Llywodraethu Ymchwil
Hyd yn oed os na fyddwch yn cyflwyno eich project am gymeradwyaeth foesegol mae’n ofynnol i chi hysbysu'r Ysgol Gwyddorau Iechyd a Meddygol bod yr ymchwil yn cael ei wneud a defnyddio un o'r dulliau a amlinellir isod.
Cofrestru/Adolygu Project Dadansoddi Data Eilaidd
Efallai y bydd rhaid cael cymeradwyaeth foesegol hefyd i brojectau sy'n cynnwys dadansoddi data eilaidd. Lawrlwythwch y ffurflen gofrestru/adolygu project yma, a'i chyflwyno i gadeirydd y Pwyllgor Moeseg i'w hystyried, ynghyd â chopi o'ch cynnig ymchwil. Ceir arweiniad pellach ar ddadansoddi data eilaidd yn y Polisi Ymchwil. Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, trwy e-bost: d.seddon@bangor.ac.uk.
Gwaith gwerthuso gwasanaeth
Bydd angen i chi e-bostio'r dogfennau canlynol at Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Academaidd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru/Ysgol Gwyddorau Iechyd cyn i'r gwaith ddechrau:
- Copi o'ch protocol gwerthuso gwasanaeth
- Copi o'r teclyn penderfynu Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi'i gwblhau, sy'n ein helpu i wahaniaethu rhwng gwaith ymchwil (fel y'i diffinnir gan Fframwaith Polisi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig) a gwaith gwerthuso gwasanaeth:
Cofrestru Projectau a'r Gofrestr Ymbelydredd ar gyfer Arbrofion sydd wedi eu lleoli yn yr Ystafell Belydr-x
Gallwch lawrlwytho'r ffurflen gofrestru projectau a'r gofrestr ymbelydredd yma. Llenwch y ffurflen a'i chyflwyno i'r Goruchwyliwr Diogelu Ymbelydredd i'w chymeradwyo. Yna dylid cyflwyno'r copi wedi ei lofnodi i gadeirydd Pwyllgor Moeseg y brifysgol. Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, trwy e-bost: d.seddon@bangor.ac.uk.
Adnoddau Defnyddiol
Canllawiau Prifysgol Bangor
- Llawlyfr Gwaith Maes
- Gwybodaeth GDPR
- Cymeradwyo'r Broses Gofrestru i Ymchwil Sensitif
- Polisi Moeseg Ymchwil
- Polisi Rheoli Data PB
- Moeseg a'r Gymraeg
I weld Polisi Llywodraethu Ymchwil BCUHB a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, cysylltwch â;
Dr Huw Roberts huw.roberts@bangor.ac.uk
Canllawiau ar gyfer llenwi’r Ffurflen Cyflwyniad Electronig
Adnoddau ar gyfer Profion Clinigol
- Proses graffu, cymeradwyo a monitro Pwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol (Prifysgol Bangor)
- Cynrychiolwyr nawdd
Canllawiau GIG
- Adnoddau Penderfynu
- Diffinio Ymchwil y GIG
- Canllawiau ar broses wneud cais y GIG
- Defnyddwyr Newydd IRAS
Pasbort Ymchwil
Cyfranogiad Cleifion a'r Cyhoedd
Cysylltwch â ni
Llywodraethu – Diane Seddon (d.seddon@bangor.ac.uk)
Cynrychiolydd noddwyr ar gyfer treialon – Huw Roberts (huw.roberts@bangor.ac.uk)