Mae CAL:ON Cymru yn datblygu pecyn cynhwysfawr o adnoddau i gefnogi addysgu llythrennedd mewn ysgolion. Mae鈥檙 adnoddau鈥檔 cynnwys rhaglenni dosbarth cyfan ac ymyriadau ar gyfer dysgwyr o鈥檙 dosbarth derbynhyd at oedran uwchradd. Mae CAL:ON Cymru hefyd yn datblygu modiwlau Dysgu Proffesiynol a chanllawiau llythrennedd ar gyfer addysgwyr, ynghyd ag asesiadau i fonitro lefelau llythrennedd a chynnydd dysgwyr. O fisMedi 2027 ymlaen, bydd yr adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru drwy Hwb. Fodd bynnag, gall ysgolion gael mynediad cynnar atynt drwy gymryd rhan yn y rhaglen yn ystod 2026.
Mae CAL:ON Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer llythrennedd sydd wedi鈥檌 lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella deilliannau llythrennedd ledled Cymru.
Mae popeth y mae CAL:ON Cymru yn ei gynhyrchu wedi鈥檌 seilio ar dystiolaeth ac ar egwyddorion Gwyddoniaeth Darllen. Yn ystod y cyfnod mynediad cynnar hwn, bydd y ganolfan yn gweithio gyda data ac adborth ganysgolion, gan alluogi ei th卯m o ymchwilwyr ac athrawon i fireinio鈥檙 adnoddau cyn eu cyflwyno鈥檔 genedlaethol.
Mae holl ddeunyddiau CAL:ON Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac wedi鈥檜 datblygu鈥檔 ddwyieithog. Mae hynny鈥檔 sicrhau eu bod wedi鈥檜 gwreiddio yn iaith a diwylliant Cymru.
I gael y cyfle i ddefnyddio鈥檙 adnoddau llythrennedd hyn o fis Medi 2026 ymlaen ac i helpu i lywio datblygiad y pecyn cymorth cenedlaethol hwn, gwahoddir eich ysgol i lenwi鈥檙 ffurflen sydd wedi鈥檌 chysylltu isod/yma. Nodwch ar y ffurflen pa brosiect yr hoffai鈥檆h ysgol gymryd rhan ynddo. Gallwch ddewis cymryd rhan ym mhob rhaglen neu ddewis un yn unig, yn 么l eich dewis. Atebwch cyn 26ain Mehefin os ydych chi eisiau caelmynediad at adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd a 10fed Gorffennaf os ydych chi eisiau cael mynediad at adnoddau ar gyfer yr ysgolion gynradd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau CAL:ON Cymru, ewch i鈥檙 wefan. Ar gyfer ymholiadau penodol ynghylch cymryd rhan, cysylltwch 芒 calonysgol@bangor.ac.uk
Ewch i wefan CAL:ON Cymru.