd y dysgu鈥檔 cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd 芒 dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.

Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.

Fodd bynnag, fel dilyniant rhesymegol o'r hyfforddiant, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gofrestru gyda a chofrestru ar gyfer yr arholiad proffesiynol ar 么l graddio.

Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar 么l i chi gyrraedd Bangor. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag owain.apgwilym@bangor.ac.uk.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i swyddi yn y sectorau preifat a chyhoeddus, mewn marchnadoedd a banciau ariannol rhyngwladol neu mewn busnesau lleol a rhyngwladol. Mae ein graddedigion yn gadael Bangor wedi eu paratoi'n drylwyr at gyfleoedd cyflogaeth difyr a gwerth chweil yn y dyfodol.

Mae ein rhaglenni 么l-radd hyfforddedig mewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid yn cael eu cydnabod gan sefydliadau uchel eu parch gan gynnwys Sefydliad y Bancwyr Siartredig (CBI) a'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Er enghraifft, mae ein MBA Banciwr Siartredig yn gymhwyster byd-eang unigryw sy'n cyfuno trylwyredd academaidd 芒 chydnabyddiaeth broffesiynol. Rydym hefyd yn cynnig llwybrau i baratoi graddedigion at yr arholiadau Dadansoddwr Ariannol Siartredig (CFA) a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae'r cysylltiadau hyn 芒 byd cyllid proffesiynol yn cynnwys manteision enfawr a fydd yn caniat谩u ichi gamu ymlaen yn eich gyrfa. Mae ein rhaglenni yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr at ddisgwyliadau cyflogwyr yn y sector cyfrifeg a bancio byd-eang a marchnadoedd ariannol rhyngwladol.

Ein Hymchwil o fewn Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Mae Bangor wedi datblygu enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil Cyfrifeg, Bancio a Chyllid dros sawl degawd. Mae gan staff gysylltiadau gweithredol 芒 sefydliadau rhyngwladol fel Banc Canolog Ewrop (ECB) a'r Bank for International Settlements (BIS). Ymhlith y them芒u ymchwil cyfredol a ystyrir gan ein staff mae Undeb Bancio Ewrop, polisi cyfradd llog negyddol, iawndal gweithredol, moeseg ariannol a statws credyd. Mae myfyrwyr Cyfrifeg yn gallu manteisio ar ein hacademyddion a'n hymchwilwyr sy'n arbenigwyr mewn cyfrifeg ariannol a rheoli, trethiant, archwilio a dadansoddi ariannol. Mae staff academaidd yn gwneud gwaith ymchwil ar lefel uchel i sefydliadau allanol yn gyson, fel y Comisiwn Ewropeaidd, Banc y Byd a Thrysorlys y DU. Mae dysgu dan arweiniad ymchwil yn ffynnu yn yr ysgol ac mae wedi arwain at gynllunio a darparu rhaglenni arloesol ym maes Cyfrifeg, Bancio a Chyllid.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.