Croeso i'ch Hwb Ymgeiswyr
Croeso i'ch hwb ymgeiswyr Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Meddygol. Rydym wedi creu'r dudalen hon i rannu gwybodaeth am yr hyn sy'n gwneud astudio ym Mangor yn unigryw ac i'ch helpu i wneud y penderfyniad pwysig ynghylch ble rydych chi'n mynd i astudio.
Archwiliwch yr hyn sy'n gwneud Bangor yn arbennig - o ymchwil arloesol a chyfleoedd dysgu ymarferol i gymuned fywiog a chefnogol lle gallwch ffynnu.
Ein Hwb Ymgeiswyr yw'r lle i chi fynd iddo ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch: manylion cwrs, straeon myfyrwyr, ac awgrymiadau i'ch helpu i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Darganfyddwch beth sy'n aros amdanoch a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw!
Oeddech chi'n gwybod?
Gan fod gan y Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg flwyddyn gyntaf gyffredin mae gennych yr hyblygrwydd i newid cyrsiau o'r ail flwyddyn ymlaen. Gall fod yn anodd gwybod cyn i chi ddechrau pa feysydd yn y gwyddorau meddygol fydd fwyaf diddorol i chi, felly mae hyn yn golygu bod gennych chi gyfle i ddarganfod hyn yn ystod blwyddyn un.
Mae ein hachrediad IBMS ar gyfer ein rhaglen Gwyddor Biofeddygol yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith cyflym a diddorol labordy patholeg modern gyda disgyblaethau'n amrywio o drefnu trallwysiadau gwaed i ganfod heintiau firaol mewn cleifion.
Mae ein gradd Gwyddorau Meddygol yn llwybr i鈥檔 rhaglen Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion ar gyfer y rhai sy鈥檔 graddio gydag o leiaf 2:1. Sylwch fod gofynion mynediad ychwanegol hefyd yn berthnasol.
Mae hyfforddiant ymarferol yn adeiladu eich sgiliau mewn meysydd fel geneteg, microbioleg, a mecanweithiau afiechyd, gan eich paratoi ar gyfer llwybrau gyrfa amrywiol.
Helo, a llongyfarchiadau ar wneud cais astudio yn Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Rydach chi wedi cymryd y cam cyntaf cyffrous tuag at ddyfodol mewn gofal iechyd.
Un sydd wedi wreiddio mewn pwrpas, cymuned ac effaith yn y byd go iawn.
Nawr eich bod wedi wneud cais. Efallai byddwch yn meddwl tybed beth sydd yn digwydd nesaf?
Peidiwch 芒 phoeni, fyddan ni yma eich tywys bob cam or ffordd.
Dyna pam rydan ni wedi creu eich hwb ymgeiswyr. Dyma eich gofod canolog ar gyfer pob dim sydd angen arnoch.
O gwestiynau cyffredin ac arweiniad ymarferol, i setlo ym mywyd Bangor a chysylltu gyda chyd-ddisgyblion y dyfodol.
Gwnewch yn si诺r eich bod yn ei wirio yn rheolaidd fel nad ydych yn colli yn rywbeth pwysig.
Rydym yn gobeithio eich croesawu i Fangor lle fyddwch chi n dysgu yn tyfu ac yn paratoi ar gyfer
gyrfa sy'n ymroddedig i wella iechyd a lles mewn cymunedau ledled gogledd Cymru a thu hwnt.
Archwiliwch eich hwb ymgeiswyr heddiw a chymryd y cam nesaf tuag at eich dyfodol gyda ni.
Cwrdd 芒'r darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.
Mwy o gwestiynau?
Oes gennych chi gwestiynau mwy penodol neu eisiau sgwrsio 芒'n myfyrwyr presennol? Gofynnwch unrhyw beth iddynt am y cwrs, bywyd campws, neu ymgartrefu. Maen nhw wedi bod yn eich esgidiau ac yn hapus i helpu ar Unibuddy.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Meddygol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Meddygol ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Meddygol ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?
Dilynwch ni ar Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael cipolwg ar fywyd ym Mangor - straeon myfyrwyr, digwyddiadau campws, a phopeth sy'n gwneud astudio yma yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn unigryw!
Ever wondered what a lab practical is ACTUALLY like? 馃ゼ Have a peek at our first year students from Medical Sciences, Biomedical Science and Pharmacology undertaking an investigation practical using mushrooms 馃崉 Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw ymarferol labordy? 馃ゼ Cyfle i gael cipolwg ar ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf o'r Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg yn cynnal ymchwiliad ymarferol gan ddefnyddio madarch 馃崉