Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr
Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Hanes, Archeoleg a Threftadaeth ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.
Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Hanes, Archeoleg a Threftadaeth
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.
Gwyliwch ein fideo
Helo, Leona Huey ydw i a dwi mor falch i glywed eich bod wedi wneud cais i ymeuno hefo ni yn Prifysgol Bangor
Os dych chi yn penderfynu dod i Bangor fyddech chi cael ei dysgu gan arbenigwyr yn y maes, yn edrych
ar bob cyfnod o hanes da ni hoffi cael chi mewn i yr amgueddfa, mewn i'r archifdy ac allan yn y maes,
yn enwedig ein ddau safle Treftadaeth y Byd UNESCO sydd reit ar y stepan drws
i cael dysgu ymarferol sydd yn helpu chi i gael swyddi ar ddiwedd eich gradd.
Da ni lwcus gael lleoliad mor gwych yma yn Bangor wrth y mynyddoedd ar M么r ac rydym
yn ffodus hefyd yn cael dosbarthiadau mor fach lle da ni yn eu cael cyfarfod chi, i gael ei nabod chi fel pobl a sut gorau i cefnogi chi yn ystod eich astudiaeth yma yn y brifysgol.
rydym ni yn edrych ymlaen i croesawu chi i Bangor yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Yn gyntaf, bydd pob wythnos yn rhoi amrywiaeth o ddosbarthiadau a phrofiadau i chi. Bydd darlithoedd gyda haneswyr ac archeolegwyr a byddwch yn cymryd rhan mewn seminarau. Mae鈥檙 seminarau bob amser yn canolbwyntio ar drafod pwnc diddorol mewn grwpiau bach. Bydd gweithdai hefyd: dosbarthiadau ymarferol yw鈥檙 rheini i'ch arfogi 芒 sgiliau, fel peilota dr么nau. Mae eich wythnos hefyd yn debygol o gynnwys teithiau maes ac ymweliadau ag amgueddfeydd, ac archwilio tirweddau hanesyddol ysblennydd gogledd Cymru. Yn y cyfamser, byddwch yn darllen o dan arweiniad ac yn gwneud gwaith paratoi, a bydd digon o gyfleoedd am gyfarfodydd un-i-un gyda darlithwyr.
Fel rheol ym mlwyddyn gyntaf gradd israddedig gyda ni bydd gennych ddosbarthiadau ar yr amserlen am oddeutu 10-14 awr yr wythnos. Bydd hynny鈥檔 amrywio ychydig gan ddibynnu pa fodiwlau a ddewiswch, ac ar gyfer yr opsiynau Archaeoleg a Threftadaeth yn neilltuol bydd yr oriau cyswllt yn uwch mewn rhai wythnosau os oes ymweliad 芒 safle neu wibdaith. Yn ogystal, gallwch drefnu cyfarfodydd gyda'ch darlithwyr i roi cyngor pellach am eich modiwlau a'ch asesiadau, a bydd gennych Diwtor Personol hefyd i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau
Mae astudio pwnc rydych yn frwd drosto鈥檔 gwneud eich profiad yn y brifysgol yn fwy dymunol a llwyddiannus. Mae ein graddau Hanes yn annog meddwl beirniadol allweddol ac maent yn rhoi sgiliau ymchwil a chyfathrebu annibynnol i chi, gan esbonio pam mae cymaint o'n graddedigion yn gweithio yn y cyfryngau, y gwasanaeth sifil a busnes. Rydym yn ymfalch茂o mewn dosbarthiadau bach gyda darlithwyr arbenigol, sy'n rhoi profiad gwych i fyfyrwyr, gan helpu meithrin eich hyder wrth i chi fynd i farchnad swyddi鈥檙 graddedigion. Mae鈥檙 byd yn ymagor i rywun sy鈥檔 meddu ar radd mewn Hanes!
Peidiwch 芒 phoeni! Does dim disgwyl bod gennych brofiadau academaidd o astudio Archaeoleg a Threftadaeth oherwydd nid ydynt yn cael eu cynnig yn yr ysgolion yn gyffredinol. Felly, mae holl fodiwlau鈥檙 flwyddyn gyntaf yn anelu at eich cyflwyno i鈥檙 pethau sylfaenol, ymgyfarwyddo 芒 thechnegau allweddol, ac, yn hollbwysig, mynd 芒 chi allan i archwilio鈥檙 drysorfa o safleoedd archeolegol yng ngogledd Cymru. Ymhlith y rheini mae twmpathau claddu, bryngaerau yn ogystal 芒鈥檙 cestyll a鈥檙 chwareli llechi a ddynodwyd gan UNESCO. Byddwn hefyd yn rhoi hyfforddiant digidol hanfodol i chi yn y dyniaethau, fel defnyddio technoleg Rhithrealiti yn y diwydiant treftadaeth.
Yma ym Mangor rydym yn canolbwyntio ar eich gyrfa, ac mae gennych yr opsiwn o gymryd modiwl Lleoliad Gwaith penodol yn ail neu drydedd flwyddyn eich gradd. Bydd hwnnw wedi'i deilwra at eich diddordebau a gallai gynnwys lleoliad mewn archifdy neu amgueddfa, profiad gwaith gyda sefydliadau treftadaeth, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu brojectau gyda busnesau. Mae disgwyliad i chi ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan yn gynlluniau interniaeth israddedig 芒 th芒l lle byddwch yn cydweithio 芒鈥檙 staff ar brojectau ymchwil, yn gwneud gwaith golygu neu hyd yn oed yn creu cynnwys i鈥檙 cyfryngau cymdeithasol. Cewch hefyd weithio ar waith cloddio o dan arweiniad ein harcheolegwyr a'u partneriaid yn y diwydiant mewn ymddiriedolaethau archeolegol a sefydliadau treftadaeth cenedlaethol.
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr
Dr Mari William
Mae Hanes yn gwbl berthnasol i ddeall y byd cythryblus 'da ni'n ei weld ar y newyddion ac yn ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr 21ain ganrif. Er enghraifft, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) a 'newyddion ffug' yn achosi cryn benbleth moesol ar hyn o bryd, ac mae edrych yn 么l trwy Hanes ar enghreifftiau eraill o dechnoleg yn newid cymdeithas yn help i roi y cwbl mewn cyd-destun e.e. dyfeisio'r wasg argraffu yn y Cyfnod Modern Cynnar, dyfodiad y teledu yn ystod y 1950au ayyb.
'Dwi'n hoffi'r ffaith fod yna gymaint o ffyrdd gwahanol o edrych ar Hanes, a fod y rhain yn newid o hyd. Ers rhai blynyddoedd mae gen i ddiddordeb mawr mewn pynciau fel hanes bwyd, hanes anifeiliaid ac hyd yn oed hanes tat诺s. Pan o'n i'n gneud fy Safon Uwch faswn i byth wedi dychmygu astudio'r rhain, a 'dwi mor ddiolchgar o sut mae bod yn hanesydd yn fy ngalluogi i ddysgu pethau newydd o hyd! Mae Hanes, a meysydd cysylltiol fel Archaeoleg a Threftadaeth, yn llawn straeon sy'n ysbrydoli.
Fel plentyn bach 'dwi'n cofio gweld ar y teledu Wal Berlin yn dod i lawr yn 1989, ac mi o'n i isio gwbod pam fod yna wal yn y lle cyntaf, a pham fod pobl yn dathlu ei bod hi'n cael ei dymchwel. O hynny 'mlaen mi oedd hanes modern yn un o fy mhrif ddiddordebau i, a phan ges i gyfle rai blynyddoedd yn 么l i ddysgu seminarau yngl欧n 芒 Wal Berlin mi o'n i wrth fy modd, yn enwedig gan i mi gael benthyg darn o'r Wal oedd ym meddiant un o fy nghydweithwyr i ddangos i fy myfyrwyr!
Mi faswn i'n wedi hoffi cael swper gyda'r dylunydd dillad Laura Ashley yn ystod y 1970au hwyr, pan oedd ei phrintiau blodeuog, chintzy yn anterth eu poblogrwydd ar ffrogiau a chyfategolion t欧. 'Roedd Laura Ashley yn dod o gefndir Cymreig, a sefydlodd ffatri yn Ngharno yng nghanolbarth Cymru wrth i'w busnes dyfu. Mi faswn 'di mwynhau sgwrsio efo hi am y cyferbyniad rhwng rhedeg cwmni byd-enwog a hynny o ardal wledig, gweddol anghysbell, o Gymru. Byddwn hefyd wedi'i holi am sut brofiad oedd bod yn ddynes mewn byd busnes yn y 1970au. Bu Laura Ashley farw mewn damwain yn ei chartref yn 1985, ond mae'n ddifyr fod llawer o'i phatrymau bellach yn ffasiynol ar TikTok ac Instagram o dan yr hashnod #cottagecore.