Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr wedi dyfarnu grantiau o Gronfa Bangor i 15 o brojectau a mentrau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ym mlwyddyn academaidd 2025–26. Nod y mentrau hyn yw ychwanegu gwerth at y profiad myfyrwyr, gan adlewyrchu creadigrwydd, uchelgais a chydweithrediad ar draws y Brifysgol.
Mae Cronfa Bangor yn cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a godir drwy ymgyrch Telethon ddwywaith y flwyddyn. Ei phrif bwrpas yw cefnogi'r Brifysgol i ddarparu elfen o ychwanegolrwydd i’r profiad myfyrwyr. Eleni, adolygodd Pwyllgor Dyrannu Cronfa Bangor fwy nag 20 o geisiadau cyn dewis projectau sy'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau strategol.
Mae’r projectau a gefnogir yn cynnwys y canlynol:
- Cyllido interniaeth i ddigideiddio safleoedd maes yn deithiau rhithiol trochol ymhlith y myfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar lesiant ac ymarfer tosturiol i gryfhau empathi a gofal ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol
- Croesi ffiniau iaith drwy addysg drochol i helpu myfyrwyr di-Gymraeg i brofi’r Gymraeg drwy Neuaddau Preswyl JMJ
- Gwella perfformiad myfyrwyr a’r profiad o’r theatr trwy arddangosiad theatr a chynhyrchiad dan arweiniad myfyrwyr
- Bwrsariaethau teithio i alluogi myfyrwyr i ymweld ag Archif Ddarlledu Cymru ac ymgysylltu â threftadaeth cyfryngau Cymru
- Bwrsariaethau teithio i alluogi myfyrwyr meddygaeth i gymryd rhan a chyflwyno ymchwil mewn cynhadledd gofal iechyd cenedlaethol — y Gynhadledd Gofal Cychwynnol, Llundain
- Sesiynau llesiant cynhwysol i gefnogi Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno gweithdai Addysg Rhyw a Chydberthynas
- Bwrsariaethau teithio i gefnogi taith maes myfyrwyr iechyd deintyddol i’r Sioe Fasnach Deintyddiaeth yn Birmingham
- Bwrsariaethau teithio i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol cerddoriaeth a’r celfyddydau i archwilio a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol yng Nghymru
- Cefnogi cynrychiolwyr ysgolion gyda bwrsariaethau teithio ar gyfer eu diwrnod cwrdd i ffwrdd yn Sw Mynydd Cymru, gan feithrin cynrychiolaeth ac ymgysylltiad cryfach ymhlith myfyrwyr
- Galluogi cyfranogiad myfyrwyr drwy weithgareddau cyflogadwyedd megis mynychu Diwrnod Cadwraeth yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, a fodlediad gan gyn-fyfyrwyr i ddyfnhau nodweddion graddedigion yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
- Cefnogi menter yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau i alluogi gwaith maes, gwneud ffilmiau, ymgysylltiad â'r cyhoedd a dathliad dan arweiniad myfyrwyr yn nigwyddiad nodi deucanmlwyddiant Pont y Borth, sef pont grog Telford.
- Darparu pecynnau llesiant celfyddyd greadigol i gynorthwyo Undeb y Myfyrwyr wrth iddynt gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr yn ystod yr ymgyrch cymorth astudio
- Bwrsariaethau teithio i gefnogi myfyrwyr fferylliaeth i fynychu Symposiwm Cymdeithas Frenhinol Cemeg yn Llundain
- Bwrsariaethau teithio i gefnogi myfyrwyr coedwigaeth i gymryd rhan yng nghynhadledd genedlaethol Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig
Dywedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu Cronfa Bangor:
Diolch i haelioni ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, mae Cronfa Bangor yn parhau i gyfoethogi profiad myfyrwyr mewn ffyrdd trawsnewidiol a pharhaol. Mae eich cefnogaeth yn ei gwneud hi'n bosibl i fyfyrwyr ddatgloi eu llawn botensial, cydweithio'n hyderus, ac arwain gyda phwrpas. Edrychwn ymlaen at weld y projectau hyn yn dod yn fyw, a gobeithiwn eich bod chi'n teimlo'n ysbrydoledig gan wybod bod eich haelioni wrth wraidd y cyfan.