³ÉÈËVRÊÓƵ

Fy ngwlad:

Cofrestru Ar-lein

Cofrestru a Chofrestru Ar-lein

Rhaid i bob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr sy'n ymweld ac aelodau o staff y Brifysgol sy'n astudio am wobr) gofrestru'n ganolog yn ffurfiol gydag adran Gweinyddu Myfyrwyr y Brifysgol. Mae hyn yn digwydd ar ddechrau eich cwrs ac wedi hynny, bob mis Medi, bydd angen i chi gadarnhau presenoldeb parhaus. Mae'n ofynnol i'r Brifysgol gynnal y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl fyfyrwyr a monitro presenoldeb ac ymgysylltiad.

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn gwybod am eich ymrwymiadau ariannol a’ch bod wedi gwneud y trefniadau angenrheidiol i dalu cyn cofrestru. Codir taliadau am gofrestru’n hwyr a thalu’n hwyr yn unol ag amserlen ffioedd y brifysgol, sydd mewn grym ar gyfer y flwyddyn academaidd.ÌýMae manylion llawn am y ffioedd a godir a pholisïau ar ad-dalu i’w gweld ar fewnrwyd Prifysgol BangorÌýyma.

Yn ystod y prosesau cofrestru ac ailgofrestru ar-lein bydd gofyn hefyd ichi wirio a llenwi rhywfaint o ddata personol ac ystadegol. Byddwn yn anfon peth o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Dyma eich cofnod HESA, sy’n cynnwys manylion am eich grŵp ethnig ac am unrhyw anableddau sydd gennych. Bydd HESA yn anfon eich cofnod, neu rannau ohono, i sefydliadau sydd ei angen er mwyn cyflawni eu dyletswyddau statudol sy’n gysylltiedig â chyllido addysg uwch. Am ragor o fanylion, darllenwchÌýHysbysiad HESA ar Gasglu Manylion gan Fyfyrwyr.

Tua diwedd eich astudiaethau, byddwn yn anfon eich manylion cyswllt i’r sefydliad (cwmni marchnata, fel rheol) y rhoddwyd contract iddo gynnal Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Bydd y sefydliad hwnnw’n defnyddio eich manylion i’r diben hwnnw’n unig, ac yn eu dileu wedyn. Tua chwe mis ar ôl i chi raddio, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi lenwi arolwg HESA ‘Cyrchfan Rhai’n Gadael AU’. Ni fyddwn yn rhoi eich manylion cyswllt i HESA. Efallai y cewch eich cynnwys mewn sampl o ymadawyr sy’n cael eu harolygu unwaith eto, rai blynyddoedd ar ôl iddynt raddio. Os felly, byddwn yn trosglwyddo eich manylion cyswllt i’r sefydliad sydd wedi cael y contract i gynnal yr arolwg hwnnw. Bydd y sefydliad hwnnw’n defnyddio eich manylion i’r diben hwnnw’n unig, ac yn eu dileu wedyn. (Os nad ydych am gymryd rhan yn yr arolygon hyn,Ìýrhowch wybod inni).

Prawf Adnabyddiaeth

Mae dau gam i’w cwblhau cyn i chi gael eich cofrestru’n ffurfiol fel Myfyriwr Prifysgol Bangor. Y cam cyntaf yw’r broses gofrestru ar-lein ac yna ar gyfer cam dau, rhaid i chi ddarparu prawf o’ch hunaniaeth i’r Brifysgol. Ar ôl cwblhau’r ddau gam hyn yn llwyddiannus byddwch yn derbyn eich cerdyn Adnabod Myfyriwr ac yn cael eich cofrestru’n ffurfiol. Peidiwch ag anfon y dogfennau hyn atom, ond cofiwch eu paratoiÌý i'w gwirio yn ystod y sesiynau gwirio ID.

Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol ddarparu’r dogfennau a restrir yn Adran A. Bydd angen i fyfyrwyr o Brydain a’r UE ddarparu naill ai un ddogfen o Adran B neu ddwy ddogfen o Adran C. Sylwer bod angen i fyfyrwyr nad yw eu cyrsiau wedi’u lleoli ym Mangor (e.e. dysgwyr o bell a rhai myfyrwyr rhan-amser) uwchlwytho copïau o’r dogfennau perthnasol fel rhan o’r broses gofrestru ar-lein.

  • Sylwch nad oes angen i’r myfyrwyr hynny sy’n parhau ar eu cwrs cyfredol wneud apwyntiad i gael gwiriad ID.
  • Os ydych wedi graddio ym Mangor, a’ch bod yn cychwyn ar gwrs newydd ym mis Medi, mae angen i chi gwblhau gwiriad ID.

Bydd digwyddiadau gwirio ID ar gyfer y myfyrwyr llawn amser a fydd yn dechrau eu astudiaethau ym mis Medi 2024 yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

Lleoliad:Ìý Neuadd Powis

  • Dydd Iau 19 Medi – 12:00 - 18:00
  • Dydd Gwener 20 Medi – 10:00 - 18:00
  • Dydd Sadwrn a Dydd Sul 21 a 22 Medi – 13:00 - 18:00
  • Dydd Llun 23 Medi – 12:00 - 18:00
  • Dydd Mercher – Dydd Gwener, 24 - 27 Medi – 10:00 - 16:00 dyddiol.

Lleoliad:Ìý Prif Lyfrgell y Celfyddydau

  • Dydd Llun – Dydd Gwener (30 Medi – 4 Hydref)
  • Dydd Llun – Dydd Gwener (7 – 11 Hydref)
  • Dydd Llun- Dydd Gwener (14 - 18 Hydref)
  • I gyd o 10:00 - 16:00 bob dydd

Dogfennau derbyniol

Mae’n rhaid i chi ddarparu’r canlynol:

  • Pasbort
  • Vignette Clirio Mynediad a Thrwydded Breswyl Fiometrig
  • Fisa Ymweld Myfyrwyr (i fyfyrwyr ar gyrsiau 6 mis neu lai e.e. Myfyrwyr Cyfnewid)

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol rhan-amser/rhyngwladol dysgu-o-bell

  • Pasbort new Cerdyn Adnabod Genedlaethol
  • Mae’n rhaid i chi ddarparu un o’r canlynol neu ddwy ddogfen o Adran C isod:
  • ±Ê²¹²õ²ú´Ç°ù³ÙÌý
  • Trwydded Yrru’r DU gyda llun arni (yn cynnwys un dros-dro)

Rhaid i UN o’r dogfennau hyn gynnwys eich enw a chyfeiriad llawn (a gaiff ei wirio yn erbyn eich cyfeiriad sydd ar system cofnodion myfyrwyr y brifysgol)

  • Cerdyn Credyd neu Gerdyn Debyd Cyfredol
  • Trwydded Yrru Lawn (heb lun)
  • Tystysgrif Geni/Mabwysiadu Wreiddiol
  • Tystysgrif Priodas / Partneriaeth Sifil
  • Cerdyn Yswiriant Gwladol
  • Cerdyn Adnabod Lluoedd Ei Mawrhydi

Rhaid i’r canlynol fod wedi’u darparu o fewn y 12 mis diwethaf

  • Datganiad Cerdyn Credyd
  • Bil Gwasanaeth
  • Datganiad Morgais
  • Datganiad Treth Cyngor
  • Dogfennau Swyddfa Gartref
  • Dogfennau Cyllid y Wlad
  • Datganiad Budd-dâl (e.e. Budd-dâl Plant, pensiwn etc)
  • Gohebiaeth gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu Awdurdod Lleol
  • Cofrestrfa Academaidd

Myfyrwyr sy'n Dychwelyd

Rhaid iÌýHOLL fyfyrwyr sy’n dychwelydÌýailgofrestru ar-lein bob blwyddyn, at ddibenion gweinyddol yn unig, ac ni fwriedir ei ddefnyddio ar gyfer newid opsiynau academaidd (e.e. dewis neu newid modiwlau neu gyrsiau, ac ati). GwelerÌýYmholiadau ynglÅ·n â ChyrsiauÌýi gael arweiniad ar faterion academaidd. Pan mae eich canlyniadau wedi ei cadarnhau ar gyfer eich blwyddyn academaidd flaenorol, byddwch yn gallu cwblhau ailgofrestru ar-lein (bydd y ddolen i'r dudalen honno yn weladwy i chi yn y neges dilyniant a gewch ar FyBangor). Os nad ydych eisoes wedi gwneud trefniadau i dalu'ch ffioedd dysgu, neu ffioedd eraill, a / neu os nad ydych wedi bodloni gofynion academaidd a / neu weinyddol eraill, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i'r system a dylech gysylltu â cofrestru@bangor.ac.uk am gyngor.

Os oes angen i chi drafod rhywbeth cyn cadarnhau eich statws cofrestru, yna gwiriwch ein hadran Cwestiynau Cyffredin yn gyntaf. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb yr ydych yn chwilio amdano yno, yna cysylltwch â cofrestru@bangor.ac.uk cyn gynted â phosibl i egluro'ch sefyllfa. Os nad ydych wedi ailgofrestru erbyn y dyddiadau cau a hysbysebir (gweler uchod), yna byddwch yn atebol am dâl ‘cofrestru hwyr’.

Cofiwch ddyfynnu'ch rhif adnabod myfyriwr (500 ...) ym mhob gohebiaeth.

Myfyrwyr Newydd

Mae holl fyfyrwyr newydd Prifysgol Bangor (myfyrwyr sydd yn cychwyn ar raglen astudio newydd,Ìýgan gynnwys y rhai sydd wedi graddio o Fangor a sydd bellach yn cychwyn ar raglen newydd)Ìýnawr yn cofrestru ar-lein. Bydd eich e-bost cofrestru yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol i greu eich cyfrinair a fydd wedyn yn cael ei gysylltu â'chÌýcyfrif cyfrifiadur ac e-bost prifysgol.ÌýDefnyddir eich cyfrif e-bost prifysgol i gysylltu â chi ynglÅ·n â materion academaidd a gweinyddol ac un o amodau’ch cofrestriad yw eich bod yn edrych ar y cyfrif hwn o leiaf unwaith yr wythnos.

Bydd y system yn agor i chi o ganol Awst 2022, a dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd ar gael (fel arfer diwedd trydydd wythnos o'r semester), felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru'n brydlon. Os ydych chi'n barod, yna ni ddylai gymryd yn hir i'w gwblhau.ÌýSylwch na fydd eich cofrestriad yn y Brifysgol yn cael ei gwblhau nes eich bod wedi cwblhau'r broses ar-lein a'ch bod hefyd wedi darparuÌýprawf adnabod yn un o'r sesiynau gwirio ID naill ai cyn yr Wythnos Groeso neu yn ystod yr Wythnos Groeso.

Pan 'rydych wedi cwblhau y ddau ran ar gyfer cofrestru, bydd eich cerdynÌýadnabod myfyriwr ar gael i chi ei gasglu o’r sesiwn gwirio ID (gan dybio eich bod wedi cwblhau’r broses gofrestru ar-lein ac wedi uwchlwytho llun cyn mynychu’r sesiwn gwirio ID).

Os ydych yn aelod o staff y Brifysgol byddwch wedi cael cyfrif myfyriwr ar wahân a byddwch angen gwneud y cyfrif yn weithredol drwy ddilyn y cyfarwyddiadau.

Cwestiynau a ofynnir yn aml

RHAID i’r holl fyfyrwyr sy’n parhau ar eu cyrsiau ail-gadarnhau eu presenoldeb ar-lein ym mis Medi bob blwyddyn.Ìý

Mae hyn at ddibenion gweinyddol; ni ddylech ei ddefnyddio ar gyfer dewis na newid opsiynau academaidd (e.e. dewis neu newid modiwlau neu gyrsiau, etc). Os ydych am arweiniad ar faterion academaidd, darllenwchÌýadran y CCAÌýar ‘YMHOLIADAU YNGLŶN Â CHYRSIAU’.Ìý

Mae pob myfyriwr yn cofrestru ar gyfer eu hastudiaethau ac yn ail-gadarnhau presenoldeb ar-lein. Edrychwch yn eich cyfrif e-bost prifysgol yn rheolaidd i gael gwybodaeth.

Fel rheol gallwch ail-gofrestru ar-lein yn dilyn cyfnod o ohirio dros dro. Byddwch yn derbyn e-bost gyda'r cyfarwyddiadau tua pythefnos cyn y bydd angen i chi ail-gofrestru, cyhyd a'ch bod wedi cwblhau cais i ailddechrau eich astudiaethau yng Nghanolfan Ceisiadau

ÌýÌý

Rhaid i’r holl fyfyrwyr gofrestru’n ffurfiol yn ganolog gyda Chofrestr Academaidd y Brifysgol ar ddechrau eu cwrs, ac o bryd i'w gilydd bydd rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn dal i ddilyn y cwrs. Mae’n ofynnol i’r Brifysgol gadw'r wybodaeth ddiweddaraf am fyfyrwyr, a monitro eu presenoldeb.

Mae holl fyfyrwyr newydd Prifysgol Bangor nawr yn cofrestru ar-lein. Bydd eichÌý e-bost cofrestru yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol i greu eich cyfrinair prifysgol a fydd yn cysylltu â'ch cyfrif cyfrifiadur ac e-bost prifysgol. Defnyddir eich cyfrif e-bost prifysgol i gysylltu â chi ynglÅ·n â materion academaidd a gweinyddol ac un o amodau’ch cofrestriad yw eich bod yn edrych ar y cyfrif hwn o leiaf unwaith yr wythnos.

Bydd y system yn agor i chi oddeutu tair wythnos cyn dechrau'ch cwrs, a bydd ar gael am gyfnod penodedig yn unig (tan ddiwedd wythnos tri o semester un), felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru'n brydlon. Ni ddylai gymryd yn hir i'w lenwi os ydych chi wedi paratoi.

Mae cadarnhau presenoldeb ar gyfer yr HOLL fyfyrwyr sy’n dychwelyd i ddilyn eu cyrsiau, ac at ddibenion gweinyddol yn unig. Ni ddylech ei ddefnyddio i newid opsiynau academaidd (e.e. dewis neu newid modiwlau neu gyrsiau, etc.). Am arweiniad ar faterion academaidd, darllenwchÌýadran y Cwestiynau a ofynnir yn amlÌýar ‘YMHOLIADAU YNGLŶN Â CHYRSIAU’.Ìý

Gan y gall cymaint o wahanol bethau achosi problemau technegol, nid yw’n bosibl ateb yr holl ymholiadau technegol yn ymwneud â chyfrifiaduron preifat a rhwydweithiau cartref. Weithiau mae clirio storfa eich porwr neu roi cynnig ar borwr gwahanol yn helpu.

Na ellwch, dylech byth roi eich manylion logio i mewn i unrhyw un arall.. Byddwch angen eich enw defnyddiwr Bangor a’ch cyfrinair i ddefnyddio’r system ar-lein. GwelerÌýwww.bangor.ac.uk/itservices/policies/accept_use.php.cy

Gallech orfod talu cost ‘cofrestru hwyr’. Gweler:Ìýwww.bangor.ac.uk/registration.

Os ydych yn fyfyriwr israddedig gyda chyllid myfyriwr yn ei le, bydd methu â chofrestru mewn amser yn arwain at oedi gyda thaliad cyllid myfyrwyr

Byddwn yn anfon yr holl ohebiaeth bwysig i’ch cyfrif e-bost yn y Brifysgol, felly dylech edrych arno’n gyson.ÌýÌýÌý

Byddai’n syniad da ichi ddefnyddio eich cyfrif e-bost Prifysgol fel prif gyfrif e-bost; fodd bynnag, os oes angen ichi gynnal mwy nag un cyfrif e-bost (e.e. am resymau proffesiynol yn achos myfyrwyr rhan-amser sy’n gweithio), rhaid ichi naill ai edrych yn gyson ar eich cyfrif Prifysgol neu drefnu bod eich holl e-bost Prifysgol yn cael eu hanfon ymlaen, fel y bo’n briodol. Pan fyddwch yn anfon e-bost ymlaen, gofalwch fod y cyfrif newydd yn derbyn e-bost y Brifysgol.ÌýNi ellwch ddefnyddio methu â darllen e-bost y Brifysgol fel amgylchiadau lliniarol mewn unrhyw achos o beidio â chydymffurfio â rheoliadau a dulliau gweithredu’r Brifysgol.

E-bostir gwybodaeth ychwanegol pwysig ynglÅ·n â gweithdrefniadau cofrestruÌý , gwarchod data a rheoliadau eraill i'ch cyfrif e-bost y Brifysgol. Dylech ddarllen a chadw y wybodaeth yma trwy gydol eich cyfnod cofrestru.

Gallwch ofyn am ddogfen o gadarnhad gofrestru drwy'r

Ìý