Rydym Ni'n Bobol Go Iawn
Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Ym Mangor rydym yn gwneud pethau'n wahanol. Y tu ôl i bopeth a wnawn mae tîm o bobl go iawn sydd yma i wrando, rhoi arweiniad i chi a'ch cefnogi, os oes gennych gwestiwn, rydym wir eisiau i chi gysylltu â ni; byddai’n llawer gwell gennym pe baech yn gofyn i ni na phoeni’n dawel.
Gallwch gysylltu â'n timau cyfeillgar derbyniadau a phynciau drwy e-bostio neu ffonio, a byddwn yn ymateb yn gyflym. Mae croeso i rieni, gofalwyr a chefnogwyr gysylltu â ni hefyd.
Ydi’n well gennych chi edrych ar bethau yn eich amser eich hun? Mae gennym hefyd adran glir a chyfredol lle gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin.
Sut bynnag y byddwch chi'n dewis cysylltu, mi gewch chi hyd i bobl go iawn ym Mangor sydd wir eisiau eich helpu chi i wneud penderfyniadau hyderus am eich dyfodol. Siaradwch efo ni nawr!
Cwrdd â'ch Darlithwyr
Helo pawb, enw fi ydi Dr Daniel Roberts, a dwi’n ddarlithydd yma mewn Electroneg ym Mhrifysgol Bangor.
Dwi jest eisiau gadael i chi wybod am y bartneriaeth sydd gennym ni efo’r UKESF, sef yr UK Electronics Skills Foundation, a beth sydd yn agor drws i chi fel myfyrwyr ydi mynediad i’r cynllun ysgoloriaethau sydd ganddyn nhw. Mae hyn yn rhoid mynediad i £1,000 o bunnoedd bob blwyddyn i chi, a hefyd yn agor drysau i lefydd gwaith neu ‘Summer Placements’ i chi.
Peidiwch â phoeni am wneud cais cyn i chi ddod, mi fyddwn yn gallu help efo’ch cais pan rydych chi yma efo ni.
Edrych ymlaen at gyfarfod chi i gyd.
Dyma ni ein Hystafell Glân Mil
Dyma ni ein Hystafell Glân Mil, neu Ystafell Glân ISO 6; beth mae hynny’n golygu ydi bod dim ond mil gronyn o aer per cubic foot yn cael mynd i mewn i’r ystafell. Os ydym yn meddwl amdanom ni fel person, ‘da ni, mwy neu lai, yn colli can-mil o ronynnau bob tro ‘da ni jest yn eistedd. Mae o yn bwysig ein bod yn ffiltro allan y gronynnau yma gan fod nhw yn gallu effeithio dyfeisiadau electroneg.
Rydych hefyd yn gallu gweld fod y golau yn fwy melyn a dim yn wyn; mae hynny oherwydd rydym yn ffiltro allan y UV allan o’r golau hefyd sydd yn gallu effeithio ar y dyfeisiadau electroneg.
Fel myfyriwr israddedig, byddwch yn cael mynediad i’r ystafell yma, rhywbeth tydi Prifysgolion ddim yn gadael i chi ei wneud. Byddwch yn gallu dod am tour o’r ystafell yn eich blwyddyn gyntaf chi, ac yn eich trydedd flwyddyn chi, fyddwch chi yn gallu gwneud prosiect efo un o’r darlithwyr.